Ymysg y cant uchaf am addysgu
Mae Prifysgol Bangor ymysg y 100 Prifysgol orau yn Ewrop yn y tabl cynghrair prifysgolion a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Y Times Higher Education (THE) University Teaching Ranking yw’r tabl cynghrair cyntaf i ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar ddysgu ac addysgu ac mae’n seiliedig ar yr arolwg barn myfyrwyr Ewropeaidd cyntaf gan y THE ac ar ddata arall sydd ar gael.
Mae’r tabl yn gosod prifysgolion yn ôl y rhai sy’n rhagori mewn addysgu, a chan mai Prifysgol Bangor yw’r unig brifysgol yng Nghymru i ennill y wobr aur yn rownd gyntaf y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF), nid oes unrhyw syndod felly bod Bangor ymhlith y prifysgolion blaenllaw sy’n darparu’r amgylchedd dysgu gorau i fyfyrwyr.
Cafodd Prifysgol Bangor sgôr uchel (90.8%) am yr amgylchedd, sy’n adlewyrchu awyrgylch cynhwysol y Brifysgol a chysylltiad myfyrwyr gyda’u hastudiaethau a’u darlithwyr, y cyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau a’u barn ar ansawdd y gwasanaethau yn y Brifysgol.
Cafodd Prifysgol Bangor sgôr uchel hefyd am adnoddau ac ennyn cyfraniad, gan adlewyrchu ethos y Brifysgol o ofalu am ei myfyrwyr a darparu profiad addysgol o ansawdd uchel.
Wrth groesawu’r Tabl Cynghrair diweddaraf, dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro John G Hughes:
“Mae’r Tabl Cynghrair diweddaraf hwn yn cydnabod yr addysg ragorol a’r gefnogaeth nodedig y mae ein myfyrwyr yn eu mwynhau. Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd i’n myfyrwyr ddysgu ac ennill profiadau gwerthfawr yn ystod eu cyfnod yn astudio yma fydd o fudd i’w gyrfaoedd.”
Meddai’r Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-ganghellor Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol Bangor, mewn ymateb i’r canlyniadau:
"Mae'r canlyniadau hyn yn gadarnhad pellach o'n gweithgareddau. Mae gennym enw da am ddarparu addysg ragorol a chefnogaeth ragorol i fyfyrwyr, ac mae'r canlyniadau hyn yn adlewyrchu hynny eto. Dylai’r data hwn fod ar gael yn rhwydd i ddarpar fyfyrwyr, wrth iddynt wneud penderfyniadau am brifysgolion dros yr wythnosau nesaf.”
Mae Liam Evans, 21 oed o Hen Golwyn, yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor ac mae erbyn hyn yn newyddiadurwr gyda BBC Radio Cymru.
Yn ôl Liam, cyn-ddisgybl yn Ysgol Bod Alaw ac Ysgol y Creuddyn, roedd Bangor yn ddewis naturiol iddo. Meddai:
"Roeddwn i’n gwybod mai Bangor oedd y sefydliad gyda’r ysgolion academaidd gorau ar gyfer y pynciau roeddwn i eisiau eu hastudio ac, ar ben hynny, mae’n lle hynod brydferth gyda’r diwylliant Cymraeg gorau yng Nghymru."
Gosodwyd Prifysgol Bangor hefyd yn safle 47 yn Nhablau Cynghrair diweddaraf y Guardian ar gyfer 2019, ac mae ymysg y 10 uchaf o blith prifysgolion y DU am chwe phwnc a ddysgir yn y brifysgol yn ôl y Complete University Guide 2019. Yn yr Arolwg Boddhad Myfyrwyr Cenedlaethol diweddaraf, cafodd tri ar ddeg o gyrsiau gradd gyfraddau boddhad o 100% gan y myfyrwyr, a chafodd naw o feysydd pwnc cyffredinol hefyd foddhad o 100%, gan eu rhoi ar frig eu tabl pwnc yn y Deyrnas Unedig.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2018