Roedd yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol yn falch iawn o groesawu nifer o gyn-fyfyrwyr coedwigaeth, cyn-aelodau staff, staff presennol a myfyrwyr presennol i ddigwyddiad yn y Brifysgol i ddathlu’r achlysur pwysig hwn, i gyd-fynd â dathliadau 140 Prifysgol Bangor.
Roedd graddedigion o bob un o’r saith degawd diwethaf yn bresennol, yn amrywio o 1968 i 2023. Croesawyd y gwesteion yn gynnes i adeilad Thoday – ‘cartref’ coedwigaeth ers 1954, ac roedd y rhaglen yn cynnwys cyflwyniadau gan
- Shireen Chambers MBE FICFor (Cymrawd Er Anrhydedd 2015; BSc Coedwigaeth a Gwyddor Pridd, 1985)
- Geraint Richards MVO FICFor (BSc Coedwigaeth 1992).
- Morag Mcdonald, Dirprwy Is-ganghellor Gwyddoniaeth a Pheirianneg / Pennaeth y Coleg / Athro Ecoleg a Rheolaeth Dalgylch
- John Healey, Athro Gwyddorau Coedwig
Cafodd y gwesteion hefyd fewnwelediad i astudiaethau ein myfyrwyr presennol a graddedigion diweddar, trwy drafodaeth bord gron a gynhaliwyd gan Michael Cresswell, FICFor, ac a oedd yn cynnwys Lamorna Richards (BSc Coedwigaeth 2022); Tonthoza Uganja (MSc Coedwigaeth Drofannol 2019) a myfyriwr PhD presennol; Jamie Pengilley, sef Llywydd Cymdeithas Myfyrwyr Coedwigaeth Bangor (2024-25).
Cawsant hefyd fwynhau arddangosfa o ddeunyddiau archif prin, araith gan yr Is-ganghellor a ddilynwyd gan bryd o fwyd gyda’r nos yn neuadd Reichel, ac ymweliad â Gerddi Botaneg ysblennydd Treborth dan ofal y Curadur, Natalie Chivers.
Cymerodd cyfanswm o 53 o westeion ran yn y digwyddiad dros ddeuddydd. Cawsom lawer o negeseuon hyfryd ar ôl yr aduniad, gan gynnwys:
"It was a lovely atmosphere and the sights and sounds were so evocative and brought back many happy memories."
"I enjoyed the visit to Treborth enormously, it was so good to catch up with so many forestry friends!"
"What a hugely successful event you put on for. Everything worked out well and even the sun shone!! I particularly appreciated the student input and also the compliments the Vice Chancellor paid to forestry (and natural resources) on the terrace at Reichel. I’m sure we will have all left Bangor feeling that forestry is not only in good heart but in safe hands."