Myfyriwr yn ysgrifennu mewn llyfryn efo ffôn symudol a gliniadur ar y ddesg

Modiwlau Sengl Addysg Weithredol

Modiwlau Hydref 2024

Modiwl 15 Credyd

Trosolwg o’r Modiwl

Mae'r modiwl yn ymdrin â'r newidiadau cyflym presennol mewn technoleg bancio ac effaith darfol busnesau newydd 'technoleg ariannol', gan herio modelau busnes banciau confensiynol. Mae'r ffocws ar ryngweithiad technoleg (cryptograffeg, bancio symudol, deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol), rheoleiddio (e.e. PSD2 yr UE) a modelau busnes sy’n newid. Ystyriaeth eang fydd i ba raddau y mae technoleg newydd yn arwain at leihau’r defnydd o gyfryngwyr ariannol mewn swyddogaethau bancio traddodiadol ac i ba raddau y mae'n arwain at gydweithrediad rhwng banciau a chwmnïau technoleg newydd nad ydynt yn fanciau. Bydd y darlithoedd yn canolbwyntio ar ddau faes busnes lle mae'r technolegau newydd yn cael yr effaith fwyaf: (i) taliadau domestig a rhyngwladol; (ii) busnesau bach a chredyd personol ansicredig, gan gynnwys cyllid masnach a chadwyn gyflenwi. Byddant hefyd yn darparu trafodaeth ar y polisi cyhoeddus a materion strategol mewn technoleg ariannol – yn arbennig y rhyngweithio rhwng rheoleiddio ac arloesi mewn technoleg bancio; a'r newid arfaethedig mewn sefydliadau cydweithredol a sefydliadau a rennir megis y cwmnïau cardiau rhyngwladol Visa a Mastercard a'r rhwydwaith taliadau rhyngwladol Swift. Bydd y tair darlith gyntaf yn rhoi trosolwg o ddarparwyr taliadau newydd, gan edrych ar daliadau rhyngwladol, ac ar dirwedd taliadau C2B a B2B domestig sy’n datblygu’n gyflym. Bydd astudiaeth achos ategol yn archwilio swyddogaeth y prif gwmnïau cardiau Visa a Mastercard. Bydd y ddwy ddarlith nesaf yn edrych ar fenthyca o sefydliadau nad ydynt yn fanciau sy’n seiliedig ar dechnoleg, yn enwedig swyddogaeth y P2P neu roddwyr benthyg y farchnad a hefyd anfonebau a mathau eraill o gyllid cadwyn gyflenwi ac i ba raddau y gellir darparu credyd yn gyfan gwbl y tu allan i'r system fancio. Bydd y darlithoedd olaf yn edrych ar y technolegau ariannol newidiol o safbwynt polisi cyhoeddus a strategol, gan edrych yn feirniadol ar swyddogaeth rheoleiddio o ran cefnogi ac fel rhwystr i arloesi, ac effaith technoleg ar y dirwedd fancio yn y blynyddoedd i ddod.

Nodau ac Amcanion y Modiwl

Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn gallu gwneud y canlynol:

  • Bod yn ymwybodol o'r cwmnïau mwyaf blaenllaw sy'n seiliedig ar dechnoleg mewn technoleg ariannol a sut maent yn herio banciau mewn gwasanaethau talu a benthyca ledled y byd
  • Deall ac edrych ar sut mae technoleg, rheoleiddio a chyd-destun busnes gyda'i gilydd yn llunio'r cyfleoedd ar gyfer arloesi technolegol mewn bancio
  • Wedi archwilio'n feirniadol y materion strategol a pholisi cyhoeddus a godwyd gan y technolegau newydd, gan gynnwys cymhwyso cyfraith a pholisi cystadleuaeth ac i ba raddau y mae technoleg yn arwain at fathau newydd o gystadleuaeth a chydweithrediad yn y diwydiant

Testun Allweddol

Nid oes gwerslyfr cyfoes. Bydd myfyrwyr yn cael eu harwain at ymchwil a dadansoddiadau perthnasol o’r diwydiant.

