Ydych chi'n cofio pan aeth Paul Davies (Grwp Beca) a chriw o fyfyrwyr y cwrs sylfaen Celfyddydau ym Mangor i Lyn Alaw ar Ynys Môn i gyd-greu map mwdlyd o Gymru? Neu a ydych chi'n cofio 1977 pan greodd Meredydd Davies, Maeyc Hewitt, Wil Jones, Stephen Davies, Celyn Davies ac Alan Holmes ac eraill eu ffilmiau gwaedlyd Super 8 mewn lleoliadau amrywiol o amgylch Bangor? Neu a oeddech chi ar y Stryd Fawr ym mis Mehefin 2021, pan roedd Rhona Bowey, Lindsey Colbourne, Lisa Hudson, Emily Meilleur, Steph Shipley a Wanda Zyborska, i gyd yn crwydro Bangor, wedi gwisgo fel gwrachod, yn dosbarthu cacennau a phlanhigion o bellter cymdeithasol? Neu efallai i chi weld sut – un diwrnod yn ystod cyfnod clo 2020, telpyn o arian pan oedd grŵp o bump o ferched wedi eu gwisgo fel gwrachod yn dosbarthu cacennau a blodau ar Stryd Fawr Bangor, neu a ydych chi'n cofio Suzuki Alto arian yn nadreddu drwy Faesgeirchen, a’r gyrwyr yn lledaenu barddoniaeth drwy’r strydoedd gyda megaffon?
Mae Cymru wedi gweld miliynau o’r eiliadau rhyfedd hyn. Pan fydd rhywbeth nad yw’n hollol normal yn digwydd, mae celf yn dod i’r amlwg ac yn newid lle ac amser, weithiau dim ond am eiliad fer, weithiau am wythnosau, weithiau am byth. Ond yn rhy aml nid yw'r eiliadau hyn wedi'u dogfennu'n dda, maent yn parhau i fod yn hanes llafar neu'n straeon llafar gwlad ... neu'n aml yn mynd i ebargofiant. Ebargofiant ... peth Cymreig yn rhy aml.
Rydyn ni eisiau newid hyn, rydyn ni'n ceisio dod â'r eiliadau hyn yn ôl yn fyw ... mewn sgyrsiau, wrth ailymweld â safleoedd, wrth ailberfformio - ac rydyn ni'n ceisio gwneud i'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol gyd-ddawnsio. Efallai y byddwn yn sylweddoli bod yna draddodiad Cymreig o weithgarwch celf Avant-Garde – efallai yn y dirgel, ond mor berthnasol ag erioed.
Mae Sarah Pogoda yn gwahodd artistiaid, aelodau o’r gymuned ac academyddion i archwilio arferion celfyddydol Avant-Garde yng Nghymru, eu hanes a’n hatgofion ni o’n rhagflaenwyr. Gyda chyfres o ddigwyddiadau – yn amrywio o berfformiadau, trafodaethau, arbrofion artistig a sgyrsiau – hoffai Sarah ddechrau’r archwiliad ar y cyd yn gynnar yr haf hwn. Ymunwch â hi. Mae pob digwyddiad yn rhad ac am ddim, mae rhai yn ddwyieithog, efallai na fydd rhai, mae rhai yn amlieithog, eraill ddim.
Os na allwch ddod i un o'r digwyddiadau, ond bod gennych chi straeon, dogfennau, lluniau, ffilm neu rywbeth arall yr hoffech ei rannu o hyd, cysylltwch â Sarah.
Digwyddiadau yn y gorffennol
Digwyddiad Arbennig: Mappening Cymru – Triptych Perfformiadol
Mappening I - Tomen Gachu – Map o Gymru
Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni i ail edrych ar arferion celfyddydol dau artist Fluxus arloesol: Artist o Gymru, sef Paul Davies (1947-1993) ac artist a’i wreiddiau yng Ngwlad yr Iâ a’r Almaen, sef Dieter Roth (1930-1998). Deilliodd Maps of Wales, gan Paul Davies, a gyd-grëwyd yn aml gyda’i frawd Peter Davies, o gasgliadau o ddeunyddiau amrywiol, yn cynnwys objet trouvé a thywod graenog arfordir Môn (gweler hefyd ein gwahoddiad i fynd am dro o gwmpas Llyn Alaw lle mae Muddy Map of Wales Davies yn disgwyl i gael ei ailddarganfod). Roedd Roth yn rhannu’r diddordeb hwn mewn defnyddiau rhyfedd, ac roedd ei gasgliadau mwyaf enwog a hynod yn cynnwys caws, salami a bara yn pydru gan greu delwedd o fachlud haul rhamantus. Caiff safiad artistig Davies yn gosod Cymru fel cenedl a diddordeb Roth ym metaboliaeth celf ei rannu gan grŵp o artistiaid cyfoes o ogledd Cymru. Maent yn ein gwahodd i fferm Hendre ym Mhentraeth i gyd-greu Map o Gymru 2022 o domen o faw ceffyl organig. Gwisgwch ddillad priodol. Darperir menig. Mae croeso i chi ddod ag offer fel rhawiau, trywelion, sgŵp neu offer arall. Croeso i deuluoedd.
