Fy ngwlad:
Girl walking outside Pontio

Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig Israddedig

Croeso i'r dudalen wybodaeth i Ddeiliaid Cynnig Prifysgol Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Yma, cewch ddarganfod eich camau nesaf a chael y wybodaeth sydd ei angen arnoch i baratoi at ddod i'r Brifysgol.

Eich Cynnig

Cwestiwn: Ydych chi wedi derbyn cynnig gan Brifysgol Bangor i astudio cwrs israddedig?

  • Ydw

Eich Camau Nesaf

Derbyn eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol Bangor

Darllenwch ein canllaw ar sut i ddewis Prifysgol Bangor fel eich Dewis Cadarn.

Derbyn eich cynnig

Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol

Cadwch mewn cysylltiad ar gyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf.

Dilynwch ni 

Gwneud cais am gymorth cyllid myfyrwyr

Dysgwch fwy am gyllid myfyrwyr, ysgoloriaethau a bwrsariaethau i helpu gyda'ch costau.

Dysgu mwy am gyllid

Dewch o hyd i'ch ystafell berffaith mewn Neuaddau

Os mai ni yw eich Dewis Cadarn, byddwn yn eich e-bostio i archebu eich ystafell.

Dewch o hyd i'ch ystafell 

Derbyn eich cynnig

Os cewch gynnig lle ym Mangor, byddwch yn cael cynnig Amodol neu Ddiamod.

  • Mae cynnig Amodol yn golygu y bydd angen i chi gwrdd â'r amodau a osodwn - fel arfer drwy ennill graddau penodol yn eich arholiadau.
  • Mae cynnig Diamod yn golygu eich bod eisoes wedi cwrdd â'r amodau rydym yn gofyn amdanynt.

Ewch i'ch cais UCAS

Unwaith y bydd pob prifysgol o'ch dewis wedi gwneud eu penderfyniadau, bydd UCAS yn cysylltu â chi gyda dyddiad cau ar gyfer eich penderfyniad. Rhaid i chi ddewis un cynnig prifysgol fel eich Dewis Cadarn, ac un fel eich Dewis Wrth Gefn a Gwrthod pob cynnig arall. Dylech wirio adran 'Eich dewisiadau' eich cais UCAS a nodi'ch penderfyniadau yno. Fel arfer rhoddir tua pedair wythnos i chi ystyried pethau a gwneud eich penderfyniad.

Beth yw Dewis Cadarn?

Dylai eich Dewis Cadarn fod y brifysgol rydych chi eisiau mynd iddi fwyaf. Drwy wneud hwn yn Ddewis Cadarn, rydych chi'n dweud eich bod yn cytuno i astudio yma cyn belled â'ch bod yn cwrdd ag amodau eich cynnig.

Beth yw Dewis Wrth Gefn?

Eich Dewis Wrth Gefn yw eich prifysgol wrth gefn, felly os nad ydych yn cyflawni’r graddau ar gyfer eich Dewis Cadarn, gobeithio y byddwch chi wedi cwrdd ag amodau'r brifysgol Dewis Wrth Gefn. Wrth wneud eich penderfyniad am eich Dewis Wrth Gefn mae'n ddoeth gwneud yn siŵr eich bod yn hyderus y gallwch gwrdd â'r amodau hynny. Peidiwch â dewis prifysgol sy'n gofyn am amodau tebyg i'ch Dewis Cadarn.

EWCH I'CH CAIS UCAS 

Bydd cadarnhad o'ch lle i astudio yma yn cael ei gadarnhau gan UCAS. Ar gyfer mynediad mis Medi, byddwn yn eich e-bostio ym mis Awst gyda gwybodaeth am y broses cofrestru myfyrwyr, cyrraedd a gweithgareddau'r Wythnos Groeso.

EWCH I'CH CAIS UCAS 

Cymorth Cyllid Myfyrwyr

Mae cymorth ar gael i helpu i dalu costau astudio ar gyfer gradd israddedig - bydd y cymorth ariannol union sydd ar gael i chi yn dibynnu ar ba ran o'r DU rydych chi'n byw.

