
“Mi wnaeth fy ngwraig, María Elena Sánchez Salazar, a minnau'r cwrs gradd MSc mewn Ecoleg ym 1985-1986 yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.
Enillodd y ddau ohonom ein graddau BSc mewn Bioleg o Sefydliad Polytechnig Cenedlaethol Mecsico a chawsom ein cyflogi fel darlithwyr cynorthwyol rhan amser yn eu Hysgol Genedlaethol Gwyddorau Biolegol yn Ninas Mecsico. Teimlodd y ddau ohonom, wrth weithio yn y byd academaidd, fod angen inni ddilyn astudiaethau ôl-radd er mwyn gallu traddodi darlithoedd teilwng a chynnal ymchwil wyddonol.
Roedd y posibilrwydd o ddilyn astudiaethau ôl-radd mewn sefydliad ‘byd cyntaf’ sy'n arwain ym maes ecoleg yn gyfle a her hynod ddeniadol. Roedd yr Athro John L. Harper, yr Athro Raymond Seed, yr Athro Roger Hughes a'r Athro Peter Greig-Smith ymhlith yr ymchwilwyr arweiniol a oedd yn datblygu safbwyntiau a dulliau methodolegol newydd i ddeall ffenomenau ecolegol cymhleth, pob un ohonynt ym Mangor.
Yn ffodus ddigon, cafodd y ddau ohonom Grant Cydweithrediad Technegol gan y Cyngor Prydeinig i wneud astudiaethau MSc yn y Deyrnas Unedig. Roedd yr ysgoloriaeth yn talu ein ffioedd ysgol a chostau byw ac, er ei fod prin yn ddigon i dalu’r costau o ddydd i ddydd, roedd yn eithaf cynhwysfawr gan ei fod yn cynnwys cwrs Saesneg pedair wythnos ar y dechrau, yn ogystal â thâl penodol ar gyfer dillad gaeaf, llyfrau, argraffu’r traethawd ymchwil, teithio i fynd ar deithiau astudio gofynnol a oedd yn rhan o’r cwrs, ac ati. Oherwydd hyn, llwyddwyd i rentu bwthyn bach allan yn Gerlan (uwchben Bethesda) yn hytrach nag aros yn neuaddau preswyl y brifysgol. Roedd hyn, fodd bynnag, yn golygu taith gymudo 5 milltir bob dydd a wnaed ychydig yn heriol gan wynt a glaw parhaus Gogledd Cymru a'r eira yn y gaeaf. Serch hynny, fe wnaethon ni fwynhau cael lle i ni ein hunain, lle roedden ni’n gallu canolbwyntio ar ein hastudiaethau. Gwnaeth y ddau ohonom yn dda iawn ar y cwrs MSc ac roedd fy ngwraig hyd yn oed yn gallu cyhoeddi cwpl o bapurau gwyddonol allan o'i thraethawd ymchwil. Clywsom ein bod wedi cael y marciau uchaf yn ein dosbarth.
Er nad oedd gweithredu yn y Saesneg yn y Brifysgol yn peri unrhyw drafferth i ni, roedd yr amgylchedd Cymraeg, yn enwedig i fyny yn Gerlan, yn peri her o bryd i'w gilydd, ond mi weithiodd popeth allan diolch i garedigrwydd ein darlithwyr a'n cymdogion Cymraeg a Saesneg. Gan fod ein holl dreuliau dyddiol, yn y bôn, wedi’u talu gan yr ysgoloriaeth a’n bod yn canolbwyntio’n fawr ar ein hastudiaethau, roeddem yn gallu gwneud arbedion yn ystod y flwyddyn i fynd ar ychydig o deithiau byr i Ewrop yn ystod gwyliau’r gaeaf cyn dychwelyd adref ar ddiwedd y cwrs.