Lle a phryd: Pentraeth, Fferm Hendre (LL75 7DR), 8 Mehefin 2022, 6:30-8pm
Mappening II – Map a Damwain
Mae’r band cerddorol Hap a Damwain yn ein gwahodd am noson o ddad-diriolaethu gyda cherddoriaeth, synau, geiriau a mapiau. Dewch i fwynhau gwrando, dewch i fwynhau gwylio, dewch i fwynhau mapio.
Lle a phryd: Neuadd John Philips, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, 18.6.2022, 7:30-9pm
Mappening III – Dod o Hyd i Gymru
Byddwn yn cloi ein Triptych Mapio Cymru perfformiadol gyda thaith dan arweiniad sy'n dilyn hanes chwedlonol Paul Davies yn creu Map o Gymru ar lannau Llyn Alaw ar Ynys Môn. Bydd yr ymweliad yn cynnwys taith gerdded ddewisol i siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg. Yn anffodus, nid yw'r llwybrau’n addas i gerddwyr nad ydynt yn ffit, gan y bydd rhaid dringo dros goed sydd wedi syrthio. Gwisgwch esgidiau addas (esgidiau cerdded), gan y bydd rhannau o’r tir yn fwdlyd o bosib (yn dibynnu ar y tywydd).
Lle a phryd: Llyn Alaw, Ynys Môn LL65 4TW, 10 Gorffennaf 2022, 3pm.
O Avant Garde i Afon Gad – Arferion artistig yng Nghymru. Ddoe a heddiw. Perfformiad sgwrsio ar gyfer Celf Uniongyrchol*
Mae’n bleser gennym eich gwahodd i sgwrs agored gyda’r artistiaid Lindsey Colbourne, Peter Davies, Marega Palser, Pete Telfer a Wanda Zyborska.
Byddwn yn cael sgwrs am arferion celfyddydol cyfoes yng Nghymru a’u rhagflaenwyr. Byddem wrth ein bodd petaech yn ymuno â’n sgwrs a rhannu eich atgofion o ddigwyddiadau celfyddydol sydd wedi aros yn y cof drwy’r blynyddoedd a degawdau.
Lle a phryd: Bangor, Pontio, PL2, 22.6.2022, 5:30-7pm.
* Ym 1972, penderfynodd yr artist Fluxus o’r Almaen, Joseph Beuys, gyfrannu perfformiad oedd yn para am 100 diwrnod at Documenta 5 (Arddangosfa Gelf y Byd yn Kassel, yr Almaen). Ar gyfer yr hyn a alwyd yn Office for Direct Democracy, treuliodd Beuys 100 diwrnod yn trafod gydag ymwelwyr materion dylunio cymdeithasol amrywiol yn ymwneud â democratiaeth uniongyrchol. Sgwrs fel celf. I ryw raddau, byddwn yn defnyddio ei syniad o gelf fel rhywbeth sy'n dod i'r amlwg trwy sgwrs.
Un o fy atgofion celfyddydol sydd wedi aros yn y cof yw’r hyn a elwir yn “Boxing Match for Direct Art” ym mis Mai 2021 ar Ynys Faelog ym Mhorthaethwy. Brwydrodd Joseph Beuys a Max Boyce dros Gelf Uniongyrchol fel Debyd Uniongyrchol. Trwy wneud hynny bu Beuys a Boyce yn ail-greu'r “Ornest Focsio dros Ddemocratiaeth Uniongyrchol” y bu Joseph Beuys ac Abraham David Christian yn ymladd drosto yn y Documenta 5 ar 8 Hydref 1972. Enillodd Beuys - y ddau dro.
