Cofrestru
Cofrestrwch am ein newyddion, digwyddiadau a chynigion diweddaraf.
Ewch ar daith
Cysylltwch â'r Tîm
- conferences@bangor.ac.uk
- +44 (0)1248 388088
Ystafelloedd gwely
Mae pob ystafell wely yn rhai sengl yn unig, gyda chawod a thoiled en-suite. Darperir yr holl ddillad gwely a llieiniau.
Mae'r ystafelloedd gwely wedi eu trefnu mewn unedau o 8 ystafell yn rhannu cegin. Gosodir gwesteion mewn ystafelloedd cyfagos pryd bynnag y bo modd. Mae byrddau a chadeiriau ym mhob cegin, ynghyd â phopty, meicrodon, tecell ac oergell. Mae croeso i chi ddefnyddio'r cyfleusterau hyn ond ni ddarperir sosbenni, llestri a chyllyll a ffyrc.
Gwely a Brecwast
Os dewiswch gwely a brecwast byddwch yn cael brecwast llawn, poeth neu oer, hunan-wasanaeth. Mae brecwast ar gael rhwng 7.30am a 9.00am.
Ystafell yn unig
Os dewiswch yr opsiwn ystafell yn unig, mae'r gegin a rennir ar gael ar gyfer hunan-arlwyo ond NI ddarperir sosbenni na llestri, dylech ddod â rhain gyda chi.
Cyrraedd a Gadael
Mae'r amseroedd cyrraedd rhwng 2pm a 8pm yn Nerbynfa Safle'r Ffriddoedd, os byddwch yn cyrraedd ar ôl hyn mi fydd allweddi yn cael ei adael gyda'r swyddfa ddiogelwch*. Mae'n rhaid gadael yr ystafelloedd a dychwelyd yr allweddi erbyn 9.30am ar y diwrnod gadael.
Plant
Nid yw'r llety yn addas i blant dan 11 oed. Rhaid i blant fod yn 11 oed neu hŷn adeg eu hymweliad a rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol.
Pecynnau grŵp ac addysgol
Mae ein pecynnau llety yn cynnig arlwyo a llety o ansawdd uchel i grwpiau mewn ystafelloedd sengl en-suite heb unrhyw gostau ychwanegol am ystafell sengl!
Mae safon yr arlwyo yn eithriadol o uchel gyda bwydlenni wedi eu cynllunio'n arbennig i gynnwys brecwast llawn, pecyn cinio neu ginio poeth a phrydau gyda'r nos.
Mae llawer o grwpiau hefyd yn dewis i gael cinio dathlu yn ystod eu harhosiad a gallwn gynnig dewis o fwydlenni arbennig ac adloniant fel telynor/telynores neu ddisgo i wneud y noson yn un gofiadwy.
Lle mae'r orsaf drên/maes awyr agosaf?
Ar y ffyrdd - Ceir cyfarwyddiadau teithio, mapiau o'r campws i'w lawrlwytho etc. yn y tudalennau 'Gwybodaeth i Ymwelwyr' ar brif wefan Prifysgol Bangor.
Ar fws - mae Bws Arriva yn gwasanaethu Bangor yn ddyddiol; ewch i wefan Arriva am fanylion.
Ar drên - Mae Bangor o fewn cyrraedd hwylus o'r rhan fwyaf o ardaloedd ym Mhrydain ar y trên, a cheir gwasanaeth uniongyrchol rheolaidd i Lundain trwy Crewe. Ewch i wefan i Rheilffyrdd Cenedlaethol am fanylion am wasanaethau trên i Fangor.
Ar y môr - Os ydych yn teithio o Iwerddon, mae gennych ddewis o longau fferi neu long hofran gyflym o Ddulyn neu Dun Laoghaire. I gael manylion am amseroedd hwylio, ewch i wefan Irish Ferries neu Stena Line. Dim ond 30 munud o daith yn y car yw Porthladd Caergybi oddi yma, neu cewch wasanaeth trenau uniongyrchol i Fangor sy'n cymryd rhyw 30 munud. Ewch i wefan y Rheilffyrdd Cenedlaethol i gael manylion.
Mewn awyren - Mae Maes Awyr Môn yn 25 munud o daith mewn car, a cheir siwrneiau dyddiol yn ôl ac ymlaen i Gaerdydd. Cewch fanylion ar wefan Maes Awyr Môn. Mae meysydd awyr rhyngwladol Lerpwl a Manceinion yn rhyw 1½ awr o daith mewn car o'r brifysgol. Mae gwasanaethau rheilffordd rheolaidd hefyd o faes awyr Manceinion neu Lerpwl.
Map y gellir ei argraffu - Gellwch lawrlwytho ac argraffu map o Fangor (pdf).
* Rhowch wybod i ni wrth archebu os ydych yn rhagweld eich bydd yn cyrraedd ar ôl 8yp. Mi fydd rhaid trefniadau casglu allweddi cael ei gytuno o flaen llaw.