Dull Asesu

Asesir y modiwl hwn trwy gyfrwng un project bach 3,500 o eiriau 

Uned Un: Systemau talu a thechnolegau talu newydd
Uned Dau: Technolegau credyd a benthyca eraill
Uned Tri: Polisi cyhoeddus a goblygiadau strategol y technolegau newydd

Modiwl 15 Credyd

Trosolwg o’r Modiwl

Bydd y modiwl hwn yn edrych ar y tair elfen graidd o farchnadoedd cyfalaf a rheoli’r trysorlys fel a ganlyn: rheoli hylifedd a marchnadoedd cyfalaf, rheolaeth ariannol a rheoli risg a gweithrediadau’r trysorlys. Bydd myfyrwyr yn edrych ar y damcaniaethau a'r elfennau allweddol sy'n sail i bob adran. I ddechrau, bydd myfyrwyr yn archwilio'r cyd-destun ar gyfer rheoli arian parod a hylifedd rhyngwladol megis systemau ariannol a bancio a gwerth yr arian mewn amser. Byddant wedyn yn symud ymlaen i drafod cysyniadau craidd megis ecwiti a dyled a’r dulliau sydd ar gael ar gyfer codi arian yn y marchnadoedd cyfalaf. Drwy gydol yr adrannau nesaf bydd myfyrwyr yn gwerthuso dulliau pellach o godi cyfalaf; dadansoddi marchnadoedd bond a statws credyd ac edrych ar hanfodion prisio ecwiti. Bydd yn datblygu dealltwriaeth o reoli risg a’r fframwaith ar gyfer rheoli risgiau ariannol cyn cloi gyda dadansoddiad manwl o swyddogaeth y trysorlys, ei drefniadaeth, polisïau, amcanion a rheolaethau.

Nodau ac Amcanion:

Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn gallu gwneud y canlynol:

  • Egluro'r cyd-destun ar gyfer rheoli arian parod a hylifedd
  • Egluro mecanweithiau marchnadoedd arian a'r marchnadoedd cyfnewid tramor
  • Egluro mecanwaith codi arian yn y marchnadoedd dyled ac ecwiti
  • Gwneud cyfrifiadau sy'n ymwneud â phrisio bondiau, cynnyrch a hyd
  • Dadansoddi defnyddiau, rhinweddau a pherfformiad statws credyd
  • Trafod dulliau o brisio ecwiti a materion yn ymwneud â pholisi difidend
  • Gwneud cyfrifiadau sy’n ymwneud â chreu portffolio amrywiol a risg systematig
  • Egluro nodweddion offer rheoli risg generig
  • Gwneud cyfrifiadau sy'n ymwneud â rheoli risg cyfraddau llog a chyfraddau cyfnewid
  • Egluro prif nodweddion ac amcanion gweithrediadau'r trysorlys

Testun Allweddol:

Finance and Financial Markets (4th Edition) Pilbeam, K - Palgrave Macmillan

Dull Asesu:

Asesir y modiwl hwn trwy gyfrwng un project bach 3,500 o eiriau 

Mae Uned Un yn ymdrin â’r canlynol:
Mae’r uned hon yn archwilio'r cyd-destun ar gyfer rheoli hylifedd megis systemau ariannol a bancio a gwerth yr arian mewn amser. Mae'n cyflwyno offer craidd a ddefnyddir yn y trysorlys megis marchnadoedd arian a'r marchnadoedd cyfnewid tramor. Mae'r uned hefyd yn edrych ar gysyniadau craidd ecwiti a dyled ac yn cyflwyno dulliau o godi arian yn y marchnadoedd cyfalaf. Felly mae hefyd yn darparu sylfaen ar gyfer deunydd a drafodir yn Unedau 2 a 3.

Mae Uned Dau yn ymdrin â’r canlynol:
Mae’r uned hon yn rhoi sylw manwl i agweddau pwysig ar y marchnadoedd cyfalaf (dyled/ecwiti neu farchnadoedd bond/stoc) ac yn adeiladu ar sylfeini Uned 1. Yng nghyd-destun y marchnadoedd bondiau, rydym yn ystyried meysydd cyfoes cyfredol (e.e. statws credyd, yr argyfwng dyled sofran Ewropeaidd) ac nid oes llawer o'r deunydd hwn ar gael mewn gwerslyfrau. Mae'r pynciau hyn yn adlewyrchu arbenigedd ymchwil Ysgol Busnes Bangor. Yng nghyd-destun y marchnadoedd ecwiti, rydym yn canolbwyntio i ddechrau ar brisio ecwiti a swyddogaeth polisi difidend. Yn olaf, rydym yn ymdrin ag egwyddorion risg, enillion, creu portffolio amrywiol a modelau prisio asedau.

Mae Uned Tri yn ymdrin â’r canlynol:
Mae'r uned hon yn edrych ar gysyniadau ac offer rheoli risg ac yn ystyried y cymhellion ar gyfer ymddiogelu gan fanciau. Awn ymlaen i drafod technegau rheoli risg generig a swyddogaethau offerynnau deilliad ariannol. Mae banciau masnachol yn wynebu rhestr hir o ffynonellau risg posibl ac felly llawer o risgiau y mae angen eu rheoli. Yn yr uned hon, byddwn yn canolbwyntio ar reoli tri math o risg, sef risg cyfradd llog, risg cyfnewid tramor a risg credyd. Yn yr isadran olaf, ein nod yw tynnu ynghyd nifer o faterion allweddol o fewn y maes llafur sy'n berthnasol i swyddogaethau trysorlys banciau a rheoli’r trysorlys.

