Mae gan y Brifysgol tua 3,300 o lefydd mewn Neuaddau Preswyl. Rydym yn sicrhau lle i holl fyfyrwyr israddedig y flwyddyn gyntaf sy'n nodi Bangor fel eu Dewis Pendant ac yn gwneud cais cyn y dyddiad cau.
Gwneud cais am lety
Mae'r system i wneud cais am lety'n agor 27 Ionawr 2020. Bydd ymgeiswyr sydd wedi derbyn cynnig (a all fod yn un amodol) i astudio yn y Brifysgol ym mis Medi yn derbyn e-bost yn eich gwahodd i wneud cais am lety. Unwaith y byddwch wedi derbyn yr ebost, gallwch archebu ystafell drwy wneud cais ar-lein.
Gofalwch bod eich cyfeiriad e-bost cyfredol gan y Brifysgol.
Pam byw mewn Neuadd?
Fel Prifysgol rydym yn eich annog i wneud cais am le mewn Neuadd Breswyl oherwydd yn y fan honno y cewch y cyflwyniad gorau i fywyd prifysgol. Ewch i'n tudalen Pam byw mewn Neuadd? am fwy o resymau dros aros mewn neuadd y Brifysgol yn hytrach na mewn llety preifat.
Mwy am ein Neuaddau...
I wybod mwy am ein neuaddau, cliciwch yma