Fy ngwlad:

Dr John Clive Tindal Perkins (1947 – 2023)

Bu farw John yn heddychlon ar yr 21ain o Hydref yng Nghartref Nyrsio Fairways, Llanfairpwllgwyngyll, lle'r oedd wedi cael ei dderbyn yn dilyn codwm ym mis Mehefin a thorri ei glun - roedd wedi cael diagnosis o glefyd Parkinson cyn hyn ynghyd â dementia corff Lewy. Cynhaliwyd ei angladd yn Eglwys y Santes Fair, Porthaethwy, lle bu'n aelod hir sefydlog, ar yr 8fed o Dachwedd. Derbyniwyd a rhannwyd rhoddion er cof John rhwng Dementia UK a Chyfeillion Ynys yr Eglwys.

Ganwyd John ar 9 Mai 1947 yn Poole, Dorset, lle cafodd blentyndod hapus iawn a chael ei fagu mewn teulu cariadus gyda'i frawd, Mark. Mwynhaodd ei saith mlynedd yn Queen Elizabeth’s Grammar School yn Wimborne Minster er, yn ôl ei gyfaddefiad ei hun, nid oedd yn gweithio’n galed iawn, dim ond gwneud cymaint ag oedd yn rhaid iddo yn academaidd. Ond roedd wrth ei fodd gyda’r bywyd cymdeithasol yn yr ysgol, a bu’n aelod o’r Sgowtiaid.

Ar ôl hynny, bu’n fyfyriwr yn yr Harper Adams Agricultural College am ddwy flynedd, gan ei baratoi’n dda at ei astudiaethau yn yr Adran Amaethyddiaeth ym Mangor lle gwblhaodd ei graddau israddedig ac ôl-raddedig yn Amaethyddiaeth ac Economeg. Fel yn ei ddyddiau ysgol, gwnaeth lawer mwy nag astudio tra ym Mangor - ymunodd â Chymdeithas Gilbert a Sullivan a daeth yn Drysorydd iddi - yno y cyfarfu â’i gariad oes, Lis, a oedd yn Soprano gwych. Ymddiddorodd hefyd yng ngweithgareddau Undeb y Myfyrwyr ac fe’i hetholwyd i swydd sabothol llawn bri Rheolwr yr Undeb – swydd yr oedd yn addas iawn ar ei chyfer, gan fod John yn graff ac yn ofalus (er y cyfaddefir bod gorwariant ar far yr Undeb y flwyddyn honno!).

Ar ôl gadael y Brifysgol, cafodd yrfa addysgu fer mewn Ysgol Uwchradd yn Yr Hob, ger Wrecsam, lle bu’n dysgu Astudiaethau’r Amgylchedd a sefydlodd fferm ysgol a oedd yn cynnwys gafr gariadus iawn.  Dihangodd o'r berthynas beryglus honno a dychwelodd i'w alma mater lle bu'n gweithio i'r Gofrestrfa Academaidd fel Cofrestrydd Cynorthwyol hyd ei ymddeoliad.  Fel y dangosir gan y nifer o gyn-gydweithwyr a oedd yn bresennol yn yr angladd, roedd yn gydweithiwr hynod boblogaidd, ffyddlon a chydwybodol ac yn chwaraewr tîm brwdfrydig a fwynhaodd ei waith yn aruthrol. Roedd ei gyfrifoldebau’n cynnwys cysylltu â myfyrwyr tramor, a’u cefnogi, ac roedd ei ddiddordeb a’i ymrwymiad i gydweithredu rhyngwladol yn ddiffuant iawn, yn egwyddorol ac yn sensitif yn ddiwylliannol. Roedd yn mwynhau teithio, yn gallu teithio heb fynd â llawer gydag o, ac roedd ganddo'r dewrder i wneud hynny ar ei ben ei hun - weithiau i lefydd peryglus ac anghysbell. Yn wir, aeth ei deithiau ag ef i lawer o wledydd, gan gynnwys, Uganda, Sierra Leone, India, Awstralia, Palestina, Ynysoedd Philippines, a Phacistan.  Roedd y rhan fwyaf o’r ymweliadau ar ran y Brifysgol tra bod eraill yn rhai a oedd yn eu gwneud ei hun yn rhinwedd ei swydd fel Ymgynghorydd ac Aelod Aseswr Cynllun ar gyfer Gymorth Cristnogol a Masnach Deg, swydd yr oedd yn gwbl addas ar ei chyfer o ystyried ei gefndir amaeth/economeg a’i rinweddau trugarog arbennig. Yn ystod ei gyfnod ym Mhacistan, ffurfiodd berthynas bwysig ag offeiriad lleol a bu iddynt sefydlu elusen i helpu merched gael addysg. Dywedodd wrth y North Wales News bod rhaid iddo deithio mewn 4x4 gyda’r ffenestri wedi eu duo a gard arfog yn ardal arw a pheryglus Baluchistan. Meddai “Cefais gyfarfod ag un pen-rhyfelwr, a oedd yn arbennig o anodd. Roedd yn amheus iawn ohonof, ond ar ôl ychydig, cyrhaeddodd wrn o de Affgan, ac roeddwn i'n gwybod fy mod wedi cael fy nerbyn." Llwyddodd i sefydlu dwy ysgol yn benodol i ferched ac enwyd y rhain ar ôl unig ferch John, Emma, a bu a fu farw o ganser yn 33 oed.

Roedd John yr un mor weithgar gydag ymrwymiadau ac ymroddiad lleol ag yr oedd gyda gwirfoddoli ar lefel ryngwladol. Bu'n ymwneud llawer â’r Eglwys yng Nghymru, yn lleol ac yn genedlaethol, gan wasanaethu ar y Synod Cenedlaethol. Yn ogystal, daeth yn ddarllenydd lleyg a meistrolodd y Gymraeg yn ddigonol i gynnal gwasanaethau dwyieithog. Roedd hefyd yn Gynghorydd Cymuned brwdfrydig ac ymroddedig ac yn Rotariad gweithgar. Daeth yn Gadeirydd Pwyllgor Goruchwylio Clwb Rotari Bangor a oedd yn darparu arian ac adnoddau i gefnogi achosion teilwng. Roedd ei gyngor a'i sylw gofalus i fanylion yn amhrisiadwy. 

Fel y nodwyd uchod, fodd bynnag, bu'n rhaid i John hefyd ymdopi â rhai digwyddiadau bywyd trasig, dirdynnol a heriol iawn.  Dilynwyd marwolaeth gynamserol Emma yn ddiweddarach gan farwolaeth gwbl annisgwyl ac annhymig Lis yn 2022 yn 69 oed, ar ôl salwch byr oherwydd tiwmor ar yr ymennydd. Diau i'r ergydion sylweddol hyn arafu John ychydig, ond er clod mawr iddo daliodd ati gan wybod fod ganddo bethau i'w gwneud ac eraill i ofalu amdanynt. Roedd gan John a Lis ddau o wyrion, sef Elliot ac Olivia, ac fel y dywedodd Elliot i’r dim ar ddiwedd ei deyrnged yn y gwasanaeth, “Bu i John barhau i fod â natur siriol a synnwyr digrifwch ysmala hyd y diwedd. Yn ffodus, mae gan John hefyd or-ŵyr annwyl iawn o'r enw Niall, yr oedd yn ymfalchïo mewn dysgu popeth yr oedd yn ei wybod ac yn ei garu am drenau iddo, ac mi roedd hynny’n helaeth!!”

Aled, Chris, Gareth a Mark