Ynglŷn â’r Cwrs Yma
llwybr at yrfa ysgrifennu, neu gyfle i awduron mwy profiadol ddatblygu eu gwaith o safbwynt newydd. Mae Prifysgol Bangor yn cynnig amgylchedd deinamig, beirniadol a chreadigol a fydd yn eich cefnogi i ddatblygu eich cryfderau fel awdur, ac ehangu eich gweledigaeth o’r hyn yw ysgrifennu creadigol ac i ble y gallai eich arwain.
Caiff yr MA mewn Ysgrifennu Creadigol ei gyflwyno gan staff sy’n awduron cyhoeddedig mewn gwahanol feysydd yn ogystal ag academyddion gweithredol sy’n ymwneud â llunio sgyrsiau cyfoes am lenyddiaeth.
Mae’r rhaglen yn archwilio barddoniaeth a rhyddiaith trwy fodiwlau hyfforddedig. Mae’n arwain at y Traethawd Hir, sef project ysgrifennu creadigol estynedig lle mai chi fydd yn dewis y ffurf a’r dull. Mae’r MA Ysgrifennu Creadigol yn canolbwyntio ar eich datblygiad creadigol unigol sy’n fodd i chi ymgysylltu ag awduron eraill, yn staff ac yn myfyrwyr, a hynny mewn grwpiau a fydd yn tanio syniadau newydd.
Yn ogystal â chanolbwyntio ar ymarferoldeb ysgrifennu, mae'r rhaglen yn eich galluogi i adfyfyrio ynghylch eich ymarfer fel y gallwch gynnal eich creadigrwydd y tu hwnt i'r radd. Byddwch yn darllen amrywiaeth o destunau rhyngwladol, yn ogystal â darganfod diwylliant llenyddol unigryw Cymru. Byddwch yn dysgu sut mae gosod eich ysgrifennu creadigol chithau mewn cyd-destun byd-eang. Mae digwyddiadau llenyddol rheolaidd yn dod â myfyrwyr a staff ynghyd gydag awduron a chyhoeddwyr gwadd, sy’n gyfle i ddarganfod dulliau newydd, cysylltu â rhwydweithiau creadigol yn y Brifysgol a thu hwnt, a dysgu sut mae mynd â'ch gwaith ysgrifennu at gynulleidfaoedd newydd.
Mae llawer o’r myfyrwyr yn mynd ymlaen i gyhoeddi eu gwaith, yn ogystal â magu hyder newydd mewn meysydd creadigol a phroffesiynol. Mae’r MA yn baratoad delfrydol at astudiaeth academaidd bellach ar lefel PhD. Mae’r cwrs yn datblygu sgiliau cyfathrebu hynod sydd eu hangen mewn amrywiol yrfaoedd mewn meysydd artistig, proffesiynol a chymunedol. Un o’r elfennau canolog yw’r mwynhad o ddefnyddio geiriau’n greadigol a’r rhyddid i arbrofi wrth i chi ddatblygu canfyddlad cynyddol o’ch trywydd fel awdur.
Fel rheol caiff gweithdy ysgrifennu creadigol ei gynnal mewn grŵp bach o dan arweiniad awdur profiadol. Fel arfer, mae’n cynnwys darllen, trafod, ymarferion ysgrifennu, a rhannu adborth ar waith creadigol sydd ar y gweill.
Ar y cwrs, byddwch yn dysgu trwy gymysgedd o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau. Bydd disgwyl i chi wneud rhywfaint o waith grŵp annibynnol ac astudio unigol helaeth. Byddwch yn cyfarfod yn rheolaidd â'ch goruchwylydd, a fydd yn eich arwain drwy’r project ysgrifennu Traethawd Hir.
Fel rheol caiff Ysgrifennu Creadigol ei asesu trwy bortffolio o waith gwreiddiol ynghyd â sylwebaeth feirniadol.
Mae’r radd MA Ysgrifennu Creadigol yn cynnig amrywiol ddulliau asesu eraill megis:
- Gwaith Cwrs
- Cyflwyniadau
- Blogiau
- Posteri Ymchwil
- Traethawd Hir
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Ar y rhaglen MA Ysgrifennu Creadigol, byddwch yn astudio’r modiwlau canlynol:
- Theori Feirniadol, Ymarfer, ac Ymchwil (20 credyd)
- Ysgrifennu Creadigol: Barddoniaeth (20 credyd)
- Ysgrifennu Creadigol: Rhyddiaith (20 credyd)
- Portffolio Ysgrifennu Uwch (20 credyd)
- Traethawd Hir Ôl-radd (60 credyd) - Byddwch yn datblygu project ysgrifennu creadigol estynedig o 12,000 o eiriau, gyda sylwebaeth adfyfyriol o 3,000 o eiriau, a gaiff ei ysgrifennu o dan oruchwyliaeth unigol awdur creadigol cyhoeddedig.
Rhaid i chi gymryd 80 credyd pellach o blith y modiwlau canlynol:
- Adeiladu Bydoedd Eraill: Breuddwydion a Ffantasïau (20 credyd)
- Bydoedd y Dyfodol: Dystopiâu ac Iwtopiâu (20 credyd)
- Bydoedd a Fu: Llenyddiaeth a Hanes (20 credyd)
- Y Byd Hwn: Mynd yn Fyd-eang (20 credyd)
Cofiwch y gall modiwlau newid o flwyddyn i flwyddyn, a bod yr uchod at ddibenion rhoi arweiniad yn unig.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig 2.ii neu gymhwyster cyfwerth mewn pwnc perthnasol a ddylai fel rheol gynnwys elfen o Ysgrifennu Creadigol (e.e. Ysgrifennu Creadigol neu Astudiaethau Llenyddol) a diddordeb amlwg mewn Ysgrifennu Creadigol.
Bydd ymgeiswyr sydd â chymwysterau neu brofiad cyfwerth a cheisiadau gan weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt radd yn cael eu hystyried fesul un. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth. Efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno ychydig enghreifftiau o'u gwaith (barddoniaeth a/neu ryddiaith) i gefnogi eu cais. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Yn achos myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, bydd arnynt angen sgôr IELTS o 6.5 o leiaf (heb i unrhyw elfen fod yn is na 6.0).
Gyrfaoedd
Gall MA mewn Ysgrifennu Creadigol arwain at yrfa fel nofelydd, bardd neu ddramodydd. Mae cynllunio a datblygu project ysgrifennu o sylwedd yn baratoad da ar gyfer ysgrifennu a ariennir neu a gomisiynir yn y dyfodol, yn ogystal ag ar gyfer gyrfa academaidd mewn ymchwil yn seiliedig ar ymarfer. Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig amrywiaeth o sgiliau y gellir eu defnyddio mewn cyd-destunau eraill, er enghraifft golygu, cyhoeddi, newyddiaduraeth a gweinyddu'r celfyddydau. Mae'r gallu i ddefnyddio iaith yn rhugl ac yn argyhoeddiadol yn hanfodol ar gyfer llwyddiant ym mron unrhyw faes, ac mae'r hyblygrwydd o weithio ar draws genres yn y cwrs hwn yn cynnig sylfaen ragorol i ddefnyddio iaith yn greadigol