Yr Ysgol Hanes yn yr Eisteddfod!
Bydd staff yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg yn cyfrannu at fwrlwm Eisteddfod Genedlaethol, Dinbych [3-11 Awst 2013]…
- ‘Y Plas’: Bydd Dr Lowri Ann Rees yn rhan o banel trafod ar gyfres hanes byw newydd S4C ‘Y Plas’. Yn ymuno â Lowri ar y panel bydd Dafydd Rhys (S4C), Rachel Evans (Bulb Films), Margaret Williams (Ymddiriedolaeth Genedlaethol). Amser a lleoliad: Dydd Llun, 5 Awst, 1-2, Theatr S4C.
- ‘Y Brifysgol Ddoe a Heddiw’: Yn y sesiwn yma bydd Dr Andrew Edwards, Dr Mari Elin Wiliam, Dr Lowri Rees a Dr Euryn Roberts yn casglu atgofion am fywyd myfyrwyr ym Mangor yn y gorffennol. Hefyd yn helpu bydd Lois Owens, myfyrwraig Blwyddyn 3 sy’n ysgrifennu traethawd hir ar brotestiadau iaith ym Mangor yn ystod y 1970au. Dewch draw os ydych yn gyn-fyfyriwr o Fangor sydd efo stori i’w rhannu, neu efallai ddogfennau a ffotograffau yn deillio o’ch cyfnod ym Mangor. Amser a lleoliad: Dydd Mercher, 7 Awst, 12-1, Pabell Prifysgol Bangor.
- ‘Cymal Iaith y Ddeddf Uno 1536’: Bydd Ms Nia Powell yn dadlau mai cymal iaith Deddf Uno 1536 a achubodd yr iaith Gymraeg mewn darlith i Gymdeithas Carnhuanawc. Amser a lleoliad: Dydd Mercher, 7 Awst, 12.30, Pabell Cymdeithasau 2.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Awst 2013