Mwy am Gyllid Myfyrwyr i Israddedigion

Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau i fyfyrwyr newydd.

Mwy am Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Gwneud cais am lety

Rydym yn rhoi sicrwydd o ystafell mewn llety Prifysgol i ymgeiswyr o'r DU/Iwerddon am flwyddyn gyntaf o'u gradd israddedig. Rhaid eich bod yn dal Bangor fel eich dewis Cadarn, â'ch bod yn mynychu cwrs ar y campws ym Mangor, yn cychwyn y cwrs ym mis Medi ac yn gwneud cais cyn y dyddiad cau. Byddem yn eich e-bostio pan fydd hi'n amser gwneud cais a byddwch yn gallu dewis eich ystafell trwy ein system archebu.

Darganfod EICH ystafell berffaith

Gwylio - Opsiynau Llety

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Golygfa o'r awyr o Fangor, gyda'r Fenai'n ymestyn yn urddasol yn y cefndir.

[TROSLAIS] Croeso i neuaddau preswyl myfyrwyr Prifysgol Bangor - lle diogel, fforddiadwy ac wedi ei gynllunio i'ch helpu i deimlo'n gyffyrddus o'r diwrnod cyntaf.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr yn cerdded trwy Bentref Ffriddoedd, wedi'u hamgylchynu gan goed toreithiog a gwyrddni bywiog gyda Bar Uno yn y cefndir. Myfyrwyr yn cerdded tuag at fynedfa fflat fodern, a cheir yn gyrru heibio ar y ffordd gyfagos. Dau fyfyriwr yn eistedd ar wely dwbl clyd ym mhentref y Santes Fair, yn sgwrsio'n gynnes tra bod un yn dal gwerslyfr.

[TROSLAIS] Os ydych chi'n dechrau ar eich taith fel myfyriwr israddedig neu'n fyfyriwr ôl-radd sy'n chwilio am lety, mae gennym ni rywbeth fyddyn addas i chi.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Pâr o fyfyrwyr yn mwynhau sgwrs ar bont fach swynol ym mhentref y Santes Fair. Grŵp o bedwar myfyriwr yn eistedd ar fainc ar deras Prif Adeilad y Celfyddydau, gyda'r camera'n chwyddo i mewn i gipio eu mynegiant bywiog. Ffilm o'r awyr o Bentref Ffriddoedd, yn dechrau ar y cae pob tywydd ac Adeilad Riechel, gan ymledu'n raddol i ddatgelu'r neuaddau newydd slic, Canolfan Brailsford, a'r neuaddau clasurol uwchben.

[TROSLAIS] Mae gan Fangor ychydig dros 2,400 o ystafelloedd, sy'n golygu ein bod yn gallu gwarantu llety i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy'n gwneud cais mewn pryd.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Golygfa o'r awyr o neuaddau'r Santes Fair, wedi'u fframio gan yr archfarchnad a'r stryd fawr gerllaw. Myfyrwyr wedi ymgasglu mewn cegin ym mhentref y Santes Fair: mae dau yn ymlacio ar gadeiriau gwyrdd, tra bod un arall yn eistedd wrth y bwrdd bwyta gyda gliniadur, yn sgwrsio â ffrind oddi ar y sgrin. Llun agos o fyfyriwr yn eistedd wrth fwrdd bwyta, yn gwenu ar sgrin y gliniadur, tra bod eraill yn mwynhau sgyrsiau hamddenol yn y cefndir. Ffilm o'r awyr o Bentref Ffriddoedd o'r Fenai

[TROSLAIS] Mae ein neuaddau wedi eu lleoli ar ddau safle:

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Ffilm o'r awyr o Bentref Ffriddoedd o'r Fenai, ond yn arddangos ongl wahanol o'r gymuned hardd.

[TROSLAIS] Pentref Ffriddoedd a Phentref y Santes Fair

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Ffilm uchel o neuaddau'r Santes Fair, yn amlygu'r cyfuniad o bensaernïaeth draddodiadol a modern.

