Trydedd Ddarlith Gymreig Flynyddol Cymdeithas Astudiaethau'r Dadeni
Mae Ysgol y Saesneg yn falch iawn o gael croesawu Trydedd Ddarlith Gymreig Flynyddol Cymdeithas Astudiaethau'r Dadeni ddydd Iau 24 Ebrill 2014 am 5.15 pm ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau. Fe'i traddodir gan yr Athro Jennifer Richards (Prifysgol Newcastle) a’r Athro Richard Wistreich (Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd) ar destun 'Lleisiau'r Dadeni'.
Mae’r Athro Richards wedi cyhoeddi’n helaeth ar lenyddiaeth a diwylliant y cyfnod modern cynnar, ac mae'n arbenigwr ar rethreg, hanes syniadau a syniadaeth wleidyddol, hanes darllen a'r dyniaethau meddygol. Mae'r Athro Wistreich yn ysgolhaig ac yn berfformiwr o fri rhyngwladol, y mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar hanes diwylliannol a chymdeithasol creu cerddoriaeth yn Ewrop yn y cyfnod modern cynnar. Ar hyn o bryd maent yn brif ymchwilwyr ar rwydwaith ymchwil dan nawdd AHRC, ‘Voices and Books in Early Modern England, 1500-1800’, sy'n datgelu arferion cymdeithasol darllen yn uchel yn y cyfnod modern cynnar a sut mae darllen yn ymgysylltu â ffurfiau eraill ar fynegiant llafar.
Cymdeithas Astudiaethau’r Dadeni yw'r prif gorff ar gyfer pobl ym Mhrydain ac Iwerddon sydd yn ymddiddori yn holl agweddau cyfnod y Dadeni. Bob blwyddyn mae'r gangen Gymreig yn trefnu'r Ddarlith Gymreig Flynyddol sydd yn dod â rhai o'r ysgolheigion mwyaf blaenllaw yn eu disgyblaethau i Gymru.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2014