“Roeddwn i'n gwybod mai Bangor oedd y lle i mi ac nid oeddwn yn mynd i unman arall!”
Pan ddechreuais ymchwilio i brifysgolion am y tro cyntaf, roeddwn yn canolbwyntio ar yr hyn roedd arnaf eisiau ei astudio. Roeddwn i eisiau gwneud Hanes Canoloesol a chyn lleied o hanes modern â phosib. Cyfyngodd hyn y prifysgolion oedd ar gael imi i ddwy. Un ohonynt oedd Caergrawnt nad oedd yn ymddangos lawer iawn at fy nant, felly mynnodd fy rhieni fy mod yn ystyried prifysgolion eraill hefyd. Ond ni theimlai'r un ohonyn nhw gymaint fel cartref ag y gwnaeth Bangor. Rwy’n cofio’r daith (ddychrynllyd) ar draws y mynyddoedd o Swydd Amwythig. Roeddwn yn dysgu gyrru a mynnodd fy mam fy mod yn “ymarfer”. Roeddwn i ar binnau bob cam o’r ffordd, ond wedi cyrraedd Bangor o'r diwedd, profais yr ymdeimlad enfawr yma o ryddhad a chyffro. Roeddwn i'n gwybod mai Bangor oedd y lle i mi ac nid oeddwn yn mynd i unman arall!
Y peth nesaf a wyddwn roeddwn yn pacio fy mhethau ac yn newid byd drwy symud i Gymru! (Roeddwn i bob amser yn gwybod fy mod i eisiau astudio mewn gwlad wahanol). Symudais i'r hyn na allaf ond ei ddychmygu yw'r neuaddau preswyl gorau yn y DU. Cefais fy rhoi ym Mryn Dinas; rwy'n credu ei fod wedi newid enw nawr, ond bryd hynny hwn oedd yr adeilad talaf ar safle Ffriddoedd. Roeddwn i ar y llawr uchaf gyda golygfa tuag at y pier o fy ystafell wely a golygfa banoramig o Eryri o'r gegin. Nid wyf erioed wedi byw yn unman mor brydferth. Roeddwn yn anhygoel o ffodus a des yn agos iawn at yr holl bobl ar fy llawr. Buom yn byw gyda’n gilydd gydol ein hamser yn y brifysgol a dim ond 2 flynedd yn ôl y rhoddais y gorau i fyw gyda rhai ohonyn nhw - oherwydd yr hen beth yna a elwir yn briodi. Rydym ni i gyd mor agos o hyd ac ni allaf ond diolch i Brifysgol Bangor am roi cyfle i ni gwrdd!
Ym Mangor y darganfyddais yr hyn roeddwn i eisiau bod (pan fyddaf yn tyfu i fyny). Pan oeddwn i ym Mangor, roedd bywyd gyda’r cymdeithasau yn anhygoel, o bosib oherwydd bod y ddinas mor bell o unrhyw le mawr a bod yna gymaint â thri chlwb nos. Elwais i’r eithaf o'r cymdeithasau, gan ymuno â’r gymdeithas dawns, y gymdeithas ail-greu, y gymdeithas Japaneaidd a chymdeithas ddrama Saesneg Bangor (BEDs). Mae'n debyg mai BEDs oedd fy hoff un o'r cymdeithasau a'r un y glynais wrthi drwy’r cyfnod. Roedd cymryd rhan yn y cynyrchiadau a chynnig amserlen lawn o ddramâu yn fodd o ddysgu’n sydyn iawn ond roedd hefyd yn brofiad anhygoel. Yn yr ail flwyddyn, bûm yn ddigon ffodus i fynd gyda BEDs i lwyfannu drama yng Ngŵyl y Cyrion, Caeredin. Roedd perfformio bob dydd am fis yn lladdfa ond ni allwn fod wedi bod yn hapusach a des i sylweddoli y gallwn wneud gyrfa i mi fy hun yn gwneud yr hyn roeddwn yn gwirioni arno pe bawn i'n gweithio'n galed iawn.
Felly ar ddiwedd y drydedd flwyddyn gadewais Bangor wedi torri fy nghalon wrth adael cymaint o fy ffrindiau ar ôl, ond yn gyffrous am yr hyn oedd i ddod nesaf. Es maes o law i Ysgol Actio East 15 i gael gradd Meistr ac roeddwn i'n ddigon ffodus i adael gydag asiant hefyd! Dyna pryd y dechreuodd y gwaith caled mewn gwirionedd. Dechreuais fy nghwmni theatr fy hun yn Llundain ble’r es i’r afael o ddifrif ag ysgrifennu, cyfarwyddo a chydweithio. Roeddwn hefyd yn ymwneud â phodlediad o'r enw Definitely Human sy'n gwneud dramâu sain sci-fi anhygoel, a dyna ble y dechreuodd fy hoffter o actio llais mewn gwirionedd
Felly dyma fi bron i ddegawd yn ddiweddarach ac o'r diwedd mae pethau'n dechrau dwyn ffrwyth. Rwyf wrthi’n rhyddhau fy nrama sain gyntaf i'r BBC am newid hinsawdd ac nid wyf yn credu y byddwn wedi gallu gwneud hyn heb fy amser ym Mangor. Fe wnaeth byw ym Mangor, yng nghanol Eryri, agor fy llygaid i'r amgylchedd a'n heffaith arno. Roedd bod â ffrindiau ar y cyrsiau cadwraeth a gwyddorau’r eigion yn gymorth i mi ddysgu llawer iawn ac roeddent yn barod iawn eu cymwynas pan oeddwn yn ymchwilio ar gyfer fy mhrosiect diweddaraf. Gelwir y ddrama sain yn 5 Years From Now ac mae'n canolbwyntio ar faterion newid hinsawdd a llygredd plastig. Ei nod yw rhoi cipolwg ar ddyfodol posib y ddynoliaeth os na wneir mwy i arafu ein heffaith ar y blaned. Mae'n dilyn hynt 12 gwyddonydd wrth i ddiwedd y byd nesáu a hwythau’n brwydro i achub y blaned a'r hil ddynol.
Mae gen i hiraeth mawr am fyw ym Mangor a bydd y lle wastad yn ail gartref i mi. Rwyf wedi mynd â chymaint o bobl i ymweld â'n hen gyrchfannau dros y blynyddoedd ac mae gen i ddigon o ffrindiau o hyd a arhosodd yn yr ardal. Ni allaf aros i ddod yn ôl eto; ni allwch gael gwared â mi mor hawdd â hynny!
Os oes arnoch chi awydd darganfod mwy neu eisiau cysylltu, dyma ambell ddolen a manylyn defnyddiol!
5 Years From Now - Drama Radio
https://www.amelieedwards.com/audio
Insta: @amelieeedwards
Twitter @AmelieEdwards