[TROSLAIS] Ond, pa bentref fydd orau i chi?

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Tri myfyriwr yn cerdded trwy Fangor Uchaf, gan basio bariau bywiog, siopau, a bwytai tecawê.

[TROSLAIS] Mae Ffriddoedd ym Mangor Uchaf, rhan brysur o Fangor sy'n llawn myfyrwyr.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr yn mwynhau pizza ac yn chwerthin yn Jones' Pizza, sef pizzeria clyd ym Mangor Uchaf, wedi'u gwasgaru ar draws tri bwrdd. Barista yn creu celf latte cywrain yn fedrus.

[TROSLAIS] Dim ond 10 munud o waith cerdded sydd o Bentref Ffriddoedd i Brif Adeilad y Brifysgol ar Ffordd y Coleg ac i orsaf drenau Bangor.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn eistedd yng nghaffi Reubens: un yn sipian diod werdd, a'r llall yn yfed latte gyda'i gefn at y camera. Dau fyfyriwr yn cerdded ar hyd Ffordd y Coleg o dan ganopi o goed. Ffilm o'r awyr o Fangor o bentref y Santes Fair, gyda golygfeydd ysgubol o ganol y ddinas, Bae Hirael, a chipolwg ar Ynys Môn.

[TROSLAIS] Mae pentref y Santes Fair yr ochr arall i Fangor, sy'n edrych dros ganol y ddinas,

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr yn cerdded heibio murlun lliwgar ar y stryd fawr. Ffrindiau'n ymlacio yn nhŷ bwyta Blue Sky: dau yn cofleidio tra bod eraill yn chwerthin yn iach.

[TROSLAIS] Tua 20 munud o waith cerdded o Brif Adeilad y Brifysgol a'r orsaf drenau.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Golygfa banoramig o Gwad Allanol Prif Adeilad y Celfyddydau, gyda llu o fyfyrwyr yn eistedd ar feinciau picnic, a thri myfyriwr y gyfraith yn croesi'r cwad yn eu gwisgoedd. Dau fyfyriwr yn gwisgo siwmperi coch trawiadol yn cerdded ar hyd llwybr ym mhentref Ffriddoedd, wedi'u fframio gan adeiladau cyfoes.

[TROSLAIS] Ffriddoedd yw'r mwyaf a'r prysuraf o'r ddau bentref - mae awyrgylch gwych yma bob amser, a llawer o bethau'n mynd ymlaen.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Tri myfyriwr yn sgwrsio'n fywiog o flaen sied feiciau.

[TROSLAIS] Gall myfyrwyr fynd i Far Uno am bryd o fwyd poeth a diodydd fforddiadwy, neu fynd i un o'r digwyddiadau myfyrwyr niferus a gynhelir yma!

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn cerdded heibio Bar Uno, gyda'i arwydd nodedig yn y cefndir. Myfyrwyr yn eistedd ar draws tri bwrdd y tu mewn i Far Uno, rhai'n brysur yn sgwrsio'n braf tra bod eraill yn canolbwyntio ar waith. Grŵp siriol o fyfyrwyr yn sgwrsio y tu allan i Far Uno, gyda'r arwydd eiconig wedi'i arddangos yn amlwg.

[TROSLAIS] Mae Canolfan Brailsford ar y safle hefyd, sef campfa a chanolfan chwaraeon y Brifysgol, ac mae amrywiaeth eang o weithgareddau ffitrwydd ar gael yno.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Person yn rhoi llwch sialc ar ei ddwylo yn yr ystafell ffitrwydd, yn paratoi i godi pwysau. Myfyriwr penderfynol yn codi pwysau ar Platfform 81. Myfyrwyr yn mwynhau gêm bêl-rwyd fywiog yng nghromen chwaraeon Canolfan Brailsford. Chwaraewr tenis yn taro'r bêl yn gryf.

