Mae penwythnos yr Hen Sêr (Hen Fechgyn / Hen Ferched) yn ddigwyddiad blynyddol pan mae cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, a oedd yn arfer cymryd rhan mewn chwaraeon pan oeddynt yn fyfyrwyr, yn dychwelyd i Fangor i gyfarfod â’i gilydd ac i chwarae gemau yn erbyn timau o fyfyrwyr presennol. Mae'n draddodiad ers degawdau, ac eleni, cafodd yr achlysur ei dathlu gyda barbeciw a diodydd ar ddec BarUno ar safle Ffriddoedd. Cyfarfu alumni â thimau’r myfyrwyr ar ôl y gemau i gefnogi Chwaraeon ym Mangor a dechrau dathliadau’r noson.