Fe wnaethom ddychwelyd i Fecsico gydag ymdeimlad o hunanhyder a’n bod wedi cyflawni llawer. Er ein brwdfrydedd, fodd bynnag, roedd ein hamodau gwaith yn anodd, y cyflogau’n isel yn y byd academaidd, chwyddiant yn uchel yn y wlad ac adnoddau’n brin ar gyfer ymchwil. Yn fuan wedyn, dechreuodd y ddau ohonom chwilio am gyfleoedd eraill.
Erbyn 1989 roedd María Elena wedi dechrau gyrfa reoli lwyddiannus mewn diwydiant, yn gweithio i Procter and Gamble, cam a hwyluswyd gan lythyrau cymeradwyo cadarn y bu i drefnydd ei chwrs MSc (Yr Athro Malcolm Cherrett) a'i chynghorydd traethawd hir (Yr Athro Raymond Seed) eu hysgrifennu ar ei chyfer.
Er i mi hefyd dderbyn cynnig swydd gan y diwydiant, penderfynais aros yn y Sefydliad Polytechnig Cenedlaethol (IPN), lle gwnes i gynnydd proffesiynol da yn araf bach. Yn y pen draw, cefais fy mhenodi'n gydlynydd y rhaglen MSc Ecoleg, des yn aelod o'r System Genedlaethol o Ymchwilwyr ac, yn ddiweddarach, yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Materion Academaidd Ysgol Genedlaethol Gwyddorau Biolegol yr IPN.
Ganed ein mab ym 1994 a'n merch flwyddyn yn ddiweddarach. Oherwydd cyflwr iechyd o fewn fy nheulu, penderfynodd María Elena roi'r gorau i'w gyrfa reoli addawol iawn mewn diwydiant i ofalu am y plant. Roedd cael dim ond un cyflog yn profi’n anodd weithiau ac arweiniodd hyn, ynghyd â’i chwilfrydedd di-ben-draw, dynameg, ac entrepreneuriaeth, iddi barhau i weithio fel ymgynghorydd llawrydd, rhan amser i’w chyn swyddfa yn P&G ac, wedi hynny, i gwmnïau eraill yn yr un sector diwydiant. Dros y blynyddoedd, canolbwyntiodd ei gwaith ymgynghorol ar gyfieithu dogfennau technegol (Saesneg-Sbaeneg) i’r diwydiant fferyllol ac ar gyfieithu llawysgrifau (Sbaeneg-Saesneg) i’w cyhoeddi mewn cyfnodolion gwyddonol a adolygwyd gan gymheiriaid a ysgrifennwyd gan ymchwilwyr mewn prifysgolion a chanolfannau ymchwil ym Mecsico. Afraid dweud bod y datblygiad hwn yn bosibl oherwydd ei chefndir gwyddonol cadarn a’i meistrolaeth lawn ar y Saesneg, y ddau wedi’u meithrin gan ein hastudiaethau a’n harhosiad ym Mangor.
Erbyn 2000 dechreuais chwilio am gyfleoedd gwaith eraill, gan fod amodau gwaith yr IPN yn parhau i fod yn gyfyngedig iawn. Yn 2002, daeth y cyfle i mi wasanaethu fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwybodaeth Amgylcheddol ac Ystadegau yng Ngweinyddiaeth yr Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol Mecsico. Gwasanaethais yn y swydd hon rhwng 2002 a 2006. Gan fod gwybodaeth amgylcheddol wedi bod yn bwnc pwysig iawn ers amser maith mewn llawer o wledydd, roedd fy ngwaith yng Ngweinyddiaeth yr Amgylchedd hefyd yn cynnwys agenda ryngwladol brysur, yn mynd i gyfarfodydd a chynadleddau mewn gwahanol rannau o'r byd, yn aml yn cynrychioli llywodraeth Mecsico mewn cynadleddau rhyngwladol fel yr OECD ac UNEP. Gallaf ddweud bod hyn oll wedi’i wneud yn bosibl gan fy nghefndir gwyddonol cadarn mewn ecoleg, fy meistrolaeth lawn ar y Saesneg, a’m hunanhyder, a’r cyfan wedi’i feithrin gan ein hastudiaethau a’n harhosiad ym Mangor.