Toriadau - Digwyddiad gwallt
gan NWK-AO
Trwy briodoli a thrawsnewid perfformiad arloesol Yoko Ono, Cut Piece (20.7.1964, Japan), bydd artistiaid o NWK (Celf Newydd Cymru) yn eich galluogi i fynegi eich gofynion gwleidyddol mewn cyfnod o galedi. Gwahoddir chi i wneud penderfyniad am doriadau yn y sector cyhoeddus. Byddwch yn dewis cyllideb ar hap allan o het, a bydd gennych wedyn y dewis o 'dorri llawer', 'torri rhywfaint', 'torri ychydig' neu 'beidio â thorri o gwbl'. Bydd eich penderfyniadau’n cael eu gweithredu ar unwaith gan yr artist gwallt Alan Holmes trwy dorri gwallt gwirfoddolwr o gymuned Bangor.
Lle a phryd: Caernarfon, Sgwâr y Castell, 2 Mehefin, 1-2pm
SMOGG - Cerfluniau menyn
Hoffech chi allu mynegi eich dicter am yr argyfwng tai yng ngogledd Cymru yn greadigol? Mae SMOGG yn eich gwahodd i weithgaredd chwareus, llawn hwyl sy’n cyfuno hanes Meibion Glyndŵr, yr argyfwng ail gartrefi presennol a’r heriau ôl-Brexit yn niwydiant llaeth Cymru.**
Byddwn yn eich helpu i ddefnyddio menyn Cymru i greu siâp un o’r ail gartrefi yn eich tref. Bydd yn weithred ddi–drais, a byddwn yn gosod ein cerfluniau menyn gorffenedig yn y mannau niferus sydd â golygfeydd hyfryd ar hyd arfordir gogledd Cymru er mwyn iddynt fwynhau haul haf hinsawdd newydd Môr y Canoldir gyda’r argyfwng hinsawdd yng Nghymru.
Lle a phryd: Yn y cnawd Cyfarfod ym maes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghemlyn, LL67 0DY, 26 Mehefin 2022, 11:30-1pm. Dewch â phecyn o fenyn i wneud eich cerflun a thywel gyda chi.
Rhagor o wybodaeth i ddod yn fuan am weithgaredd cerflunio menyn o bell.
** “Mae dyfodol cyfraniad y Deyrnas Unedig yn y cynlluniau hyn yn aneglur a bydd yn dibynnu ar ganlyniad trafodaethau Brexit. O gymharu â diwydiannau amaethyddol eraill yng Nghymru, mae disgwyl i’r sector llaeth wynebu llai o heriau. Mae’r farchnad laeth yn llai dibynnol ar gymorthdaliadau a marchnadoedd allforio na’r diwydiant cig eidion a defaid, ac yn fwy dibynnol ar bris llaeth a’r galw lleol. Fodd bynnag, gallai newidiadau i’r status quo arwain at nifer o oblygiadau i sector llaeth y Deyrnas Unedig, sydd ar hyn o bryd wedi ei integreiddio i raddau helaeth â pholisi’r UE. Er enghraifft, mae mewnforion o wledydd eraill sy’n cynhyrchu llaeth fel Seland Newydd wedi eu cyfyngu ar hyn o bryd gan gwotâu'r UE. Os caiff y cwotâu eu dileu a chyfran Seland Newydd o'r farchnad yn cynyddu, gallai hyn roi pwysau ar gynhyrchwyr lleol. Ar hyn o bryd mae’r Deyrnas Unedig yn elwa ar fewnforion ac allforion llaeth heb dariff yn yr UE. Yn ôl Rabobank, pe bai’r Deyrnas Unedig yn gwneud cytundeb masnach heb dariff gyda’r UE yna mae’n debygol y byddai’n ‘busnes fel arfer’ i’r diwydiant. Fodd bynnag, os collir hyn, gallai cynhyrchwyr llaeth y Deyrnas Unedig wynebu tariffau o 35.4% ar allforion i’r UE. Amcangyfrifir y byddai wedi costio tua £1.5-2 biliwn i’r diwydiant pe bai’r tariffau hyn wedi eu gosod yn 2016.” Ymchwil y Senedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru www.cynulliad.cymru Briff Ymchwil: Y sector llaeth. Mehefin 2018, https://research.senedd.wales/media/3rwntzzp/18-043-the-dairy-sector.pdf, t.16.