Ennyn Diddordeb Myfyrwyr ym Mangor
Nod yr Ymgysylltiad Myfyrwyr Ennyn Diddordeb Myfyrwyr yw galluogi myfyrwyr i gymryd rhan weithredol o ran datblygu, rheoli a llywodraethu’r brifysgol, y rhaglenni academaidd a'r profiad dysgu. Rydym yn gwneud hyn trwy agor ein strwythurau i gynyddu cyfranogiad myfyrwyr, a thrwy weithio'n agos gydag Undeb y Myfyrwyr ar amrywiaeth o brojectau arloesol, megis ein hymgyrch adborth myfyrwyr sefydliadol.
Mae'r Ymgysylltiad Myfyrwyr Ennyn Diddordeb Myfyrwyr yn gweithio gyda chyfarwyddwyr ennyn diddordeb myfyrwyr ym mhob un o'r ysgolion academaidd, i hwyluso gweithgareddau ennyn diddordeb myfyrwyr a hyrwyddo cyfleoedd i weithio mewn partneriaeth. Fel tîm, rydym hefyd yn goruchwylio arolygon myfyrwyr a weinyddir ar draws y campws, yn cynnwys cynllunio, hyrwyddo ac adrodd, gweithio gyda staff a myfyrwyr a chreu cynlluniau gweithredu i gynhyrchu newid cadarnhaol.