Taflu Goleuni ar ‘Arlunydd Gorau’ Cymru
Eleni, bydd darlith gelf flynyddol T Rowland Hughes Prifysgol Bangor yn dathlu canmlwyddiant geni Syr Kyffin Williams, Cymrawd er Anrhydedd y Brifysgol ac un sy’n cael ei ystyried gan nifer yn bennaf arlunydd Cymru.
Teitl darlith Rian Evans, newyddiadurwaig a beirniad celf uchel ei pharch, fydd “Kyffin Williams: the artist as Time-Lord”, a gaiff ei chynnal ddydd Mawrth 5 Mehefin (6yh, yn Narlithfa Eric Sunderland / Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor).
Adwaenai Rian Evans Kyffin Williams yn dda ac mae wedi ysgrifennu’n helaeth amdano. Cyhoeddwyd ei llyfr diweddaraf, Kyffin Williams: The Light & The Dark, y mis diwethaf i gyd-fynd â chanmlwyddiant geni’r arlunydd. Yn ystod ei darlith ddarluniadol ar 5 Mehefin, bydd Rian Evans yn archwilio sut yr amlygodd chwilfrydedd a diddordeb ysol Kyffin yn y gorffennol a’r presennol yn ei weithiau celf eiconig.
Mynediad am ddim i’r ddarlith. Croeso i bawb.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2018