Beth yw’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?
Rydym yn cymhwyso egwyddorion y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i’n holl waith trwy’r Nodau Llesiant a’r Pum Ffordd o Weithio. Rydym yn ehangu’r sgwrs ymhell ac agos – ar draws cyfandiroedd. Nid oes llawlyfr ar gyfer llwyddiant ond mae gan bob diwylliant a chefndir ei gyfraniad ei hun i’w gynnig.
Y Nodau Llesiant
Byd Lewyrchus
Ai diwedd y gân yw’r geiniog? Sut mae penderfynu beth yw ‘digon’? Beth sydd mewn gwirionedd yn bwysig i mi?
Byd Gydnerth
Ydw i’n ymwybodol o gwbl o’r byd o’m cwmpas a’r effaith dwi’n cael arno? A pha newidiadau sydd raid i mi eu gwneud er mwyn sicrhau eu bod yn parhau?
Byd Iachach
‘Does gennym ni ddim syniad pa mor ffodus fuom i gael ein geni yn un o’r cymdeithasau cyfoethocaf ar y ddaear, ond gall cyfoeth materol ddod â phroblemau iechyd yn ei sgìl. Beth fydd fy ngham cyntaf i tuag at fyw’n iachach?
Byd sy’n fwy cyfartal
Ydw i’n sensitif i’r rhagfarnau a’r gwahaniaethu sy’n digwydd o’m cwmpas? Ydw i’n trin pawb beth bynnag fo’u cefndir a’u credoau gyda pharch?
Byd sy’n llawn o gymunedau cydlynol
Beth am eich tŷ, eich coridor yn y neuadd breswyl, eich cwrs neu glwb? Maent i gyd yn gymunedau hefyd. Gallwn un ag oll ofyn i ni ein hunain, “P un ydw i – y burum yn y bara neu’r ddraenen yn y croen?”
Byd o ddiwylliant bywiog ac ieithoedd amrywiol, ffyniannus
Y cwestiwn yw, ‘sut allaf i, hyd yn oed os dwi ddim yn siarad iaith arall, werthfawrogi amrywiaeth y ddynoliaeth a’r holl fanteision ddaw yn ei sgìl?
Cyfrifoldeb byd-eang
Beth allwn ni ei wneud i ddeall yn well yr hyn sy’n digwydd a beth yw’n rôl ni yn hyn i gyd?
Y Pum Ffordd o Weithio
1. Meddwl yn hirdymor
Mae angen i ni fod yn meddwl am sut i gydbwyso anghenion tymor byr yn erbyn ein hanghenion tymor hir. Pa mor hir yw tymor hir?
2. Atal
Mae osgoi problemau yn y lle cynta neu rwystro sefyllfa rhag gwaethygu yn beth call i’w wneud.
3. Intergreiddio
Ystyried sut y gallai dyheadau ni fel unigolion effeithio ar bob un o’r amcanion lles ac ar bobl eraill.
4. Cydweithio
Mae gwseithio gyda’n gilydd tuag at nòd cyffredin.
5. Cynnwys
Mae gweithio gyda’n gilydd tuag at nòd cyffredin.