Modiwl 15 Credyd

Trosolwg o’r Modiwl

Mae Cyllid Corfforaethol yn weithgaredd rheoli allweddol gydag amrywiaeth eang o weithgareddau i’w hymdrin. Mae dealltwriaeth o benderfyniadau allweddol y rheolwyr ariannol wrth galon y modiwl hwn, gyda phwyslais ar ddewis buddsoddiadau proffidiol, defnyddio offerynnau ariannol, dewis y cymysgedd gorau o gronfeydd, polisïau risg a difidend. Pwysleisir hefyd pwysigrwydd llif arian a'r damcaniaethau sy'n sail i benderfyniadau difidend. Bydd myfyrwyr yn dod i ddeall y gwahanol fathau o fuddsoddi a'r enillion a ddisgwylir gan fuddsoddwyr. Mae'r modiwl hefyd yn edrych ar y cysyniad o risg, gan symud i adolygiad o natur y marchnadoedd cyfalaf a natur yr offerynnau a gyhoeddir ac a fasnachir ynddynt.

Nodau ac Amcanion y Modiwl:

Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn gallu gwneud y canlynol:

  • Deall y damcaniaethau sy'n sail i gyllidebu cyfalaf a gallu eu cymhwyso a’u trafod 
  • Deall cysyniadau costau cyfalaf a chronfeydd a gallu cymhwyso'r rhain i sefyllfaoedd go iawn
  • Deall y damcaniaethau a'r cysyniadau sy'n sail i benderfyniadau difidend; dadansoddi a chymhwyso'r rhain yn y byd go iawn
  • Deall cysyniadau cyfraddau disgowntio a sut mae'r rhain yn gysylltiedig ag offerynnau ariannol a risg
  • Deall y materion sy'n ymwneud â chyllid hirdymor; gwerthuso'r modelau perthnasol yn feirniadol a chymhwyso'r rhai mwyaf perthnasol wrth adolygu penderfyniadau ariannol
  • Meddu ar ddealltwriaeth drylwyr o swyddogaeth y rheolwr ariannol a'r swyddogaeth a chwaraeir gan gyllid corfforaethol yn y diwydiannau bancio ac ariannol

Testun Allweddol:

Corporate Finance (4th Edition) Berk, J and DeMarzo, P - Pearson

Dull Asesu:

Asesir y modiwl hwn trwy gyfrwng aseiniad unigol (40%) ac arholiad (60%).

Mae’r cwrs mewn tair uned y gellir eu rhannu’n fras fel a ganlyn:

Uned 1
Mae Uned 1 yn ymdrin ag agweddau technegol sylfaenol ar brisio gwerth yr arian mewn amser, disgowntio, ac ati ac yn rhoi’r sylfaen dechnegol angenrheidiol i ni symud ymlaen i wneud penderfyniadau yn Uned 2.

Uned 2
Mae'r ail uned, Uned 2, yn cymryd yr agweddau technegol hyn ac yn dechrau eu cymhwyso i brisio projectau. Mae’n dechrau gyda phroblemau syml ac yn symud ymlaen i benderfyniadau buddsoddi mwy cymhleth mewn perthynas â buddsoddi mewn peiriannau ac offer. Y syniad allweddol yw ystyried a yw buddsoddiad penodol yn addo mwy o lifoedd arian na chost y buddsoddiad. Mae hyn, wrth gwrs, yn berthnasol i lawer o benderfyniadau buddsoddi p'un ai i fuddsoddi mewn peiriant neu brynu cwmni neu i lansio ymgyrch hysbysebu neu i ddechrau rhaglen ymchwil a datblygu. Mae'r holl gyfleoedd hyn yn ymddangos yn wahanol iawn, ond mae gan bob un ohonynt yr un nod o gynhyrchu mwy o arian na'r gost o gael yr arian parod!

Uned 3
Mae'r drydedd uned, Uned 3, yn delio ag ochr gyllido’r cwmni. Mae Uned 1 ac Uned 2 yn ein helpu i benderfynu a yw’n gwneud synnwyr i brynu ased penodol. Mae Uned 3 yn edrych ar ariannu’r penderfyniad hwnnw o ran y marchnadoedd cyfalaf, ffynonellau cyllid a materion yn ymwneud â strwythur cyfalaf (faint y dylech ei fenthyg) a pholisi difidend.

