Ysgol y Gyfraith Bangor yn cynnal Ffair Gyrfaoedd
Bydd Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor yn cynnal ei ffair gyrfaoedd gyntaf erioed er budd y myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr.
Cynhelir y digwyddiad yn Neuadd Reichel ddydd Mercher, 27 Tachwedd, a bydd yn rhoi cyfle prin i fyfyrwyr o ddeuddeg ysgol leol i drafod eu hopsiynau gyrfaol gyda bargyfreithwyr a chyfreithwyr gweithredol a chyfreithwyr mewnol. Y gŵr gwadd fydd Syr Roderick Evans, barnwr yr Uchel Lys sydd wedi ymddeol a chyn Farnwr Llywyddol Cymru.
Bydd cynrychiolwyr o'r cwmnïau a'r sefydliadau canlynol yn bresennol yn y ffair o Atlantic Chambers, Civitas Chambers, Linenhall Chambers, Carter Vincent Jones Davis, Gamlins, Hugh James, Knox Commercial, Stephensons, Cyngor Gwynedd, Cymdeithas yr Ynadon, Globe Business Publishing (LawCareers.Net), Pearson Publishing, Cymdeithas y Gyfraith Myfyrwyr Bangor, Adran Gyrfaoedd Prifysgol Bangor, ac Ennill wrth Dendro (Project Ymchwil Caffael Cyhoeddus, Ysgol y Gyfraith Bangor).
Cynhelir nifer o sesiynau grŵp yn ystod y diwrnod, yn cynnwys ffug achos gyda Syr Roderick Evans yn llywyddu; ynghyd â sesiwn benodol i annog myfyrwyr i astudio modiwlau craidd yn y gyfraith trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Rydym yn ddiolchgar iawn i'r holl arddangoswyr am gefnogi ein Ffair y Gyfraith gyntaf erioed," meddai'r Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Bangor. "Mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi ymrwymo'n llawn i roi cynnig ar fentrau newydd i gyfoethogi profiad myfyrwyr. Cynhelir y ffair yn ychwanegol at ein rhaglen interniaeth lwyddiannus iawn, lle byddwn yn lleoli myfyrwyr gyda chwmnïau a siambrau i gael profiad gwaith gwerthfawr cyn graddio.
Dylai Ysgolion sydd eisiau gymryd rhan gysylltu â Gwilym Owen yn Ysgol y Gyfraith Bangor (john.g.owen@bangor.ac.uk).
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2013