Cynlluniwyd gan y cyn-fyfyriwr Kailesh Karavadra a dan arweiniad Dr Andy Goodman, uwch ddarlithydd mewn dylunio, mae project gwobr Hyfforddiant Arloesedd ac Arweinyddiaeth Prifysgol Bangor (BUILT) yn gyfle i fyfyrwyr ffurfio timau rhyngddisgyblaethol sydd wedi cael y dasg i greu atebion i her system fwyd.
Bwriad y profiad ymarferol hwn yw ysbrydoli ac addysgu myfyrwyr ar hyd y llwybr entrepreneuraidd a chael profiad o fynd â syniad trwy feddylfryd dylunio i brototeipio posibl ar gyfer defnydd y farchnad. Yn ganolog i'r profiad hwn, bu mentoriaid sy’n gyn-fyfyrwyr yn rhannu mewnwelediadau a chefnogaeth hanfodol i helpu'r timau feithrin y syniadau sydd ganddynt a thrafod entrepreneuriaeth yn ei holl agweddau.
Daeth y rhaglen i ben ar 2 Mai gyda digwyddiad lle cyflwynodd y timau’n rhoi cyflwyniadau eu syniadau i banel o feirniaid annibynnol. Enillodd y tîm buddugol, Team Tatws, Gwobr Arloesedd Mabel Evans o £10,000 a roddwyd gan y cyn-fyfyriwr Jonathan Wright (1999, Polisi Cymdeithasol/Troseddeg) er cof ei hen-nain. Rhannodd y ddau ail dîm gwobr o £5,000, diolch i roddion cyn-fyfyrwyr i Gronfa Bangor.
Mae Prifysgol Bangor hefyd yn ddiolchgar i Succession Wealth am noddi'r noson.
Digwyddiad Terfynol Gwobr Hyfforddiant Arloesedd ac Arweinyddiaeth Prifysgol Bangor (BUILT) 2024



















