[TROSLAIS] Mae pentref y Santes Fair yn llai na phentref Ffriddoedd, ac mae awyrgylch hamddenol yno.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn cerdded trwy bentref y Santes Fair, gyda gwahanol onglau camera'n cyfleu eu taith. Llun agos o arwydd Barlows. Gall myfyrwyr fynd am goffi yng nghaffi Barlows; mwynhau gweithgareddau hwyliog yng ngofod adloniant Acapela, neu bicio i'r ystafell ffitrwydd ar y safle i wneud ymarfer corff. Golygfa glyd yn ystafell gyffredin Barlows: dau fyfyriwr yn sgwrsio ar seddi cyfforddus. Dau aelod o Griw'r Campws yn cael hwyl gyda gêm o denis bwrdd yn Acapela. Athletwr yn codi dymbel. Golygfeydd ysgubol o'r awyr o Bentrefi Ffriddoedd a'r Santes Fair, gan gipio eu cynlluniau unigryw. Rhedwr yn mynd amdani ar felin draed.

[TROSLAIS] Mae gan y ddau bentref bopeth sydd ei angen arnoch, gan gynnwys siop, golchdy, siop goffi, ystafell gyffredin ac ystafell gyfrifiaduron.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Cwsmer yn rhyngweithio ag aelod o staff yn siop Barlows, wrth brynu rhywbeth. Cipolwg trwy ffenestr o fyfyrwyr yn cymdeithasu mewn ystafell gyffredin ym mhentref y Santes Fair. Myfyriwr yn agor peiriant sychu dillad yng ngolchdy Ffriddoedd, yn paratoi i ddadlwytho eu golch. Bysedd yn teipio'n ddiwyd ar fysellfwrdd gliniadur.

[TROSLAIS] Felly, beth am yr ystafelloedd eu hunain?

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn sgwrsio wrth gerdded i lawr coridor mewn fflat ym mhentref y Santes Fair.

[TROSLAIS] Mae ystafell safonol yn Ffriddoedd yn cynnwys ystafell ymolchi breifat, ac mae cegin i hyd at 8 o bobl ei rhannu.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn astudio ar ei gwely mewn ystafell safonol Ffriddoedd, wedi ei hamgylchynu gan nodiadau a gwerslyfr. Myfyriwr yn rhoi persawr o flaen drych yn ei en-suite. Pum ffrind wedi ymgasglu o amgylch bwrdd bwyta mewn cegin safonol yn Ffriddoedd, gydag un yn coginio yn y cefndir.

[TROSLAIS] Mae nifer cyfyngedig o ystafelloedd rhatach ar gael ym mhentref Ffriddoedd ac maen nhw ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Ffilm o'r awyr o Bentref Ffriddoedd yn canolbwyntio ar y llety rhad, a rhai mannau parcio.

[TROSLAIS] Mae'r rhain yn ystafelloedd hŷn, ond maen nhw'n dal i gynnwys cyfleusterau en-suite preifat a cheginau sy'n cael eu rhannu.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr llawen yn arddangos ystafell rad yn Ffriddoedd, ei breichiau'n ymestyn allan mewn hyfrydwch. Dau fyfyriwr yn cael cyfarfod clyd mewn fflat rhad yn Ffriddoedd, yn rhannu diodydd poeth a sgwrs fywiog.

[TROSLAIS] Mae gan Bentref y Santes Fair amrywiaeth ehangach o ystafelloedd at ddant pawb.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Arwyddion pentref y Santes Fair, wedi'u fframio gan y fflatiau yn y cefndir.

[TROSLAIS] Mae ystafell safonol ym mhentref y Santes Fair yn cynnwys ystafell ymolchi breifat, a chegin mae 5-8 o bobl yn ei rhannu.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn eistedd ar wely dwbl clyd ym mhentref y Santes Fair, yn sgwrsio'n gynnes tra bod un yn dal gwerslyfr.  Mae'r un ddau fyfyriwr nawr yn y gegin yn edrych ar ffôn symudol wrth wenu a sgwrsio.

