Archwiliadau Ansawdd Mewnol
Nodwch fod y broses Archwilio Ansawdd Mewnol wedi cael ei hoedi ar hyn o bryd. Bydd y broses yn cael ei hail-lansio yn ystod y flwyddyn academaidd hon, a bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn fuan.
Mae’r Grŵp Cyflawni Sicrhau Ansawdd y Cwricwlwm, ar ran y Brifysgol, yn archwilio ysgolion bob 6 mlynedd yn eu tro i edrych a yw’r holl brosesau a dulliau yn ymwneud ag ansawdd a safonau addysgu a dysgu yn bodoli ac yn gweithredu’n effeithiol ac effeithlon. Mae hefyd yn argymell gwelliannau o ran yr addysgu a’r dysgu yn yr ysgol. Bydd unrhyw ddarpariaeth cydweithrediadol y mae ysgol ynghlwm wrtho’n cael ei gynnwys fel rhan o’r archwiliad ansawdd.
Fel rheol bydd ymweliad archwilio’n para 1 neu 2 ddiwrnod llawn a bydd yn cynnwys:
- Archwilio dogfen hunanwerthuso, cofnodion pwyllgor perthnasol a phob dogfennaeth arall sy’n ymwneud â dysgu ac addysgu mewn ysgol.
- Cyfarfod(ydd) â Phennaeth yr Ysgol a’r staff sydd â chyfrifoldeb am wahanol agweddau ar addysgu a dysgu (e.e. arholiadau, gofal bugeiliol, derbyn)
- Cyfarfod(ydd) â chynrychiolwyr y myfyrwyr
- Cyfarfod(ydd) â staff eraill sy’n ymwneud ag archwilio ansawdd ac/neu addysgu a dysgu (e.e. aelodau staff newydd / gweinyddwyr)
Rhoddir gwybod i ysgol ymlaen llaw beth fydd pwrpas ymweliad o’r fath, ond bydd yn berthnasol i’r holl gyrsiau a ddysgir (israddedig ac ôl-raddedig). Pan fydd tîm Archwilio’n ymweld ag ysgol, bydd yr eitemau canlynol yn cael eu cynnwys yn yr arolwg:
- Cyrsiau a modiwlau israddedig ac ôl-raddedig
- Systemau adrodd yn ôl
- Cydymffurfio
- Datblygu a Hyfforddi Staff
Yn dilyn yr ymweliad archwilio, darperir adroddiad a fydd yn tynnu sylw at feysydd o ymarfer da, ac yn nodi argymhellion ar gyfer yr Ysgol, y Coleg a’r Brifysgol. Bydd angen i’r ysgol ymateb i’r adroddiad ymhen 12 mis o ddyddiad yr archwiliad, yn nodi sut y mae’n gweithredu’r argymhellion a gynigiwyd yn yr adroddiad.