Gall pob rhan o'r unedau hyn gael eu rhannu ymhellach yn bynciau unigol, sef deg i gyd.

Efallai y gwelwch wrth weithio’ch ffordd drwy’r modiwl bod rhywfaint o’r deunydd yn ymddangos braidd yn wahanol i’r diwydiant gwasanaethau ariannol, oherwydd, er enghraifft, prin yw’r buddsoddi mewn peiriannau ac offer yn y diwydiant hwn (ac eithrio ar gyfer offer TG, wrth gwrs). Fodd bynnag, cofiwch y bydd gan y rhai ohonoch sy’n rhoddwyr benthyg, gwsmeriaid sy’n defnyddio’r technegau hyn, neu dylent fod yn eu defnyddio, tra bydd eraill sy’n gweithio mewn banciau buddsoddi yn y maes uno wedi mynd i’r afael â’r broblem o roi gwerth ar gaffaeliadau posibl.

Modiwl 15 Credyd

Trosolwg y Modiwl

Mae'r modiwl hwn yn ystyried theori ac ymarfer llunio a gweithredu strategaeth. Ceir llawer o batrymau a chamau gweithredu a dulliau busnes sy'n diffinio strategaeth sefydliad a byddwch yn cael cyfle i nodi'r rhai sy'n berthnasol i gwmnïau gwasanaethau ariannol. Y sector gwasanaethau ariannol yw un o’r sectorau diwydiant a reoleiddir fwyaf a chaiff goblygiadau hyn ynghyd â nodweddion y cynhyrchion gwasanaeth eu nodi drwy gydol y modiwl. Caiff y theori a'r egwyddorion sy'n sail i weithrediadau a gweithgareddau busnes eu harchwilio a chymhwysir y wybodaeth i gwmnïau gwasanaethau ariannol. Wrth gwblhau'r unedau ar gyfer y modiwl, cyfeirir at reoli gwasanaethau a gweithrediadau; nodweddion unigryw gwasanaethau a all fod yn her neu'n gyfle i ddyfeisio a gweithredu strategaeth gorfforaethol unigryw a llwyddiannus. Fel darpar arweinwyr busnes a gwneuthurwyr penderfyniadau’r dyfodol, mae'n allweddol eich bod yn deall hanfod gweithrediadau busnes a'r ffactorau sy'n cyfrannu at fantais gystadleuol cwmni.

Modiwl 15 Credyd

Trosolwg o’r Modiwl

Mae'r modiwl hwn yn edrych ar y meysydd allweddol sy'n ymwneud â Chredyd a Benthyca, gan ddechrau gyda'r berthynas rhwng y bancwr a’r cwsmer, drwy weithdrefnau benthyca busnes ac yn gorffen gydag arferion risg credyd ar gyfer pob math o fanc (manwerthu, busnes a masnachol). Bydd myfyrwyr sy’n astudio’r modiwl yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl a beirniadol o gredyd a benthyca yn y diwydiant bancio a byddant hefyd yn datblygu amrywiaeth o sgiliau, technegau ac arferion bancio ar lefel broffesiynol.

Nodau ac Amcanion y Modiwl:

Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn gallu gwneud y canlynol:

  • Dangos gwybodaeth helaeth, fanwl a beirniadol o agweddau cyfreithiol y berthynas rhwng y banciwr a'r cwsmer
  • Disgrifio'n fanwl egwyddorion benthyca a'r prif gynhyrchion benthyca a chredyd
  • Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o'r gweithdrefnau ar gyfer cymryd amrywiaeth o warantau ar gyfer blaensymiau
  • Ymarfer amrywiaeth o sgiliau, technegau ac arferion benthyca busnes a dehongli ac asesu cyfrifon busnes, gan gynnwys nodi, llunio a datrys problemau busnes ac asesu a rheoli risg mewn cyd-destun bancio busnes
  • Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o ddiwydrwydd a methdaliad
  • Dangos dealltwriaeth helaeth, fanwl a beirniadol o sut mae'r risg credyd yn gweithredu, a sut mae'n chwarae ei rhan wrth reoli risg ar gyfer busnes bancio

Dull Asesu:

Asesir y modiwl hwn trwy gyfrwng aseiniad unigol (40%) ac arholiad (60%).

