Claire Davis, Uwch Swyddog Cynllunio (Rheolwr Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil)
Claire yw'r pwynt cyswllt canolog ar gyfer yr holl faterion sy'n ymwneud â’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) ar draws y Sefydliad, ac mae'n chwarae rhan arweiniol ar draws y Brifysgol mewn perthynas â goruchwylio a rheoli gwybodaeth ymchwil ar gyfer y REF, gan gefnogi'r Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil) a’r Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol (REF) wrth ddatblygu strategaeth REF y Brifysgol. Mae Claire hefyd yn cyfrannu at ddatblygu a gweithredu'r broses gynllunio ar gyfer y Brifysgol, gan ddarparu cefnogaeth a chyngor mewn perthynas â chynllunio strategol a busnes, a darparu cymeradwyaeth strategol ar gyfer rhaglenni newydd y Coleg Meddygaeth ac Iechyd. Yn ogystal, mae Claire yn chwarae rhan arweiniol yn y gwaith o reoli, datblygu, hyrwyddo a hyfforddi ar gyfer system gwybodaeth ymchwil y Brifysgol, PURE. Mae Claire yn aelod o’r Pwyllgor Ymchwil a Grŵp Cyflawni’r REF.