Mohamed Ashoor
Astudiaethau Busnes a Chyllid, 2011
Mae Prifysgol Bangor yn falch o gael partneriaeth gadarn gyda'r Bahrain Institute of Banking and Finance (BIBF). Dechreuodd y bartneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a BIBF yn 2004 gyda'r garfan gyntaf o fyfyrwyr yn graddio yn 2007. Ers hynny mae dros 500 o fyfyrwyr wedi graddio o'r rhaglen hon sy'n galluogi myfyrwyr i astudio'r flwyddyn sylfaen a dwy flynedd gyntaf eu gradd yn Bahrain a chwblhau'r flwyddyn olaf i ennill eu gradd ym Mangor.
Yn 2016 cafodd Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor / BIBF ei lansio. Mae'r anrhydedd hwn yn cydnabod myfyriwr graddedig o'r rhaglen Bangor/BIBF sydd wedi cyflawni rhagoriaeth broffesiynol, ac ar yr un pryd wedi cael amser i wneud gweithgareddau gwirfoddoli a rhoi rhywbeth yn ôl i'w cymuned.
Yn ystod y pedwerydd aduniad blynyddol ar gyfer Alumni Prifysgol Bangor, a gynhaliwyd yn Bahrain ddydd Llun, 11 Medi 2017, enwyd Mohamed Ashoor fel Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor / BIBF 2017.
C-D: Yr Athro John G. Hughes, Is-ganghellor, Mohamed Ashoor a’r Athro Andrew Edwards.
Cafodd Mohamed ei eni a'i fagu yn Bahrain ac enillodd Ddiploma mewn Bancio a Chyllid ac Uwch Ddiploma mewn Cyllid Islamaidd yn 2010 gan BIBF. Daeth i Brifysgol Bangor i gwblhau ei radd BA (Anrh.) mewn Astudiaethau Busnes a Chyllid yn 2010.
Wedi dychwelyd i Bahrain, symudodd Mohamed o gefndir addysgol mewn bancio a chyllid i faes cysylltiadau cyhoeddus ac yna i faes marchnata digidol. Mae bellach yn weithiwr proffesiynol ym maes marchnata digidol, sydd â chymhwyster Google, a phrofiad o helpu amrywiol gwmnïau i gyfathrebu a chyrraedd eu cynulleidfaoedd targed. Un o'i gysylltiadau gwaith amlycaf yw Clwb Pêl-droed Lerpwl. Mae Mohamed wedi bod yn gweithio gyda'r clwb ers 5 mlynedd yn gweithio ar eu gwefan a'u cyfryngau cymdeithasol Arabeg.
Mae'n rheoli cymuned o 4.5 miliwn o gefnogwyr Arabaidd a holl waith cyfathrebu'r clwb a'u cefnogwyr yn yr iaith Arabeg.
Cyflwynwyd y wobr i Mohamed gan yr Athro Andrew Edwards, Deon y Coleg Busnes, Y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor.
Roedd mwy na 70 o alumni yn y digwyddiad a gynhaliwyd gan Lywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes.
Roedd Llysgennad Prydain i Deyrnas Bahrain, Mr Simon Martin yn bresennol yn y digwyddiad am yr ail flwyddyn o'r bron, felly hefyd Ei Ardderchowgrwydd Rasheed Mohammed Al Maraj, Llywodraethwr Banc Canolog Bahrain a Phrif Weithredwr y Bahrain Institute of Banking and Finance (BIBF).