Mae Uned 1 yn ymdrin â’r canlynol: Nod Uned 1 yw cyflwyno Credyd a Benthyca ac egluro’r prif themâu sy’n rhedeg drwy gydol y modiwl. Amlinellir strwythur y modiwl, a chyflwynir y prif destun. Rhoddir trosolwg o Reoli Risg Credyd a'i swyddogaeth yn y diwydiant gwasanaethau ariannol modern. Mae'n hanfodol cael dull strwythuredig ac ymarferol i sicrhau’r proffidioldeb mwyaf o fewn y portffolio benthyca. Edrychir ar y materion hyn fel themâu pwysig mewn Rheoli Risg Credyd modern. Dull gweithredu sylfaenol y modiwl hwn yw bod Credyd a Benthyca yn elfen ganolog o reolaeth ariannol ymarferol banciau. Yn wir, mae canran uchel o'r rhan fwyaf o asedau Banciau Masnachol yn cael eu cyflogi yn y portffolio Benthyca. Mae gwerslyfr y modiwl a argymhellir yn mabwysiadu'r un dull ymarferol. Mae'r dull hwn yn galluogi edrych ar Gredyd a Benthyca o fewn ei swyddogaeth banc strategol a rheolaethol fwyaf priodol, sef rheolaeth ariannol banciau. 

Mae Uned 2 yn ymdrin â’r canlynol: Nod Uned 2 Rhan 1 yw cyflwyno Credyd Manwerthu - Benthyca Busnesau Bach ac esbonio sawl offeryn a thechnegau i gynorthwyo'r Rhoddwyr Benthyg i werthuso risg Credyd. Byddwn yn adolygu lleoliad economaidd a phwysigrwydd y sector busnesau bach a chanolig. Mae'n hanfodol eto cael dull strwythuredig ac ymarferol i sicrhau’r proffidioldeb mwyaf o fewn y portffolio benthyca. 

Nod Uned 2 Rhan 2 yw cyflwyno dadansoddi a phrisio Cwmniau Mawr; ynghyd â dangosyddion perfformiad y Farchnad Stoc a'r defnydd o fodelau ariannol i ragfynegi trallod corfforaethol. Mae'n hanfodol eto cael dull strwythuredig ac ymarferol i sicrhau’r proffidioldeb mwyaf o fewn y portffolio benthyca. Edrychir ar y materion hyn fel themâu pwysig mewn Rheoli Risg Credyd modern. Dull gweithredu sylfaenol y modiwl hwn yw bod Credyd a Benthyca yn elfen ganolog o reolaeth ariannol ymarferol banciau. 

Mae Uned 3 yn ymdrin â’r canlynol: Nod Uned 3 yw archwilio yn Rhan 1 yr uned hon y pwnc benthyca arbenigol o gyllid strwythuredig a chyllid projectau. Yn rhan 2, edrych ar y pwnc benthyca arbenigol o Gyllid Gwrthrych a deall sut y gall technegau peirianneg ariannol leihau cost cyfalaf yn y projectau ariannu cymhleth hyn. Mae'n hanfodol eto cael dull strwythuredig ac ymarferol i sicrhau’r proffidioldeb mwyaf o fewn y portffolio benthyca. Edrychir ar y materion hyn fel themâu pwysig mewn Rheoli Risg Credyd modern.

Gwerslyfr Allweddol:
Checkley, K., & Dickinson, K. (2018). Credit Masterclass (1st ed., Vol. 1). Credit Skills Academy. Moeseg, Rheoleiddio a Gwybodaeth Cydymffurfio i ddilyn – uno modiwlau newydd

Modiwl 30 Credyd

Trosolwg o’r Modiwl

Mae'r modiwl yn ystyried troseddau ariannol a chudd-wybodaeth am farchnadoedd cyfalaf, a bancio preifat a gweithredu ar ran banc arall. Cyflwynir myfyrwyr i gysyniadau a dulliau rheoleiddio yn y tri chyd-destun, cyn dysgu am wahanol ddulliau a ddefnyddir i ganfod troseddau, lliniaru effaith a rhwystro ymddygiad o'r fath. Trafodir cynnyrch, rheoli risg a'r strwythurau sefydliadol ehangach sy'n berthnasol i bob sefyllfa. Gellir addasu'r is-sectorau bancio penodol o flwyddyn i flwyddyn yn dibynnu ar ddatblygiadau perthnasol yn y diwydiant.

Nodau ac Amcanion y Modiwl

Mae'r modiwl yn rhoi archwiliad manwl o themâu cyfredol mewn troseddau ariannol sy'n codi mewn gweithredu ar ran banc arall, bancio preifat a marchnadoedd cyfalaf. Ar gyfer pob lleoliad cyflwynir y myfyriwr i wybodaeth am gynnyrch a chyd-destun sefydliadol i alluogi gwerthusiad beirniadol o ganfod a lliniaru troseddau ariannol a gwyngalchu arian. Mae'r modiwl yn cynnwys astudiaethau achos o gamau goruchwylio diweddar ac enghreifftiau o setliadau ariannol a gafwyd gan sefydliadau na fu iddynt gydymffurfio.

