Ysgol Athroniaeth a Chrefydd wedi lansio
Daeth llawer o staff academaidd a gweinyddol o Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau i lansio Ysgol newydd Athroniaeth a Chrefydd yn Ystafell y Cyngor ddydd Gwener, 12 Hydref. Roedd aelodau’r Cyngor yn bresennol a chroesawodd yr Is-ganghellor bawb a oedd wedi medru dod i’r achlysur. Er bod hwn yn gynllun newydd dywedodd Dr Eryl W Davies, Pennaeth yr Ysgol newydd, bod yr Ysgol yn cael ei hadeiladu ar seiliau cadarn gan fod crefydd (mewn amrywiol weddau) wedi cael ei dysgu ym Mangor am ymhell dros ganrif, tra bod athroniaeth wedi cael ei ddysgu yma tan ddechrau’r 1980au. Felly roedd traddodiad maith a chlodwiw o ddysgu’r ddau bwnc yn y brifysgol. Diolchodd Dr Davies i aelodau’r Cyngor ac i’r Is-ganghellor am eu cefnogaeth, yn ogystal ag i’r staff gweinyddol a oedd wedi gweithio yn y cefndir er mwyn sicrhau bod lansio’r Ysgol newydd yn llwyddiant.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2012