Wythnos Graddio Prifysgol Bangor 2012: Gorffennaf 14 -20
Bydd dros ddwy fil o fyfyrwyr yn graddio o Brifysgol Bangor mewn tair seremoni ar ddeg, i’w gynnal dros chwe diwrnod yr wythnos hon (14-20 Gorffennaf 2012). Bydd teuluoedd a chyfeillion yn ymuno â’r myfyrwyr wrth iddynt ddathlu eu llwyddiant.
Hefyd yn ymuno â hwy mewn sawl seremoni bydd unigolion sydd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor.
"Mae gan Brifysgol Bangor draddodiad cryf o gydnabod cyraeddiadau dynion a merched o feysydd gwahanol drwy ddyfarnu Cymrodoriaethau er Anrhydedd. Mae’r un yn wir eleni. Bydd ein Cymrodyr yn cyfrannu arbenigrwydd a chyfaredd at y seremonïau, tra byddwn hefyd yn cydnabod llwyddiannau ein myfyrwyr," meddai Dr David Roberts, Cofrestrydd y Brifysgol.
Eleni, bydd Yr Athro Steve Jones, Athro Geneteg, University College London (UCL), awdur arobryn ym maes y gwyddorau a darlledwr yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaethau i Wyddoniaeth ar Ddydd Sadwrn, Gorffennaf 14eg. Bydd yn cael ei gyflwyno gan yr Athro David Shepherd, Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil a Menter).
Dydd Llun, Gorffennaf 16eg bydd Yr Athro Tony Jones CBE a fu’n Llywydd y School of Art, Institute of Chicago 1986-92 a 1996-2008 – ond gwasanaethodd hefyd fel Rheithor y Royal College of Art o 1992-96; cyn hynny’n bu’n Gyfarwyddwr y Glasgow School of Art, yn derbyn Cymrodoraieth er Anrhydedd. Bydd Yr Athro Malcolm David Evans OBE, Athro Cyfraith Ryngwladol, Prifysgol Bryste, hefyd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaethau i’r Gyfraith.
Bydd Terence David Hands CBE, Cyfarwyddwr Clwyd Theatr Cymru; ac a fu’n rhedeg y Royal Shakespeare Company am 20 mlynedd, yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaethau i’r theatr ar Ddydd Mawrth, Gorffennaf 17eg, yn ogystal a Yr Athro Catherine McKenna, Athro Ieithoedd a Llenyddiaeth Geltaidd, Prifysgol Harvard am wasanaethau i astudio ieithoedd a llenyddiaeth Geltaidd. Bydd Dr Gwyneth Lewis, Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru o 2005-06 hefyd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaethau i lenyddiaeth Cymraeg. Yn y prynhawn bydd John Gibb Marshall (a adwaenir hefyd fel John Sessions), actor ac awdur, ac un o raddedigion Bangor yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaethau i ddrama. Yn fwyaf diweddar bu John Sessions yn portreadu Edward Heath yn y ffilm The Iron Lady, a Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Barry Jones, cyn AS Alun a Glannau Dyfrdwy, a Gweinidog yn y llywodraeth, ac un o raddedigion y Coleg Normal hefyd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd.
Bydd Bleddyn Wynn-Jones – casglwr a meithrinwr planhigion, Gerddi Fferm Crûg, yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaethau i Lysieueg a Garddwriaeth ar Dydd Iau, Gorffennaf 19eg.
Am storiâu unigol myfyrwyr cliciwch yma
Gwyliwch fideos wythnos Graddio
Detholiad o luniau wythnos Graddio yn yr oriel luniau
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2012