Mae gan Brifysgol Bangor bron i 80,000 o gyn-fyfyrwyr sy'n byw ledled y byd, yn gweithio ym mhob maes a diwydiant y gallwch ddychmygu. Mae’r Brifysgol yn falch o lwyddiannau ein cyn-fyfyrwyr ac, i dynnu sylw at hyn, bob blwyddyn mae Bwrdd Ymgynghorol Cyn-fyfyrwyr y Brifysgol yn dewis Alumnus y Flwyddyn, gan anrhydeddu myfyriwr sydd wedi graddio ym Mangor ac sydd wedi rhagori yn ei faes, ac wedi parhau i ymwneud â'u alma mater. Ymhlith y rhai a dderbyniodd Alumnus y Flwyddyn gynt mae Gwilym Rees-Jones (Mathemateg, 1963), Dr Ross Piper (Sŵoleg, 1998) a Ray Footman (Hanes ac Athroniaeth, 1961).
Mae'n bleser gan Brifysgol Bangor enwi Frankie Hobro (Gwarchod Amgylchedd y Môr, 2002) fel Alumnus y Flwyddyn 2019.
Yn dilyn BSc ym Mhrifysgol Caerhirfryn (Lancaster) a gwaith i'r Mauritian Wildlife Foundation, daeth Frankie i Fangor i astudio am ei MSc mewn Gwrachod Amgylchedd y Môr gyda'r Ysgol Gwyddorau Eigion. Aeth ymlaen i weithio ar gadwraeth ynysoedd a phrojectau môr dramor cyn ymgartrefu ym Môn 12 mlynedd yn ôl pan brynodd Sŵ Môr Môn.
Mae Sŵ Môr Môn a'r Ganolfan Adnoddau Môr ym Mrynsiencyn yn gyfleuster addysg ac ymchwil a reolir yn amgylcheddol, yn ogystal â bod yn atyniad poblogaidd i dwristiaid. Mae'r Sŵ Môr yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, addysg, cadwraeth môr a magu creaduriaid mewn caethiwed ac yna eu rhyddhau. Gwneir hyn yn achos rhywogaethau brodorol sydd dan fygythiad, megis ceffylau môr a chimychiaid.
O dan arweinyddiaeth Frankie, mae'r Sŵ Môr yn cydweithio â grwpiau cymunedol ar gyfer gweithgareddau amgylcheddol gan gynnwys glanhau traethau a phecynnau addysgol rhyngweithiol. Mae Frankie wedi sefydlu rhaglen addysg ac estyn allan ddwyieithog lwyddiannus yn y Sŵ Môr, yn ogystal â chanolfan achub anifeiliaid môr a gynhelir gan wirfoddolwyr. Mae'r ganolfan hon yn achub ac ailsefydlu pob math o anifeiliaid môr sydd wedi cael eu hanafu neu grwydro o'u cynefin, yn cynnwys mamaliaid, adar môr a chrwbanod môr.
Mae Frankie yn aelod gweithgar o'r Gymdeithas Addysg Gwyddoniaeth a'r cynllun STEM, gan hyrwyddo gwyddoniaeth ryngweithiol a menywod mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae hi hefyd yn ymddiriedolwr ac yn Llysgennad Moroedd Byw dros Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ac yn aelod o'r Gymdeithas Cadwraeth Fôr a Soroptimists International, a llawer o elusennau lleol.
Mae cysylltiadau Frankie â Phrifysgol Bangor a'r Ysgol Gwyddorau Eigion wedi parhau'n gryf, ac mae'n un o'r cyn-fyfyrwyr sy'n ymwneud fwyaf â'r Ysgol. Yn ddiweddar, noddodd leoliad haf i fyfyriwr yn y Sŵ Môr, ac mae'n cyflogi graddedigion Bangor yn rheolaidd a rhoi sgyrsiau ar draws gwahanol gyfadrannau'r Brifysgol, yn cynnwys yr Ysgol Busnes a'r Ysgol Gwyddorau Eigion.
Cyflwynwyd ei gwobr i Frankie yn ystod seremoni raddio ar 15 Gorffennaf, gyda dyfyniad gan yr Athro David Thomas, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Eigion.
Ar ôl derbyn ei gwobr, dywedodd Frankie: “Rwy'n falch iawn o gael fy enwi'n Alumnus y Flwyddyn! Mae fy amser yn y Brifysgol wedi fy ngalluogi i greu fy swydd ddelfrydol mewn lle rwy'n ei garu, ac mae'n wych gallu parhau i gefnogi'r Brifysgol a'r gymuned leol trwy fy ngwaith yn Sŵ Môr Môn.”