Newyddlenni
Tobias yn ennill y wobr papur myfyriwr gorau
Enillodd Tobias Barthelmes y wobr am y papur technegol gorau gan fyfyrwyr yn y gynhadledd Computer Graphics & Visual Computing 2021 (CGVC), a gynhaliwyd o 8 - 10 Medi 2021. Rhannwyd y gynhadledd yn sawl rhan: dau ddiwrnod o sgyrsiau ar-lein, a'r trydydd diwrnod ym Mhrifysgol Lincoln. Mae CGVC wedi bod yn ddigwyddiad a gefnogir gan Eurographics er 1983, pan gynhaliwyd yr un cyntaf 28-29 Mawrth 1983 ym Mhrifysgol Efrog. Cynhaliwyd y digwyddiad ddwywaith ym Mhrifysgol Bangor: unwaith yn 2007 ac eto yn 2019
Cyflwynodd Tobias ei bapur “Where's Wally? A machine learning approach”. Yn ddiweddar, graddiodd gyda gradd anrhydedd dosbarth 1af mewn Cyfrifiadureg, o Brifysgol Bangor. Mae papur Tobias yn cyflwyno gwaith ymchwil a wnaeth yn ei broject unigol blwyddyn olaf. Dywedodd Tobias “Er mwyn datrys y broblem o geisio dod o hyd i Wally yn y llyfrau pos 'Where's Wally', mi wnes i weithredu a gwerthuso algorithmau gweledigaeth gyfrifiadurol (CV) a dysgu peirianyddol (ML) i ddod o hyd i'r gorau ar gyfer y dasg hon. Tra bod gan Wally sbectol ac yn gwisgo crys coch a gwyn nodedig, mae pob senario yn cynnwys nifer o bethau tebyg i gynyddu anhawster yr her.”
Tobias Barthemles
Dywedodd Dr Franck Vidal (Uwch ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg) a goruchwyliwr project Tobias, “Roedd yn anrhydedd mawr derbyn yr acolâd hwn. Nod gweledigaeth gyfrifiadurol yw rhoi’r gallu i gyfrifiaduron “weld”, “dadansoddi” a “deall” delweddau. Gall dod o hyd i Wally fod yn anodd i fodau dynol. Mae creu rhaglen gyfrifiadurol i wneud hynny hyd yn oed yn anoddach. Gweithiodd Tobias yn hynod o galed ar ei broject, ac mae'r wobr hon yn dangos ei wybodaeth a'i ddealltwriaeth o Ddysgu Peirianyddol i gwblhau tasg gweledigaeth gyfrifiadurol gymhleth. Mae gennym gynlluniau i symud y gwaith hwn yn ei flaen a defnyddio'r syniadau gyda gwahanol barthau rhaglenni. Mae hefyd yn bleser gwybod bod Tobias yn dilyn y trywydd ymchwil hwn gan ei fod bellach yn dechrau meistr mewn Deallusrwydd Artiffisial am y 2 flynedd nesaf yn yr Almaen.”
Where’s Wally? A machine learning approach. Gan Tobias Barthemles a Dr. Franck Vidal.
Darganfyddwch fwy yn https://diglib.eg.org/handle/10.2312/cgvc20211313
[Awdur: FV. Golygydd: JCR]
Dyddiad cyhoeddi: 22 Medi 2021