Yn ddiweddar bu i'r myfyriwr a'r aelod staff roi cyflwyniad yn y gynhadledd ryngwladol, City Margins, City Memories
Yn ddiweddar, bu i'r Ysgol Athroniaeth a Chrefydd, ar y cyd â'r Ysgol Ieithoedd Modern, drefnu'r gynhadledd ryngwladol, ryngddisgyblaethol, City Margins, City Memories, yn y 'School of Advanced Study' yn y 'Senate House', Llundain.
Noddwyd y gynhadledd gan Opus, Archives and Research Center (California), yr 'Institute of Modern Languages Research' (Llundain), a Phrifysgol Bangor.
Bu i Dan Phillips, a astudiodd ar gyfer ei radd BA ac MA yn yr Ysgol Athroniaeth a Chrefydd, gyflwyno'i bapur, ‘The Labyrinthine Metropolis: archetypal cities of order and chaos’.
Cyflwynodd Dr Lucy Huskinson ei phapur, ‘Reclaiming the City for Psyche: resetting the cornerstone of archetypal psychology’. Roedd papur Lucy yn lledaenu canlyniadau o'i phroject, 'Being Built: Re-Visioning Architectural Design and Urban Planning', ar gyfer yr hyn y dyfarnwyd grant iddi gan Opus, Archives and Research Center (California).
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2014