Digwyddiadau
Datgloi’r gyfrinach i les eithriadol
31 Mai 2023
12.30pm – 1.30pm
Lleoliad: Ar-lein
Bydd y gweithdy hwn yn archwilio ffyrdd y gallwch uchafu eich llesiant, a bydd yn ymchwilio i strategaethau a fydd yn eich cefnogi i ddiogelu eich lles at y dyfodol. Er mwyn gallu ffynnu o ddifrif mae angen i ni ddeall yn iawn beth sy'n ein dal yn ôl a beth sy'n ein gyrru ymlaen. Mae'r gweithdy hwn yn rhoi pobl yn ôl wrth yr awenau wrth reoli eu lles eu hunain.
Cyfres Sgiliau Haf
Motivation, mindset and me Gweithdy ar-lein
Dydd Llun, 5 Mehefin 12-1:00pm
**Mae'r digwyddiad yma yn Saesneg yn unig**
Pa syniadau sydd gennych chi am yrfa hyd yma? Beth sydd gennych i’w gynnig? Mae’r weminar yn archwilio sut mae cymhellion yn effeithio ar ddewisiadau gyrfa a bydd yn eich helpu chi ddeall sut y gall ymwybyddiaeth o’ch gwerthoedd, eich cymhellion a’ch cryfderau eich helpu chi ddod o hyd i waith sydd wrth eich bodd. Cewch awgrymiadau ymarferol hefyd i ddatblygu meddylfryd o dwf a chynnal eich brwdfrydedd wrth chwilio am swydd.
How to build your network for job hunting success Gweithdy ar-lein
Dydd Mawrth 6 Mehefin 12:00 – 1:00pm
**Mae'r digwyddiad yma yn Saesneg yn unig**
Yn nerfus ynglŷn â rhwydweithio? Erioed wedi meddwl pam mae cymaint o ffwdan yn ei gylch? Bydd y weminar yn esbonio beth yw rhwydweithio. Bydd yn dangos i chi pa mor ddefnyddiol ydyw wrth chwilio am swydd a sicrhau eich cam nesaf, yn ogystal â pha mor syml y gall fod. Ymunwch i ddarganfod mwy am fanteision rhwydweithio a chael awgrymiadau ymarferol ynglŷn â rhwydweithio yn y cnawd ac ar-lein.
Building resilience Gweithdy ar-lein
Dydd Mercher, 7 Mehefin, 12:00 – 1:00pm
**Mae'r digwyddiad yma yn Saesneg yn unig**
Mae gwytnwch yn allu pwysig i'w ddatblygu a'i arddangos i ddarpar gyflogwyr. Bydd y weminar yn diffinio gwytnwch a bydd yn eich helpu chi sylweddoli pa mor bwysig y daw wrth i chi lywio drwy brosesau recriwtio. Cewch ddysgu sut mae cyflogwyr yn mesur gwytnwch a darganfod sut y gallwch chi ddatblygu eich gwytnwch chithau a’i ddangos.
Learning to manage change Gweithdy ar-lein
Dydd Iau, 8 Mehefin 09:00am – 10:00am
**Mae'r digwyddiad yma yn Saesneg yn unig**
Mae newid yn anochel; ond sut mae rheoli'r broses a pham mae hynny'n bwysig i gyflogwyr? Ymunwch â ni i ddeall barn cyflogwyr am addasrwydd a hyblygrwydd a’r hyn y mae'n ei olygu i fod yn ddysgwr ystwyth. Bydd awgrymiadau da ynglŷn â datblygu ystwythder eich dysgu a rheoli newid.
Overcoming imposter syndrome Gweithdy ar-lein
Dydd Gwener 9 Mehefin 12:00 - 1:00pm
**Mae'r digwyddiad yma yn Saesneg yn unig**
Boed yn fyfyriwr graddedig diweddar, yn Brif Swyddog Gweithredol llwyddiannus, neu'n actor sy'n enwog ledled y byd, mae'n debygol y byddwch yn uniaethu â syndrom y dynwaredwr neu y byddwch yn gwneud hynny ar ryw adeg yn eich gyrfa. Ymunwch â'r weminar nid yn unig i sylweddoli pa mor gyffredin yw hynny; ond cewch rai awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â datblygu eich hyder, a bod yn llwyddiannus er gwaethaf hynny a’i oresgyn hyd yn oed.
Adfywiwch eich CV
Beth am gymryd y blaen a diweddaru eich CV?
Dilynwch y linc yma i archebu apwyntiad CV ar-lein drwy eich cyfrif TARGETconnect.