[TROSLAIS] Mae rhai ystafelloedd rhatach ar gael ym mhentref y Santes Fair hefyd, gydag ystafelloedd ymolchi sy'n rhaid eu rhannu.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn eistedd ar y gwely mewn ystafell wely ym Mryn Eithin, opsiynau rhad y Santes Fair, wrth edrych a sgrolio ar eu ffôn. Ongl wahanol, yn agosach at y myfyriwr yn sgrolio ar eu ffôn. Myfyrwyr yn eistedd ar soffa mewn fflat stiwdio.

[TROSLAIS] Gall myfyrwyr ddewis cael mwy o breifatrwydd pan fyddent yn dewis un o bedwar math gwahanol o fflatiau stiwdio ym Mhentref y Santes Fair. 

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Stiwdio fflat arferol. Cegin a'i holl offer, soffa gyfforddus, dau fyfyriwr yn eistedd ar y soffa a gwely dwbl bach.

[TROSLAIS] Mae gan y fflatiau stiwdio en-suite a chegin fach breifat. Mae yna hefyd dai tref, sy'n rhoi'r teimlad o fyw mewn tŷ myfyrwyr.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Golwg o'r tu allan i dŷ tref ym mhentref y Santes Fair, gyda'i gynllun modern yn dal sylw. Myfyriwr yn paratoi pryd cyflym mewn cegin tŷ tref ym mhentref y Santes Fair, gan osod rhywbeth yn y microdon.

[TROSLAIS] Caiff ceginau eu rhannu rhwng hyd at 12 o bobl.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Y camera'n chwyddo i mewn i'r microdon.

[TROSLAIS] Gall darpar fyfyrwyr radiograffeg wneud cais i fyw yn Neuadd Snowdon yn Wrecsam.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Y tu allan i Neuadd Snowdon yn Wrecsam.

[TROSLAIS] Mae'r ystafelloedd en-suite wedi'u trefnu mewn fflatiau o 6 ystafell, gyda chegin sy'n cael ei rhannu.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr wedi ymgolli mewn sgwrs mewn cegin safonol ym mhentref y Santes Fair.

[TROSLAIS] Felly, pam ddylech ddewis byw mewn neuadd?

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Ystafell safonol daclus yn Neuadd Snowdon, gyda gwely, desg, cadair, a golygfa o'r ffenestr.  Myfyrwyr wedi ymgasglu mewn cegin ym mhentref y Santes Fair: Myfyriwr yn eistedd wrth y bwrdd bwyta gyda gliniadur, yn sgwrsio â ffrind oddi ar y sgrin, tra bod dau arall yn ymlacio ar gadeiriau gwyrdd.

[TROSLAIS] Un o'r prif fanteision yw bod popeth wedi ei gynnwys yn y pris Mae hynny'n cynnwys: Wi-fi cyflym; yr holl filiau fel dŵr, gwres a thrydan,

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Llun agos o fyfyriwr yn eistedd wrth fwrdd bwyta, yn gwenu ar sgrin y gliniadur, tra bod eraill yn mwynhau sgyrsiau hamddenol yn y cefndir. Dŵr yn llifo o dap wrth i ddwylo gael eu golchi'n drylwyr oddi tano.

[TROSLAIS] ynghyd ag aelodaeth am ddim i'r brif ganolfan chwaraeon, Canolfan Brailsford, yn ogystal ag aelodaeth Campws Byw –

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr wedi ymgolli mewn gêm fideo mewn ystafell wely safonol yn Ffriddoedd, yn chwerthin ac yn canolbwyntio. Myfyriwr o'r clwb trampolîn yn neidio'n osgeiddig ar drampolîn yng Nghanolfan Brailsford. Criw'r Campws wedi ymgasglu ym mhentref y Santes Fair, yn gwisgo hwdis oren llachar ac yn bloeddio'n egnïol wrth ddal bagiau o nwyddau rhad ac am ddim. [TROSLAIS]

[TROSLAIS] calendr fawr o ddigwyddiadau cymdeithasol rhad ac am ddim, sy'n dod â myfyrwyr at ei gilydd.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau aelod o Griw’r Campws yn mwynhau gêm ysgafn o denis bwrdd yn Acapela.