Testun Allweddol 

Gellir gweld y tri llawlyfr cwrs a ddefnyddir ar y modiwl hwn trwy lwyfan ManchesterCF. Mae ManchesterCF yn ddarparwr hyfforddiant arbenigol mewn troseddau ariannol, ac yn diweddaru eu deunyddiau yn barhaus mewn ymateb i newidiadau mewn rheoleiddio. Bydd y deunyddiau'n archwilio cysyniadau damcaniaethol ac agweddau ymarferol gweithredu ar ran banc arall, bancio preifat a marchnadoedd cyfalaf i gyflwyno amrywiaeth eang o achosion yn y byd go iawn.

Uned 1 - FIU Connect Capital Markets
Uned 2 - FIU Connect Correspondent Banking
Uned 3 - FIU Connect Private Banking

Dulliau Asesu

Mae'r asesiad project bach ar gyfer Troseddau Ariannol yn y Diwydiant Bancio yn cynnwys dwy ran:-

  • Ymchwil sy'n gofyn i'r myfyriwr nodi'r 'sefyllfa gyfredol' ar gyfer Troseddau Ariannol yn y Diwydiant Bancio yn eu meysydd gweithredu daearyddol ac o ran cynnyrch, ar gyfer pob un o’r tri phwnc yn y modiwl, ac asesu sut mae'r rhain yn cymharu â datblygiadau yn y diwydiant yn fyd-eang (5500 o eiriau ac yn cynnwys 75% o bwysoliad modiwl).
  • Gwerthusiad beirniadol o 'ymarfer gorau ar gyfer lliniaru risg' ar gyfer Troseddau Ariannol yn y Diwydiant Bancio fel y nodir yn y deunyddiau astudio a darlleniadau atodol, ar draws y tri thestun yn y modiwl (1500 o eiriau a phwysoliad modiwl o 25%).

Modiwl 15 Credyd

Trosolwg o’r Modiwl

  • Mae'r modiwl yn ystyried meysydd newydd a datblygol o gyllid gwyrdd a dulliau o wella ymarfer cynaliadwy ym maes cyllid.
  • Mae'r modiwl yn adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol addasu dulliau ac ymarfer cyllid a bancio i realiti newidiol newid hinsawdd a phryderon cynyddol ynglŷn â chynaliadwyedd cyllid.
  • Ar ôl cwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, gall y rhai sydd wedi cymryd rhan ofyn am Dystysgrif Cyllid Gwyrdd a Chynaliadwy a gynigir gan y Sefydliad Bancwyr Siartredig.

Nodau ac Amcanion:

Bydd y modiwl yn cyflwyno ac yn gwerthuso goblygiadau ariannol yr economi werdd a chynaliadwy newydd sydd ei hangen ar gyfer yr 21ain ganrif. Bydd y modiwl yn edrych ar y sail resymegol, dimensiynau moesegol, agweddau rheoleiddiol a goblygiadau ymarferol cyllid gwyrdd a chynaliadwy i'r diwydiant. Yn y modiwl hwn byddwn yn ystyried beth yw cyfrifoldebau a disgwyliadau cwmnïau, rheoleiddwyr a gweithwyr cyllid proffesiynol wrth fynd i'r afael â'r realiti newydd hyn ac amrywiaeth o ddulliau gweithio a chamau gweithredu a fabwysiadir i gyflawni'r nodau hyn.

Testun Allweddol

Green and Sustainable Finance: Principles and Practice: 6, Simon Thompson

Dull Asesu

Asesir y modiwl hwn trwy gyfrwng un project bach 3,500 o eiriau 

Modiwl 30 Credyd

Trosolwg o’r Modiwl 

Mae'r modiwl hwn yn ystyried yr amgylchedd deddfwriaethol a rheoleiddiol sy'n diffinio ac yn ceisio rheoli troseddau ariannol sy'n gysylltiedig â chamfanteisio amhriodol ar yr amgylchedd ffisegol, a gwyngalchu arian yn seiliedig ar fasnach. Asesir y sancsiynau economaidd a ddefnyddir yn aml i annog cydymffurfiaeth. Amlinellir y cymhellion ar gyfer datblygiad cychwynnol a pharhad pob trosedd a sut y gellir eu canfod. Cyflwynir ymatebion polisi priodol i rwystro a brwydro yn erbyn troseddau o'r fath.

