Yr Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad yn Rhagori yn REF 2014
Yn yr ymarfer a gynhaliwyd yn 2014 gan Lywodraeth y DU i arfarnu ymchwil, mae cyfartaledd pwyntiau gradd yr Ysgol hon, o 3.27 ar draws y tair uned asesu, yn golygu ein bod ar y 6ed safle yn y DU wrth ochr cyfartaledd pwyntiau gradd sefydliadau’n gyffredinol. Mae hyn yn ardystiad gwych i’r ymchwil o ansawdd uchel a wneir ar draws y Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad, ac i amgylchedd ymchwil sy’n cael effaith ystyrlon. Mae Prifysgol Bangor yn ei chrynswth wedi perfformio’n gryf yn y REF, a’r canlyniadau’n gosod Bangor ymysg 40 uchaf y DU.
Mynegodd yr Athro Nicky Callow, Deon y Coleg, ei phleser ynglŷn â’r canlyniad: “Rwyf wrth fy modd ynglŷn â’r perfformiad ar draws yr unedau asesu o fewn y Coleg; mae’n dyst i waith caled ac ymroddiad ein staff a’n myfyrwyr. Mae’r canlyniadau hyn, ochr yn ochr â’r sgorau gwych a gafwyd yn Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2014, yn dangos sut y byddwn yn cyflawni mewn amgylchedd dysgu sydd ymysg y goreuon, yn y DU ac yn rhyngwladol.”
Gellir mynd at dabl cryno yn rhoi canlyniadau REF y Brifysgol yma.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014