Gwedd newydd a ffres i fwyty Gorad
O ddydd Llun 23ain o Orffennaf bydd Gorad ar gau am gyfnod byr iawn wrth i ni wneud rhai gwelliannau. Pan fyddwn yn ailagor ym mis Awst, byddwn yn cyflwyno bwydlen newydd sbon sy'n llawn i’r ymylon o gynnyrch lleol.
Yn y cyfamser bydd Caffi Cegin ar agor ar lefel 3 o 8.30am i 8.00pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac am hanner dydd tan 6pm ddydd Sul 29ain o Orffennaf, yn gwerthu ystod o fwydydd ysgafn, gan gynnwys bagels a waffles wedi'u paratoi'n ffres.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2018