Meet the Risk Compliance Specialist Webcast with Ngoc Tan Bich Vo
Ymunwch ag Addysg Weithredol Ysgol Busnes Bangor ar gyfer y gweddarllediad rhyngweithiol hwn; ‘Meet the Risk Compliance Specialist' with Ngoc Tan Bich.
Bydd y gweddarllediad yma yn iaith Saesneg yn unig.
Testun: "Managing compliance risk across different national cultures"
Gyda Stephen Jones, Cyfarwyddwr Addysg Weithredol Ysgol Busnes Bangor a siaradwr gwadd, Ngoc Tan Bich Vo.
Mae gan Ngoc dros 10 mlynedd o brofiad yn y diwydiant bancio a gwasanaethau ariannol, gan arbenigo mewn rheoli cleientiaid, rheoli risg, risg troseddau ariannol a chydymffurfio. Mae hi hefyd yn Arbenigwr Gwrth - Gwyngalchu Arian Ardystiedig (CAMS) sydd â gwybodaeth ddofn am safonau rheoli risg rhyngwladol, gan gynnwys Basel III/IV, canllawiau FATF, a fframweithiau rheoleiddio ar draws sawl awdurdodaeth (Lwcsembwrg, y DU, UDA, yr UE).
Mae Ngoc yn Gyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor, yn graddio gyda gradd Meistr mewn Bancio a Cyllid yn 2011. Mae gan Ngoc arbenigedd mewn troseddau gwrth-ariannol, risg weithredol, archwilio a sicrhau cydymffurfiaeth.