Wythnos Busnes Gwynedd 2014 - Dathlu a hyrwyddo busnesau’r sir
Bydd Digwyddiad Brecwast Busnes yn y Ganolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor yn lansio Wythnos Busnes Gwynedd ddydd Llun, 19 Mai. Bydd y Lansio yn cynnig cyfle i rwydweithio a mwynhau araith gan Ieuan Wyn Jones ar y Parc Gwyddoniaeth Menai dros frecwast.
Am y nawfed flwyddyn yn olynol, bydd Wythnos Busnes Gwynedd (19 a 23 Mai) yn hyrwyddo ac yn dathlu llwyddiannau busnesau lleol yn ogystal â chynnig cyfle gwych i gwmnïau’r sir ddod at ei gilydd i rwydweithio a rhannu syniadau.
Yn ystod yr wythnos bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ar draws y sir, yn cynnwys Dolgellau, Bangor, Caernarfon a Phwllheli. Bydd croeso i fusnesau newydd yn ogystal â busnesau sefydledig fynychu’r digwyddiadau hyn.
Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Economi Cyngor Gwynedd: “Rydym yn edrych ymlaen at y digwyddiad arbennig yma, yn ogystal â’r holl ddigwyddiadau busnes yn ystod yr wythnos, sy’n gyfle i ddathlu llwyddiannau cymuned fusnes Gwynedd. Rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn materion busnes a’r economi leol i ymuno â ni yn y digwyddiadau pwysig hyn.”
Uchafbwynt yr wythnos fydd Cinio Gala Wythnos Busnes Gwynedd fydd yn cael ei gynnal dydd Iau, 22 Mai yn y Ganolfan Rheolaeth, Bangor. Bydd y Cinio yn gyfle i arweinyddion busnes o bob cwr o Wynedd gyfarfod i rannu syniadau a phrofiadau.
Yn ystod y Cinio, bydd Rhwydwaith Busnes Gwynedd yn cyflwyno gwobr i’r person sydd wedi ei enwebu fel Person Busnes y Flwyddyn yng Ngwynedd. Yn ogystal bydd cangen Gwynedd o Ffederasiwn Busnesau Bach yn cyflwyno gwobr i’r Entrepreneur Ifanc sydd wedi sefydlu busnes yn llwyddiannus yn ystod y flwyddyn ac wedi cyfrannu’n bositif at economi Gwynedd.
Ychwanegodd Tanya Keith, Cyfarwyddwr Datblygiad Busnes o’r Ganolfan Rheolaeth, Ysgol Fusnes Bangor: “Mae’r Ganolfan Rheolaeth ym Mhrifysgol Bangor yn falch o weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Gwynedd i groesawu Cinio Gala blynyddol Wythnos Busnes Gwynedd. Mae Wythnos Busnes Gwynedd yn feincnod pwysig o lwyddiant a chyrhaeddiad yn ein hardal ac yn rhoi cyfle gwych i fusnesau lleol a rhanbarthol ddod at ei gilydd i gydweithio a rhwydweithio.”
Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau sy’n rhan o’r wythnos ewch i wefan y Cyngor: www.gwynedd.gov.uk/wythnosbusnes neu i archebu lle yn y Digwyddiad Brecwast Busnes neu Cinio Gala Wythnos Busnes e-bostiwch events@themanagementcentre.co.uk neu ffonio 01248 365912.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2014