Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae cwrs MPhil a PhD yn cynrychioli darn o ymchwil estynedig i agwedd arbennig ar iaith neu lenyddiaeth Gymraeg. Hyd traethawd MPhil nodweddiadol yw rhwng 30,000 a 60,000 o eiriau tra mae traethawd PhD yn cynnwys rhwng 60,000 a 100,000 o eiriau.
Pennir cyfarwyddwr ymchwil i bob myfyriwr unigol a threfnir i’w gyfarfod yn rheolaidd drwy gydol cofrestriad y myfyriwr. Cynhelir cyfres reolaidd o seminarau ar gyfer cymuned ôl-radd egnïol Ysgol y Gymraeg lle bydd cyfle i rannu gwybodaeth am brojectau ymchwil myfyrwyr a staff.
Gellir dilyn MPhil neu PhD mewn Ysgrifennu Creadigol, cwrs sy’n cynnwys portffolio creadigol sylweddol a darn o ymchwil hunan-feirniadol yn seiliedig ar y project creadigol. Ymhlith y projectau diweddar mae nofel hanes, nofel gyfoes a chasgliad o gerddi, a chyfres o ysgrifau.
Gofynion Mynediad
Ystyrir pob cais yn unigol, ond rhoddir pwys ar radd israddedig mewn pwnc perthnasol a/neu brofiad blaenorol perthnasol. Mae MA mewn maes perthnasol hefyd yn gymhwyster dymunol, er nad yw bob tro’n angenrheidiol.
Gyrfaoedd
Ers rhai blynyddoedd, bu nifer o fyfyrwyr yn Ysgol y Gymraeg yn dilyn cyrsiau MPhil a PhD a noddwyd gan arian o ffynonellau Ewropeaidd, ac y mae hynny wedi arwain at nifer o gysylltiadau gwerthfawr gyda chwmnïau a sefydliadau fel Canolfan Cae’r Gors, Cwmni Da ac Amgueddfa Lechi Gogledd Cymru. Noddwyd cynlluniau eraill gan Fwrdd yr Iaith gynt a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Enillodd myfyrwyr eraill ysgoloriaethau gan yr AHRC a chronfa Ysgoloriaethau Dathlu 125 Mlynedd Prifysgol Bangor
Ar ôl cwblhau eu MPhil neu PhD yn llwyddiannus, aeth amryw gyn-fyfyrwyr yn eu blaenau i weithio mewn amryw feysydd yn y blynyddoedd diweddar, e.e. swyddi hyrwyddo gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cofrestrfa Academaidd Prifysgol Bangor ac Uned Recriwtio Prifysgol y Drindod Dewi Sant, neu faes cynllunio ieithyddol gyda Menter Môn. Aeth eraill ymlaen i ddatblygu eu gyrfaoedd fel llenorion ac ennill cydnabyddiaeth ar ffurf Gwobr Goffa Daniel Owen a Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn. Ar hyd y blynyddoedd mae myfyrwyr ymchwil o Ysgol y Gymraeg wedi cael gyrfaoedd llwyddiannus mewn amryw feysydd, boed yn y cyfryngau, y byd addysg, meysydd gweinyddol neu’r byd gwleidyddol.