Taith y Sgriblwyr
Cafodd ysgolion o Sir Gonwy a Gwynedd brofi diwrnod ysbrydoledig o ddigwyddiadau gydag ysgrifenwyr ar y Daith y Sgriblwyr ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Gan ganolbwyntio ar lythrennedd a’r amgylchedd, bydd taith o awduron yn ymweld â saith prifysgol ledled Cymru ym mis Chwefror a Mawrth 2012 gan obeithio yn ysbrydoli ac annog pobl ifanc yn eu harddegau i fod yn greadigol ac i ddechrau ysgrifennu eu hunain. Bydd y daith yn croesau mwy na 10,000 o ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru gyda ysgolion Syr Hugh Owen, David Hughes, Eifionydd, Glan y Môr, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Conwy, Tryfan and St Gerard's yn dod i Fangor.
Mae’r rhestr o awduron sydd wedi ennill gwobrau a fydd yn rhan o’r daiyj llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol i ysgolion yn cynnwysd Patrick Ness, Saci Lloyd, Melvin
Burgess, Andrew Hammond, Marcus Alexander, Jenny Valentine, Phil Higson, JD Sharpe, Irfan Master a Cathy Brett.
Ewch i www.hayfestival.org/scribblers am fwy o wybodaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2012