Fy ngwlad:
Logo 25 erbyn 25 ar gefndir pinc

25% erbyn 2025: Ein Dyfodol Cynaliadwy

25 by 25 partner logos

Nod y Brifysgol yw torri 25% o'i hallyriadau cyfwerth â charbon deuocsid (CO2e) mewn dim ond tair blynedd. 

I gyrraedd '25 erbyn 25', bydd angen i'r brifysgol edrych ar sut mae'n defnyddio pob math o bŵer a thanwydd, y gwastraff rydym yn ei daflu, y dŵr rydym yn ei ddefnyddio a bron unrhyw beth a phopeth sy'n creu allyriadau nwyon tŷ gwydr. 
Mae hwn yn darged uchelgeisiol ond credwn y gallwn ei gyrraedd. Bydd angen i ni edrych ar wahanol ffyrdd o weithio a bydd angen cefnogaeth pob aelod o gymuned y brifysgol i gyflawni hyn
 

Dyma’r 3 maes allweddol sy’n cael eu targedu....

Llun o beilonau trydan mewn cae, yn erbyn machlud haul

Ynni

Mae ein trydan eisoes yn cael ei gynhyrchu drwy dechnolegau carbon isel ac rydym yn bwriadu gosod mesuryddion ym mhob adeilad ac ym mhob ardal i weld beth yw’r ffordd orau o ddefnyddio ein trydan, gan wneud arbedion angenrheidiol lle bo angen. 
Bydd y brifysgol yn edrych ar y ffordd orau o wresogi ei holl adeiladau ac yn ystyried ffyrdd o leihau'r ynni sydd ei angen i wneud hynny lle bynnag y bo modd.

Lle mae angen i ni newid:
•    Yn 2020/21 cyfanswm ein defnydd o drydan oedd 12,959,017 kWh – sy’n cyfateb i bweru 4,180 o gartrefi yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn!


Bangor Gynaliadwy:
Y llynedd byddai ein system ynni solar ar y safle wedi pweru 20 o gartrefi yn y Deyrnas Unedig am flwyddyn
 

Trên yn teithio trwy orsaf

Teithio

Mae teithio i'r brifysgol ac ohoni, a theithio academaidd trwy gydol y flwyddyn yn cynhyrchu swm sylweddol o CO2e. Mae'r brifysgol yn edrych ar ffyrdd o'i gwneud yn haws i staff a myfyrwyr rannu ceir, defnyddio cerbydau trydan a neidio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Lle gallwn wneud newid:
Yn ôl arolwg teithio staff 2021, pellter cymudo cyfartalog y staff oedd 12.1 milltir, sy’n gwneud beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis amgen rhesymol yn hytrach na theithio mewn car.


Bangor Gynaliadwy:
Mae beiciau trydan ar gael i staff eu prynu drwy'r Cynllun Beicio i'r Gwaith

Edrychwch ar y map hwn sy’n dangos lle mae’r raciau beic a’r cawodydd hygyrch wedi eu lleoli o amgylch y campws i helpu gyda chymudo carbon isel
 

Cerbyd yn gweithio mewn safle tirlenwi

Gwastraff

Mae lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi yn rhan hanfodol o leihau ein CO2e. Byddwn yn edrych yn ofalus ar beth rydym yn ei brynu, yr hyn y gallwn ei ailddefnyddio a'r hyn y gallwn ei ailgylchu.


Lle gallwn wneud newid:
Mae dros 50% o’n gwastraff yn cael ei ailgylchu, ond mae angen i ni gyflawni 70% erbyn 2025


Bangor Gynaliadwy:
Mae data 2021/22 yn dangos bod 0% o’n gwastraff bellach yn mynd i safleoedd tirlenwi.

“Peidiwch â gwastraffu plastig, peidiwch â gwastraffu bwyd, peidiwch â gwastraffu pŵer.”

Syr David Attenborough
Simneiau ffatri yn rhyddhau llygredd i'r amgylchedd

Beth yw CO2E a pham ein bod yn ei fesur?

Uned safonol yw CO2e ar gyfer mesur ôl-troed carbon gan ei fod yn cymryd i ystyriaeth yr effaith y mae gwahanol nwyon tŷ gwydr yn eu cael o ran faint o CO2 fyddai’n creu’r un faint o gynhesu byd-eang. Fel hyn, gellir mynegi ôl-troed carbon sy'n cynnwys llawer o wahanol nwyon tŷ gwydr fel un rhif. 

Lefel CO2e y brifysgol, ar sail lleoliad (amdan allyriadau Cwmpas 1 a 2), yn 2018/19 oedd 9,491.90 tunnell a’n bwriad yw gostwng y ffigwr hwn i 7,118.93  tunnell CO2e erbyn y flwyddyn 2025. 

Ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn mesur ein “CO2e ar sail lleoliad” a’n “CO2e ar sail y farchnad” mewn amrywiol ffyrdd, ac rydym yn llwyddo i ostwng y ddau beth. Dull ‘ar sail lleoliad’ yw’r ffordd fwyaf derbyniol gan y diwydiant o roi cyfrif am eich gostyngiadau CO2e, gan mai dyma’r hyn y mae gennym fwyaf o reolaeth drosto, felly dyma’r hyn y byddwn yn ei dargedu.