25 erbyn 25
Mae manylion llawn yr ymgyrch gynaliadwyedd 25 wrth 25 i staff a myfyrwyr ar gael yma: tudalen we 25 erbyn 25
25 erbyn 25 – Digwyddiad Eich Llais - Chwefror 2023
Yn dilyn lansio’r ymgyrch cynaliadwyedd 25 erbyn 25, gwahoddwyd cydweithwyr i gyflwyno syniadau a mentrau ar sut y gallai’r Brifysgol leihau ei hôl troed carbon.
Aseswyd 40 o gynigion gan banel o arbenigwyr a'u cyflwynwyd yn ystod cinio anffurfiol gyda'r Is-ganghellor yr Athro Edmund Burke.
Ymhlith y cynigion llwyddiannus i dderbyn cyllid gan y Brifysgol mae cynllun arbrofol sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf o ran synwyryddion gofod sydd â'r nod o ddeall defnydd amser real yn well, yn ogystal ag amodau atmosfferig a'r defnydd o ynni. Cynlluniau eraill llwyddiannus oedd project ymchwil gan yr Ysgol Busnes i ymchwilio a ddylai'r Brifysgol newid i borwr carbon-negyddol (yn lle Google), a chael storfa feiciau cwbl ddiogel ar y campws. At hyn, cynigiwyd rhoi gostyngiadau ar ddiodydd poeth pan fydd myfyrwyr/cydweithwyr yn defnyddio eu mygiau eu hunain, ac i gyd-fynd â'r fenter hon mae cyllid wedi'i roi i’r fenter 25 wrth 25 i brynu mygiau teithio amldro ecogyfeillgar.
Lansiad '25 erbyn 25' – ymgyrch gynaliadwyedd newydd - Tachwedd 2022
Ar 3 Tachwedd 2022 lansiodd y Brifysgol ymgyrch gynaliadwyedd newydd ar gyfer staff a myfyrwyr.
Nod yr ymgyrch '25 erbyn 25' yw i leihau 25% o allyriadau erbyn 2025, er mwyn cyflawni hyn bydd y Brifysgol yn edrych ar sut mae'n defnyddio pob math o ynni a thanwydd, y gwastraff rydym yn ei daflu, y dŵr rydym yn ei ddefnyddio a bron unrhyw beth a phopeth sy'n creu allyriadau nwyon tŷ gwydr.
25 erbyn 25 … eich llais
Dechreuodd 25 erbyn 25 ei weithgareddau gyda gwahoddiad agored i bob cydweithiwr a myfyriwr gynnig eu syniadau ar sut i gefnogi’r ymgyrch hon, gyda syniadau, meddyliau a mentrau ar sut y gall y Brifysgol leihau ôl troed carbon o fewn ein meysydd targed allweddol, sef ynni, gwastraff a theithio.
Wnaeth y logo 25 erbyn 25 yn ymddangos ar draws ein campws yr wythnos hon ar ffurf 'graffiti glân' sydd gobeithio wedi ennyn diddordeb yn yr ymgyrch!!