Efallai oherwydd fy ngwaith llwyddiannus yng Ngweinyddiaeth yr Amgylchedd Mecsico, yn 2006 daeth y cyfle i fod yn Gydlynydd Rhanbarthol ar gyfer America Ladin a'r Caribî yn Adran Rhybudd Cynnar ac Asesu Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig. Roedd hon yn swydd uchel ei pharch, gyda chwmpas rhanbarthol, ond hefyd yn heriol iawn oherwydd y nifer fach o aelodau staff, y teithiau mynych, a'r gyllideb gyfyngedig oedd gennym i gefnogi'r 33 o wledydd America Ladin a’r Caribî. Yn anffodus, yn fuan ar ôl i mi ymuno ag UNEP, gwnaed y penderfyniad i adleoli swyddfa ranbarthol America Ladin a’r Caribî o Ddinas Mecsico i Ddinas Panama, ar unwaith. Oherwydd rhesymau teuluol, nid oeddwn yn gallu adleoli a gwnes y penderfyniad anodd i roi'r gorau i'm swydd yn UNEP ar ôl dim ond 11 mis yno.
Rhwng 2009 a 2017 bûm yn gwasanaethu fel Ymgynghorydd Adnoddau Naturiol yng nghenhadaeth Mecsico Asiantaeth yr Unol Daleithiau dros Ddatblygu Rhyngwladol yn Ninas Mecsico. Er mai swydd rheoli rhaglen oedd hon yn bennaf, rhoddodd gyfle gwych i mi gydreoli rhaglen pum mlynedd Newid Hinsawdd USAID ym Mecsico. Roedd y rhaglen werth chweil hon yn cefnogi ymdrechion y llywodraethau ffederal a gwladwriaethol i liniaru newid hinsawdd yn y wlad, yn ogystal â chefnogi gweithgareddau maes gyda'r nod o leihau datgoedwigo a diraddio coedwigoedd (REDD) yn Ne Mecsico. Yn anffodus, daeth y rhaglen i ben yn nechrau 2017 pan ddaeth gweinyddiaeth gyntaf Trump i rym.
Ers canol 2022 rwyf wedi bod yn gweithio gyda chwmni Verra fel Rheolwr arloesedd technegol REDD. Verra, gyda'i Safon Carbon Dilysu, yw'r safon sy'n arwain y byd yn y farchnad garbon wirfoddol. Yn y blynyddoedd hynny rhwng swyddi, gwnes waith ymgynghorol llawrydd ar gyfer amrywiol sefydliadau rhyngwladol gan gynnwys asiantaethau'r Cenhedloedd Unedig (e.e. UNEP, UNDP, Is-adran Ystadegau'r Cenhedloedd Unedig), yr InterAmerican Development Bank, ac eraill. Yn ffodus ddigon, mae busnes cyfieithu María Elena yn fach ond bellach wedi’i sefydlu’n gadarn ac wedi ein helpu yn ystod yn fy nghyfnodau rhwng swyddi a’r amrywioldeb incwm/ansicrwydd y mae gwaith ymgynghorol annibynnol yn ei olygu.
Eleni rydym yn dathlu ein penblwydd priodas yn 40 oed ac mae hefyd yn 40 mlynedd ers i ni deithio i Fangor i gychwyn y cwrs MSc Ecoleg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru. Fel rhan o'n dathliadau pen-blwydd, rydym yn bwriadu mynd yn ôl i Fangor yn yr hydref. Mae’r ddau ohonom yn cadw Coleg Prifysgol Gogledd Cymru a’n harhosiad ym Mangor yn uchel iawn yn ein hatgofion bywyd gan eu bod yn allweddol i’n gyrfaoedd, datblygiad proffesiynol, ac yn ddi-os hefyd i’n bywydau personol a theuluol. Ni allwn ddiolch digon i’r Cyngor Prydeinig am eu cefnogaeth hael a roddodd y fath gyfle i ni a newidiodd ein bywydau mor gynnar yn ein gyrfaoedd a’n bywydau.”