photo take at an annual lecture in main arts lecture theatre

Darlithoedd Cyhoeddus

Ymunwch â ni mewn Darlith Gyhoeddus Prifysgol Bangor sydd am ddim - agorwch eich meddwl, taniwch eich dychymyg, a chael eich swyno gan arbenigwyr yn eu maes.

Darlithoedd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor: mae amrywiaeth eang o bynciau

Yn eu plith mae astroffiseg a chwedlau hynafol, deallusrwydd artiffisial a chrefft adrodd straeon. Mae ein cyfres o Ddarlithoedd Cyhoeddus yn rhychwantu llawnder gwybodaeth ddynol yn ei holl agweddau. Mae’n siŵr y bydd rhywbeth i danio brwdfrydedd pawb.

Cewch wrando’n uniongyrchol ar academyddion adnabyddus, awduron arobryn, ac arweinwyr o fyd diwydiant - yr union bobl sy'n llunio'r dyfodol. Cewch gymryd rhan mewn trafodaethau bywiog, gofyn cwestiynau llosg, a chael golwg unigryw ar bethau gan rai sy’n flaenllaw yn eu meysydd.

Mae’r Darlithoedd Cyhoeddus yn agored i bawb – myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, aelodau o’r gymuned, a meddylwyr chwilfrydig o bob oed.

Mae pob un o’r Darlithoedd Cyhoeddus AM DDIM.

Dysgwch unrhyw bryd, unrhyw le - archwiliwch ddarlithoedd y gorffennol yn ôl y galw
 

Rydym wedi creu llyfrgell ar-lein bwrpasol o Ddarlithoedd Cyhoeddus y gorffennol, i’w gweld ar YouTube fel y gallwch danysgrifio a bod y cyntaf i wybod pan fydd recordiad newydd ar gael.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?