Ray Footman yw Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor 2017.
Mae gwobr Alumnus y Flwyddyn yn cydnabod llwyddiannau ein graddedigion, yn broffesiynol ac yn bersonol, ac yn tynnu sylw arbennig at y rhai sydd wedi dewis parhau i ymwneud â'u hen brifysgol a rhoi'n ôl i'r brifysgol, naill ai trwy wasanaeth, dyngarwch, neu'r ddau. Graddiodd Ray ym Mangor ym 1961 gyda gradd mewn Hanes ac Athroniaeth. Ar ôl graddio, gwasanaethodd fel Llywydd Undeb Myfyrwyr Bangor, 1961-62. Ymunodd â Phrifysgol Caeredin ym 1969 fel Pennaeth Gwybodaeth i Bwyllgor yr Is-gangellorion a'r Prifathrawon. Ym 1976, cafodd ei recriwtio o Bwyllgor yr Is-ganghellorion a'r Prifathrawon yn Llundain i redeg swyddfa wybodaeth newydd y brifysgol.
Yn ei swydd, roedd yn rhan allweddol o'r gwaith o osod sylfaen i faes datblygu a chysylltiadau alumni a oedd yn newydd ym Mhrydain yn y 1970au. Ym 1982, wrth baratoi at 400 mlwyddiant Caeredin, aeth Ray ar ymweliad chwe wythnos i brifysgolion yn yr Unol Daleithiau a Chanada i weld sut oeddent yn ymdrin â chysylltiadau cyhoeddus, cyn-fyfyrwyr cynghorau a chodi arian yno. Arweiniodd y gwaith llwyddiannus o drefnu dathliadau'r 400 mlwyddiant at ehangu swyddfa wybodaeth Caeredin ac ychwanegu Swyddog Alumni, un o'r penodiadau llawn-amser cyntaf yn y wlad. Cododd apêl am arian, a oedd yn gysylltiedig â'r 400 mlwyddiant, £440,000 a arweiniodd at sefydlu un o'r swyddfeydd codi arian modern cyntaf mewn prifysgol yn y DU.
Ym 1989, roedd y Council for Advancement and Support of Education (CASE) – cymdeithas broffesiynol ryngwladol i weithwyr proffesiynol ym meysydd cyn-fyfyrwyr, codi arian a marchnata - eisiau ehangu ar ei waith yn rhyngwladol, ac roedd Ray yn rhan o'r grŵp bach o weithwyr proffesiynol yn y DU a wahoddwyd i gymryd rhan. Oherwydd ei brofiad, roedd yn gallu dehongli'r sefyllfa yng Ngogledd America i'r sector addysg uwch ehangach yn y DU.
Roedd Ray yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caeredin – a oedd yn cynnwys rheoli gweithgareddau codi arian – tan ei ymddeoliad yn 2002. Gwasanaethodd fel Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr CASE (Ewrop) a derbyniodd Wobr Frank Ashmore CASE am wasanaethau i hyrwyddo addysg yn 2001. Ef yw awdur "Edinburgh University: An Illustrated Memoir" a gyhoeddwyd ym 1983.
Er iddo raddio ym Mangor 56 mlynedd yn ôl, mae Ray wedi parhau i ymwneud â'r brifysgol. Mae ei brofiad ym maes datblygu a chysylltiadau alumni wedi bod yn amhrisiadwy i'r brifysgol wrth iddi ddatblygu ei rhaglen codi arian ac ymwneud â chyn-fyfyrwyr. Mae Ray yn gyn-aelod a chyn-gadeirydd y Bwrdd Ymgynghorol Alumni, grwp ymgynghorol anllywodraethol sy'n cynnwys cyn-fyfyrwyr y brifysgol, a bu'n rhan allweddol o'r broses o ddatblygu'r grŵp. Mae aelodau'r Bwrdd Ymgynghorol Alumni yn hyrwyddo ac yn cyfathrebu cenhadaeth a gweledigaeth Bangor, gan weithio i symud rhaglen gysylltiadau alumni'r brifysgol yn ei blaen ac mae Ray yn sicr wedi cyflawni'r nodau hynny yn ystod ei amser fel aelod o'r bwrdd.
Mae ef a'i wraig Els yn rhoddwyr hael i'r brifysgol ac mae wedi rhoi o'i amser a'i wybodaeth i drefnu a chefnogi nifer o aduniadau a digwyddiadau i gyn-fyfyrwyr yma ym Mangor a thu hwnt.