Nodau ac Amcanion y Modiwl

Mae’r modiwl yn ystyried cyd-destun sefydliadol ehangach cymdeithasau o gwmpas y byd sy’n pwysleisio fwyfwy eu pryder ynghylch difrod i’r amgylchedd ffisegol – i genedlaethau o ddinasyddion heddiw ac yfory. Mae troseddau amgylcheddol yn amrywio o lygredd in situ i fasnachu adnoddau amgylcheddol rhwng cenhedloedd. Mae llywodraethau sofran yn aml yn cyflwyno sancsiynau economaidd ar genhedloedd eraill neu sefydliadau unigol (gan gynnwys banciau) i gyfyngu ar fasnach o'r fath. Mae angen i ddarparwyr gwasanaethau ariannol werthfawrogi'r mathau hyn o droseddau er mwyn ymgysylltu'n effeithiol â'r agenda cynaliadwyedd.

Testun Allweddol 

Gellir gweld y tri llawlyfr cwrs a ddefnyddir ar y modiwl hwn trwy lwyfan ManchesterCF. Mae ManchesterCF yn ddarparwr hyfforddiant arbenigol mewn troseddau ariannol, ac yn diweddaru eu deunyddiau yn barhaus mewn ymateb i newidiadau mewn rheoleiddio. Bydd y deunyddiau'n archwilio cysyniadau damcaniaethol ac agweddau ymarferol troseddau’n seiliedig ar fasnach a throseddau amgylcheddol a sancsiynau economaidd i gyflwyno amrywiaeth eang o achosion yn y byd go iawn.

Uned 1 - FIU Connect Economic Sanctions
Uned 2 - FIU Connect Trade-Based Money Laundering
Uned 3 - FIU Environmental Crime

Dulliau Asesu 

Mae'r asesiad project bach ar gyfer Safbwyntiau Sefydliadol Troseddau Ariannol Byd-eang yn cynnwys dwy ran:-

  • Ymchwil sy'n gofyn i'r myfyriwr nodi'r 'sefyllfa gyfredol' ar gyfer Safbwyntiau Sefydliadol Troseddau Ariannol Byd-eang yn eu meysydd gweithredu daearyddol ac o ran cynnyrch, ar gyfer pob un o’r tri thestun yn y modiwl, ac asesu sut mae'r rhain yn cymharu â datblygiadau yn y diwydiant yn fyd-eang (5500 o eiriau ac yn cynnwys 75% o bwysoliad modiwl).
  • Gwerthusiad beirniadol o 'ymarfer gorau ar gyfer lliniaru risg' ar gyfer Safbwyntiau Sefydliadol Troseddau Ariannol Byd-eang fel y nodir yn y deunyddiau astudio a darlleniadau atodol, ar draws y tri thestun yn y modiwl (1500 o eiriau a phwysoliad modiwl o 25%).

Modiwl 30 Credyd

Trosolwg o’r Modiwl

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r cysyniad o wyngalchu arian, a theipoleg cyffredin ymddygiad o’r fath. Mae hyn yn cynnwys ystyried rhwymedigaethau cyfreithiol, asesiad risg rheoleiddio a'r lefelau diwydrwydd ac adrodd sy'n ofynnol i rwystro gwyngalchu arian. Yn y modiwl rhagarweiniol hwn, cyflwynir myfyrwyr i agweddau ar feddwl yn feirniadol fel sail i dasgau diwydrwydd dyladwy a datrys problemau at ddibenion deallusrwydd ariannol. Maent yn datblygu'r gallu i ymchwilio i lenyddiaeth academaidd a phroffesiynol, cyflwyno gwybodaeth mewn modd priodol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd (rheoleiddiol, corfforaethol yn ogystal ag academaidd).

Nodau ac Amcanion y Modiwl

Mae'r modiwl yn rhoi cyflwyniad i'r rhaglen ehangach, ac yn darparu sylfaen addysg i ystyried atal gwyngalchu arian. Mae hyn yn cynnwys cyflwyniad i faterion gwyngalchu arian a rheoleiddio, a'r angen i feddwl yn feirniadol ac adfyfyrio mewn ymchwiliadau ariannol. Mae'r modiwl hefyd yn adolygu'r hanfodion a'r safonau sydd eu hangen i gynhyrchu gwybodaeth mewn modd cryno, yn ysgrifenedig ac ar lafar, i gynhyrchu adroddiadau llawn gwybodaeth ar wybodaeth ariannol i wahanol randdeiliaid sydd â diddordeb mewn craffu ar 'gydymffurfiaeth'.

