Talent Glanaethwy
Llongyfarchiadau mawr i Gôr Glanaethwy ar ddod i’r brig drwy bleidlais gyhoeddus yn rownd gyn-derfynol Britain’s Got Talent! Yn dilyn eu llwyddiant yn y gystadleuaeth nos Lun, bydd y côr, sy’n cynnwys dros 160 o aelodau, yn cystadlu yn rownd derfynol y gystadleuaeth dalent ar ITV.
Arweinydd y côr yw Cefin Roberts o Fangor sydd hefyd yn fyfyriwr ymchwil yn Ysgol y Gymraeg. Sefydlwyd Ysgol Glanaethwy yn 1990 ganddo ef a’i wraig, Rhian, i gynnig cyfleoedd perfformio i blant a phobl ifanc yng ngogledd Cymru. Ers hynny mae’r ysgol wedi profi llu o lwyddiannau, ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol, a Phrifysgol Bangor wedi dyfarnu Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Cefin a Rhian i gydnabod eu cyfraniad.
Yn 2008 daeth Cor Hŷn Glanaethwy yn ail yn rownd derfynol rhaglen dalent y BBC, Last Choir Standing, ond mae’r côr presennol yn cynnwys aelodau rhwng saith a 70 oed. Ymhlith yr aelodau hynny y mae rhai o staff a myfyrwyr presennol Prifysgol Bangor, ac rydym yn dymuno’n dda iddynt yn y rownd derfynol a ddarlledir yn fyw nos Sul nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2015