Yr Athro Emily Cross wedi ei dewis i ymuno â grŵp uchel eu parch o wyddonwyr Ewropeaidd
Mae'r Athro Cross, o'r Ysgol Seicoleg lwyddiannus ym Mangor, wedi cael ei gwahodd i ymuno ag Academi Ifanc Ewrop, sef grŵp o wyddonwyr ifanc o bob rhan o Ewrop sy'n ceisio hyrwyddo rhagoriaeth wyddonol drwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio, cyfnewid gwyddonol a thrafod polisi gwyddonol.
Meddai'r Athro Cross, "Mae hon yn anrhydedd arbennig sy’n dangos yn glir bod amgylchedd ymchwil rhagorol i'wgael yn Ysgol Seicoleg Bangor. Dyma sydd wedi golygu bod ymchwil fy nhîm i niwrowyddoniaeth gymdeithasol wedi gallu ffynnu dros y chwe blynedd dwythaf. Dwi'n teimlo'n gyffrous iawn wrth ymuno â'r grŵp mawreddog yma o academyddion ifanc sy'n gweithio mewn ffordd gadarnhaol i siapio’r dirwedd ymchwil er mwyn cefnogi gyrfaoedd ymchwilwyr newydd ledled Ewrop."
Mae ei hymchwil yn Labordy 'Social Brain in Action' yn edrych ar ein canfyddiadau ni o bobl eraill yn y byd cymdeithasol a sut yr ydym yn ymwneud â nhw. Yn ddiweddar hefyd mae wedi dechrau canolbwyntio ar ein canfyddiad o robotiaid a sut yr ydym yn ymwneud â hwythau ac mae wedi cael grant o £1.5 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd i gynnal project o'r enw 'Social Robots: Mechanisms and Consequences of Attributing Socialness to Artificial Agents’.
Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro John Parkinson, "Dan ni'n falch iawn o'r amgylchedd ymchwil sydd gynnon ni ym Mangor ac mae cyfraniad Emily at hynny wedi bod yn aruthrol dros y blynyddoedd dwythaf ac mae hi'n llawn haeddu cael ei chydnabod fel hyn".
Mae'r Athro Cross yn un o aelodau staff academaidd tramor yr Ysgol ac yn dod yn wreiddiol o Ohio yn yr Unol Daleithiau. Mae'n bleidiol iawn dros fanteision integreiddio a chydweithio "Dylai unrhyw un sydd wedi dilyn hynt materion cyfoes ar y ddwy ochr i fôr Iwerydd fod yn anesmwyth oherwydd y duedd yn y misoedd diwethaf i gymdeithasau gwaraidd, yn ôl y sôn, droi tu min ar dystiolaeth, syniadaeth resymegol a data empeiraidd wrth wneud penderfyniadau a oedd yn eithriadol o bwysig ar gyfer dyfodol gwladwriaethau cyfan.
Bwriad Academi Ifanc Ewrop yw bod yn rym dros newid a chynnydd cadarnhaol yn Ewrop a'r byd trwy sicrhau bod barn arbenigwyr a pholisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn parhau’n berthnasol, yn hygyrch ac yn glir. Bydd hi’n fraint ac yn bleser cael ychwanegu fy llais a fy arbenigedd i at yr ymdrech hollbwysig yma."
Dyddiad cyhoeddi: 9 Chwefror 2017