Testun Allweddol

Gellir gweld y tri llawlyfr cwrs a ddefnyddir ar y modiwl hwn trwy lwyfan ManchesterCF. Mae ManchesterCF yn ddarparwr hyfforddiant arbenigol mewn troseddau ariannol, ac yn diweddaru eu deunyddiau yn barhaus mewn ymateb i newidiadau mewn rheoleiddio. Bydd y deunyddiau'n archwilio'r cysyniadau damcaniaethol ac agweddau ymarferol ar hanfodion atal gwyngalchu arian, meddwl yn feirniadol a chyflwyno gwybodaeth i gyflwyno ystod eang o achosion yn y byd go iawn.

Uned 1 - FIU Connect Critical Thinking
Uned 2 - FIU Connect Fundamental AML
Uned 3 - FIU Connect Report Writing

Bydd uned FIU Connect Financial Investigations hefyd yn cael ei ddarparu fel rhywbeth cyffredinol i’w ddarllen ar draws y rhaglen, a bydd yn cael ei gyflwyno yn ystod y modiwl Cyflwyniad i Droseddau Ariannol a Chydymffurfiaeth.

Dulliau Asesu

Asesir y modiwl yn ôl dwy elfen:

  • Adroddiad yn mynd i’r afael â’r pwnc a osodwyd ar ‘Hanfodion Atal Gwyngalchu Arian’, gan gynnwys adfyfyrio ar y broses ymchwil a pharatoi adroddiadau (4000 o eiriau)
  • Paratoi a recordio cyflwyniad yn ymwneud ag elfen Hanfodion Atal Gwyngalchu Arian yr adroddiad (10 munud o hyd)
     

Modiwl 15 Credyd

 

Modiwl 15 Credyd

Trosolwg o’r Modiwl

Entrepreneuriaid a chwmnïau bychain yw asgwrn cefn economi, ac maent yn gwneud cyfraniad cynyddol i arloesi, creu cyfoeth a chyflogaeth. Bydd y modiwl hwn yn rhoi golwg fanwl ar gysyniadau entrepreneuriaeth a swyddogaeth cwmnïau bychain o fewn yr economi. Bydd yn annog cyfranogwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol o natur a swyddogaeth yr entrepreneur yn yr economi a chymdeithas. Bydd myfyrwyr yn dysgu'r prosesau sydd ynghlwm wrth greu menter newydd a chreu cynlluniau busnes. Byddant yn datblygu gwerthfawrogiad o'r gwahanol fathau o gwmnïau, o ddechrau busnesau, i fusnesau teuluol i fasnachfreintiau a'r setiau sgiliau amrywiol sydd eu hangen arnynt.

Nodau ac Amcanion:

Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn gallu gwneud y canlynol:

  • Deall y termau “entrepreneur” a “perchennog/rheolwr” a'r gwahaniaethau/tebygrwydd rhyngddynt
  • Deall swyddogaeth entrepreneuriaid mewn perthynas â ffurfio a datblygu busnes bach
  • Deall datblygiad a chymhlethdodau mathau eraill o fusnesau megis masnachfreintiau a busnesau teuluol
  • Deall pwrpas cynllun busnes
  • Gallu llunio cynllun busnes o ddyfnder a safon ddigonol a theilwra'r cynllun i wahanol ddiddordebau darllenwyr
  • Gallu tynnu'r wybodaeth berthnasol o gynllun busnes a grëwyd gan eraill

Testun Allweddol:

New Venture Creation: Entrepreneurship for the 21st Century (10th Edition) S Spinelli & R Adams - McGraw Hill

Dull Asesu:

Asesir y modiwl hwn trwy gyfrwng un project bach 3,500 o eiriau 

Dulliau Dysgu

Mae Modiwlau Sengl yn cael eu cyflwyno trwy gyfrwng dysgu o bell ac yn rhan amser, lle gallwch chi astudio ar eich cyflymder eich hun, ni waeth ble rydych chi yn y byd. Darperir cyfuniad o ddosbarthiadau rhyngweithiol a darlithoedd wedi'u recordio trwy gydol y semester 6 mis, gan roi cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith i gyfranogwyr.

Blackboard yw'r amgylchedd dysgu rhithiol (VLE) a ddefnyddir gan Brifysgol Bangor lle mae pob modiwl yn elwa o faes pwrpasol yn y platfform lle cedwir yr holl adnoddau astudio. Mae adnoddau'n cynnwys canllawiau astudio, e-werslyfrau a mynediad i'r llyfrgell ar-lein. 

Ffioedd Modiwlau Sengl

Dechrau yn Hydref 2024

Modiwlau 15 credyd: £2,250
Modiwlau 30 credyd: £3,050 
 
Gallwch dalu fesul modiwl neu bob mis. Cysylltwch â ni am fanylion pellach executiveeducation@bangor.ac.uk

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?