Chris Drew, Pennaeth Projectau a Phartneriaethau Strategol
Chris yw pennaeth y tîm Projectau a Phartneriaethau Strategol ac ef sy’n arwain ar gysylltiadau’r Brifysgol ag amrywiaeth o bartneriaethau rhanbarthol. Mae ganddo hanes helaeth o gefnogi ymchwil ac arloesi, gan gynnwys datblygu projectau, rheoli projectau, datblygu polisi a datblygu partneriaethau cydweithredol, a chan rychwantu gweithrediad gweithredol, cyfreithiol a strategol projectau a rhaglenni. Mae’r profiad hwnnw’n cynnwys profiad hynod lwyddiannus o ddenu grantiau ar draws y sbectrwm academaidd, gan gynnwys datblygu rhaglenni newydd, rhaglenni ymchwil Cymru gyfan, yn ogystal â phrojectau wedi’u targedu at ddatblygu technoleg a llwybrau ecsbloetio. Mae rhaglenni llwyddiannus wedi sicrhau cyfleoedd ymchwil Cymru gyfan, isadeiledd academaidd, datblygu technoleg a throsglwyddo technoleg, ac ymgyrchoedd cyllido datblygu rhanbarthol a chyfnewid gwybodaeth, ac mae pob un ohonynt yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol y Brifysgol.
Ar hyn o bryd mae Chris yn arwain tîm bach sy'n darparu amrywiaeth o fentrau a phrojectau strategol ar draws portffolio'r Brifysgol ac yn cyflawni ar y rhyngwyneb rhwng rhaglenni cyfalaf, newid strategol mewn ymchwil, addysgu ac isadeiledd.
Yn ogystal, mae Chris yn arwain ar y gwaith o gynnal cysylltiadau’r Brifysgol gyda phartneriaid ar draws y Deyrnas Unedig ond yn bennaf yng Nghymru, gan gynnwys Partneriaethau Addysg Bellach ac Addysg Uwch, eto gan rychwantu addysgu, arloesi, a gweithgareddau datblygu masnachol a rhanbarthol. Mae’r gweithgareddau hyn yn cyd-fynd â’r gefnogaeth feunyddiol a ddarperir ar gyfer y cysylltiadau ar draws y Gwasanaethau Proffesiynol, ac yn ceisio sicrhau’r budd mwyaf posibl o’r potensial strategol y mae’r cysylltiadau hyn yn eu cynnig.