Treuliais flwyddyn mewn diwydiant fel intern Gwerthiant Masnachol yn CMware. Mae'r cwmni’n un o frandiau mwyaf blaenllaw’r diwydiant technoleg ac mae'n arbenigo mewn cyfrifiadura a rhithwiroli. Nid wyf yn un sy’n frwd ofnadwy dros dechnoleg ond bu llawer o’r teulu’n dilyn gyrfaoedd ym maes Gwerthu ac mae gen i brofiad yn y maes hefyd, ac felly mi oedd hi’n briodol imi wneud cais am rôl fel hon. Penderfynais i weithio yn y diwydiant hwnnw oherwydd mai mewn gwerthiant y mae’r arian mawr! Roedd CMware yn un o nifer fawr o gwmnïau technoleg y gwnes i gais iddynt ond rwy’n hapus iawn yma.
Roeddwn yn bryderus iawn ynglŷn â dechrau’r interniaeth o ystyried nad oedd gen i ddim profiad o weithio i gwmni corfforaethol, heb sôn am dechnoleg gwybodaeth. Wedi dweud hynny, gallaf ddweud yn onest mai dyma un o flynyddoedd gorau fy mywyd. Symudais i Lundain a chwrdd â chymaint o bobl newydd a agorodd gymaint o gyfleoedd imi a fy ngyrfa at y dyfodol ac rwy’n hynod ddiolchgar am hynny.
O'r dechrau’n deg, teimlais fy mod i’n rhan o'r tîm. Roedd pawb yn groesawgar iawn ac mi es i ati’n syth bin. Byddwn i’n mynd i gyfarfodydd gyda chwsmeriaid a phartneriaid gyda'r Rheolwyr Cyfrifon lle roeddwn yn gallu ehangu fy rhwydwaith a chwrdd â Phrif Weithredwyr hefyd o bryd i'w gilydd. Cymerais ran mewn llawer o raglenni hyfforddi fel 'Big Speeches' Training a oedd yn canolbwyntio ar siarad yn gyhoeddus a chyflwyno i gynulleidfa. Felly, roeddwn i’n fwy hyderus i gyflwyno adroddiadau a gwybodaeth am werthiant i reolwyr a chynrychiolwyr cyfrifon. Gweithiais yn agos iawn gyda fy rheolwyr, gan eu helpu i drefnu digwyddiadau a chyfarfodydd ar amrywiol bynciau gwahanol. Bûm yn dadansoddi data gwerthiant yn rheolaidd, gan nodi tueddiadau ac adrodd hynny yn ôl i'r tîm.
Oherwydd fy mrwdfrydedd a fy agwedd at waith, enillais wobr a bonws gan fy rheolwyr ac roeddwn i'n falch iawn ar hynny! Fe wnaethant hefyd ymestyn fy nghontract o 12 mis i 14 mis fel y gallwn helpu'r tîm ymhellach a mentora'r interniaid newydd i sicrhau eu bod yn gwybod beth oeddent yn ei wneud.
Ar y cyfan, fedra’ i ddim argymell interniaeth ddigon. Cymerodd COVID-19 fy 2il flwyddyn yn y Brifysgol oddi arnaf, a heb os mi wnaeth symud i Lundain a chael cymaint o gyfleoedd newydd a chyffrous fy mhrofiad yn y brifysgol yn werth chweil. Bellach mae gen i brofiad bywyd go iawn a llawer o gysylltiadau newydd, a bydd yn haws o lawer dod o hyd i swydd ar ôl graddio . Yn ogystal, mi wnes i ffrindiau oes ac atgofion na wnaf i byth eu hanghofio.
Felly, fy nghyngor i fyddai…gwnewch gais am interniaeth, wnewch chi ddim difaru! Ac ewch allan o'ch byd cyfarwydd!