Ymweliad dau Athro o sefydliadau partner
Bu dau athro o sefydliadau partner Erasmus yn ymweld â'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn ddiweddar.
Bu'r Athro Vera Trappmann, Athro Seicoleg ym Mhrifysgol Otto-von-Guericke, Magdeburg, yr Almaen, yn ymweld â’r ysgol ym mis Mawrth. Cyflwynodd yr Athro Trappmann seminar ar weithwyr o wlad Pwyl a bu'n dysgu israddedigion y flwyddyn gyntaf a'r ail.
Mae’r Athro Horst Unbehaun yn Athro Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Ohm yn Nürnberg, yr Almaen. Daeth i'r ysgol ym mis Mai a chyflwynodd seminar ar fewnfudo i'r Almaen.
Mae Prifysgol Otto-von-Guericke, Magdeburg a Phrifysgol Georg Simon Ohm yn bartneriaid Erasmus i'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ac yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr Bangor astudio dramor.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2013