[TROSLAIS] Byddwch hefyd yn teimlo'n ddiogel gan fod gan holl neuaddau Bangor swyddogion diogelwch ar gael 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn cael sgwrs gyfeillgar ag aelod o'r tîm diogelwch y tu allan i Swyddfa Ddiogelwch Ffriddoedd. Saethiad agos o'r gair 'diogelwch/security' wedi'i frodio ar siaced y staff diogelwch.Ongl arall yn dangos dau fyfyriwr yn sgwrsio ag aelod o'r tîm diogelwch y tu allan i Swyddfa Ddiogelwch Ffriddoedd.

[TROSLAIS] Rydym yn deall bod gan bob myfyriwr anghenion a chyllidebau gwahanol,

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Moment glyd gyda myfyriwr yn sgwrsio ar soffa werdd gyfforddus mewn cegin ym mhentref y Santes Fair. Myfyriwr arall yn eistedd ar yr un soffa, yn mwynhau'r awyrgylch hamddenol.

[TROSLAIS] ac mae gennym ystod o ystafelloedd fforddiadwy sy'n addas i chi. Mae amryw o opsiynau hygyrch ar gael, gyda ystafelloedd, ceginau ystafelloedd ymolchi wedi eu haddasu.

[DISGRIFIAD GWELEDOL]Dau fyfyriwr yn cael sgwrs fywiog mewn ystafell hygyrch yn Ffriddoedd, wedi'i haddurno â theganau meddal a lluniau personol wedi'u pinio ar yr hysbysfwrdd. Myfyriwr yn troi bwyd mewn padell wrth eistedd mewn cegin wedi'i haddasu. Myfyriwr n canolbwyntio ar ei liniadur, yn teipio ac yn gweithio'n astud.

[TROSLAIS] Mae gennym hefyd neuaddau wedi eu neilltuo’n arbennig i siaradwyr Cymraeg, myfyrwyr gofal iechyd, neuaddau tawel, fflatiau i ferched yn unig, a fflatiau di-alcohol.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn mwynhau gêm o bŵl yn ystafell gyffredin JMJ, wedi'u hamgylchynu gan naws hamddenol. Grŵp siriol o fyfyrwyr gofal iechyd yn sefyll gyda'i gilydd yn eu sgrybs, yn chwerthin ac yn rhannu eiliad ysgafn. Dau fyfyriwr mewn ystafell wely safonol ym mhentref y Santes Fair: un yn gorwedd ar y gwely yn chwerthin, a'r llall yn canolbwyntio’n astud ar liniadur. Mae'r olygfa’n cael ei gipio’n glyfar trwy ddrych yr ystafell.

[TROSLAIS] Os cewch unrhyw broblem tra byddwch yn byw yn un o neuaddau’r brifysgol,

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn cerdded i mewn i swyddfa'r neuaddau, yn gwenu ac yn sgwrsio wrth ddynesu at y drysau ffrynt.

[TROSLAIS] gall ein staff yn y Swyddfa Neuaddau eich helpu.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Person yn canu'r gloch yn swyddfa'r neuaddau, yn dangos bod angen cymorth arnynt. Myfyriwr yn rhyngweithio'n gynnes ag aelod o staff yn swyddfa'r neuaddau, sydd ag awyrgylch cyfeillgar.

[TROSLAIS] Mae gan bob un o’n lleoliadau preswyl dîm cymorth preswyl sy’n gyfrifol am eich lles, sy’n cynnwys mentoriaid myfyrwyr sy’n byw yn y neuaddau, ynghyd ag uwch wardeniaid.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn ymlacio mewn cegin safonol ym mhentref y Santes Fair, gyda chefndir llachar o waliau gwyn.

