Teya
O 28 Mehefin, ni fydd Prifysgol Bangor yn defnyddio ap Teya mwyach. Mae hyn yn golygu bod gennych 2 wythnos i ddefnyddio unrhyw dalebau yn yr ap ac unrhyw bwyntiau teyrngarwch sy’n weddill gennych. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd unrhyw bwyntiau teyrngarwch sy’n weddill yn peidio â bod yn ddilys.
I gynnig rhywfaint o help i chi, rydym wedi ail-lansio ambell un o’n cynigion poblogaidd:
- Taleb £5 i ffwrdd am 10,000 o bwyntiau;
- Diod boeth am ddim am 3,500 o bwyntiau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich pwyntiau teyrngarwch, cysylltwch â gwasanaethaucampws@bangor.ac.uk.