“Dechreuais astudio ym Mhrifysgol Bangor yn 1960 yn yr Ysgol Gwyddorau Peirianneg, dan arweiniad yr Athro Gavin. Ar y pryd, dyma un o ychydig o adrannau o'r fath yn y Deyrnas Unedig. Treuliais ddau gyfnod dros yr haf yn y Royal Signals and Radar Establishment (RSRE) yn Malvern ac yn Ferranti ym Manceinion, ond roeddwn yn talu fy ffordd trwy yrru faniau hufen iâ dros yr haf. Cynrychiolais fyfyrwyr ôl-radd ar Gyngor y Myfyrwyr.
Collais seremoni fy noethuriaeth yn 1967 wrth i mi ysgrifennu fy nhraethawd ymchwil erbyn y Nadolig, ymuno â Texas Instruments, treulio ychydig fisoedd yn Bedford wrth ddisgwyl am fisâu, a phriodi ac ymfudo i Dallas yn Texas ym mis Gorffennaf 1967. Treuliais 2 flynedd yn ymchwilio lled-ddargludyddion (tonfeddi mm) a 2 flynedd arall yn ymchwilio tonnau arwyneb. Yn fy amser hamdden bûm yn addysgu ychydig o ddosbarthiadau nos ac yn barnu Ffeiriau Gwyddoniaeth.
Yn 1971 dychwelais i'r Deyrnas Unedig i ymuno â’r Central Electricity Generating Board (CEGB), yn gyntaf fel pennaeth adran systemau rheoli rhanbarth y gogledd orllewin ym Manceinion. Buom yn datblygu offerynnau newydd, ac fe wnes i gynnwys yr Uned Datblygu Diwydiannol ym Mangor yn y gwaith o ddatblygu un ohonynt. Roeddwn hefyd yn ymwneud â’r broblem enfawr o ollyngiadau yn y boeleri yn Wylfa, a oedd newydd gael ei chomisiynu, a gwella’r arddangosfeydd yn yr ystafell reoli a oedd eisoes wedi dyddio. Symudais wedyn i ddod yn Bennaeth yr Is-adran Reoli yn y Central Engineering Research Laboratories yn Leatherhead, lle buom yn dyfeisio dulliau newydd o reoli cynhyrchiant a’r grid. Un o'r dulliau newydd oedd telenewid radio i reoli llwyth domestig, rhai degawdau cyn i fesuryddion clyfar ddod yn boblogaidd. Roeddwn hefyd yn aelod o banel recriwtio Ymchwil a Datblygu ledled y Deyrnas Unedig.
Yn 1979 ymunais â Software Sciences Ltd gan ddod yn Gyfarwyddwr Projectau’n gyfrifol am is-gontract telathrebu System X, yna symudais i BOC Automation, gan awtomeiddio ffatri selsig yn yr Iseldiroedd, ac yna dirwyn y cwmni i ben.
Ymunais â Hugh Pushman Associates, cwmni cyfathrebu uwch-dechnoleg, gan ddod yn Rheolwr-Gyfarwyddwr. Roedd gennym gynnyrch Telex awtomatig ac yn ei ddatblygu ar gyfer Pencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y Deyrnas Unedig (GCHQ).
Yn 1985 ymunais ag NEI Control Systems yn Newcastle, gan ddod yn Rheolwr-Gyfarwyddwr. Buom yn ymwneud yn helaeth â rheoli Gorsafoedd Pŵer Niwclear, gan ddarparu cyfarpar gorsaf a chyfarpar ystafell reoli i Heysham a Torness, a gwerth tua £60M o offer rheoli peiriannau i Sizewell B. Yna cefais fy mhenodi’n Rheolwr-Gyfarwyddwr Reyrolle hefyd. Ein harbenigedd oedd is-orsafoedd offer switsio mawr 400kV wedi'u hinswleiddio â nwy, yn enwedig yn y Dwyrain Canol. Yn dilyn caffael NEI gan Rolls-Royce yn 1996, fe’m penodwyd yn Rheolwr-Gyfarwyddwr byd-eang Rolls-Royce Transmission & Distribution Ltd, gyda chyfrifoldeb uniongyrchol neu swyddogaethol am tua 20 o ffatrïoedd ledled y byd. Yn 1998 trefnais werthu'r cwmni hwn i VA TECH o Awstria ac, ar ôl goruchwylio'r gwaith o integreiddio'r ddau gwmni, penderfynais ymddeol o gyflogaeth llawn amser.
Ysgrifennais nifer o gyhoeddiadau ym meysydd rheoli ac offeryniaeth reolaeth/gyfrifiadurol, gan gynnwys llyfr Sefydliad y Peirianwyr Trydanol (IEE) “Micros for Managers”, ac yn fwy diweddar, project ymddeol sef llyfr o’r enw “Ceramics Art or Science?”, sydd ar gael am ddim ar y we.
Rwyf wedi bod yn weithgar iawn yn y gymuned, gan ddechrau fel Swyddog Cyswllt Ysgolion i’r IEE dros ranbarth y de, gan ddod yn brif siaradwr ac awdur ar gyfer menter micro-ymwybyddiaeth y DTI, a chreu un o'r Cynlluniau Cwmni Gogleddol mwyaf ar gyfer Gwobr Dug Caeredin. Roeddwn yn gadeirydd sefydlol y South Tyneside Enterprise Partnership, yn gadeirydd Tyneside Training and Enterprise Council, Northern SATRO, Ymddiriedolaeth John Marlay ac yn eistedd ar bwyllgor trefnu Ffair Wyddoniaeth a Thechnoleg. Roeddwn hefyd yn Gyfarwyddwr Pwyllgor Gweithredol y Newcastle West End City Challenge, yn Is-gadeirydd Tyneside Careers ac yn aelod o fwrdd y Northern Regional Assembly. Roeddwn yn llywodraethwr Ysgol Ganol Swydd Ponteland a Choleg Newcastle, ac yn ddiweddarach yn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Uwchradd Quarrendon. Roeddwn yn Ymddiriedolwr ac yn Drysorydd Mygedol yr IEE (sef y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) erbyn hyn), yn Ymddiriedolwr Cronfa Les yr IET ac yn Ymddiriedolwr o’r BNES. Roeddwn hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Archwilio'r Sefydliad Niwclear a'i gwmni masnachu, ac yn Gadeirydd Ymgyrch Swydd Buckingham i ddiogelu Lloegr Gwledig. Rwy'n parhau i fod yn gadeirydd y Gymdeithas Gwarchod Cymdogaeth yn Wycombe, Cyngor Plwyf Hughenden, ac yn aelod o Grŵp Ymgynghorol Cymdeithas Genedlaethol Annibynnol yr Heddlu a Grŵp Cynghori ar Weithredu Wycombe.
Cyflwynwyd fy OBE am wasanaethau i’r gymuned ym meysydd hyfforddiant ac addysg.”