[TROSLAIS] Wrth ddewis byw yn un o neuaddau Prifysgol Bangor,

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn eistedd ger y ffens ger cwrt chwaraeon awyr agored pentref y Santes Fair, yn cael sgwrs hamddenol.

[TROSLAIS] gallwch fod yn sicr o lety cyfforddus, fforddiadwy a diogel yng nghanol Bangor, gyda chefnogaeth bob cam o'r ffordd.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Tri myfyriwr mewn caffi bar lleol, yn codi eu diodydd meddal mewn llwncdestun hwyliog. Myfyriwr yn eistedd ar wely mewn cegin safonol ym mhentref y Santes Fair. Mae'r olygfa’n symud i ddatgelu ail berson yn yr ystafell wely, yn gweithio ar liniadur tra bod y llall ar y gwely Dau ffrind yn rhannu cofleidiad, eu hapusrwydd a'u cysylltiad yn amlwg.

[TROSLAIS] Ewch i’n gwefan i gael mwy o wybodaeth.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Chwech o fyfyrwyr yn eistedd ar risiau Pontio, gan wenu'n uniongyrchol ar y camera, sy’n rhoi ymdeimlad o undod a balchder. Logo Prifysgol Bangor

Tri myfyriwr yn eistedd ar y wal yn y cwad mewnol, Prif Adeilad y Brifysgol

Dewch i Ddiwrnod i Ymgeiswyr

Os ydych wedi gwneud cais i astudio yma, cewch wahoddiad i'r digwyddiad drwy'r post / e-bost. Mae'r Diwrnodau i Ymgeiswyr yn gyfle gwych i chi gael gwell dealltwriaeth o'ch cwrs ac i ddod i wybod mwy am eich opsiynau llety. 

Myfyrwyr yn siarad ac ymlacio yn Barlows, Pentref Myfyrwyr y Santes Fair

Gwneud ffrindiau cyn cyrraedd y campws

CampusConnect, ein ap ar gyfer deiliaid cynnig, yw'r ffordd orau i gysylltu â myfyrwyr eraill sydd ar yr un cwrs â chi ac yn aros yr un llety. Mae'n ffordd wych o wneud ffrindiau a chael cyngor am y Brifysgol cyn dod yma. Edrychwch ar eich e-byst am fanylion mewngofnodi.   

Cefnogaeth a Lles

Rydym yn cynnig amgylchedd astudio cyfeillgar a gofalgar, ac mae eich iechyd a'ch lles yn bwysig i ni. I'ch helpu i wneud y gorau o'ch amser yn y brifysgol, cewch gymaint o help a chefnogaeth â phosibl gyda materion iechyd a lles yn ogystal â'ch gwaith academaidd.

Arweinwyr Cyfoed

Mae Arweinwyr Cyfoed yn fyfyrwyr ail a thrydedd flwyddyn sydd wedi'u hyfforddi i helpu myfyrwyr newydd i ymgartrefu mewn bywyd prifysgol.

Mwy o wybodaeth 

Gwasanaethau Myfyrwyr

Mae'r gwasanaethau'n cynnwys cyngor ar arian a thai preifat, dyslecsia, cymorth iechyd a lles, a chwnsela.

Mwy o wybodaeth 

Cymorth Anabledd

Mae ein Tîm Anabledd ymroddedig yn darparu cyngor ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud ag anabledd.

Mwy o wybodaeth 

Tiwtor Personol

Byddwch yn cael Tiwtor Personol o'ch Ysgol academaidd felly bydd gennych chi bob amser rhywun i droi atynt.

Mwy o wybodaeth 

Myfyrwyr yn siarad tu allan i'r brifsysgol

Derbyn eich cynnig i astudio ym Mangor

Darllenwch ein canllaw ar sut i ddewis Prifysgol Bangor fel eich Dewis Cadarn.

Derbyn eich cynnig >

Heb wneud cais i Fangor eto?

Nid yw'n rhy hwyr i wneud cais ar gyfer y rhan fwyaf o'n cyrsiau sy'n dechrau fis Medi eleni.

Mwy o wybodaeth