Llongyfarchiadau i Yingying Liu sydd wedi cael ei henwi fel Alumnus y Flwyddyn Tsieina Prifysgol Bangor 2019.
Mae gwobr Alumnus y Flwyddyn Tsieina yn cydnabod cyflawniadau, proffesiynol a phersonol, un o'n cyn-fyfyrwyr Tsieineaidd sydd wedi mynd ymlaen i ragori yn y maes o'u dewis. Dyma'r pedwerydd gwaith y cyflwynir gwobr Cyn-fyfyriwr y Flwyddyn yn Tsieina . Y rhai sydd wedi derbyn yr anrhydedd yn y gorffennol yw'r Athro Yanjing Wu (Seicoleg, 2008), Michelle Han (MBA, 2004) a Juan Chen (Bancio a Chyllid, 2003).
Mae Yingying yn Gyfarwyddwr Cysylltiadau Buddsoddwyr yn Sunlands Online Education Group, arweinydd Tsieina mewn addysg ôl-uwchradd a phroffesiynol ar-lein. Daeth Yingying i Fangor yn 2012 i astudio Ieithyddiaeth ac Astudiaethau Saesneg, gan raddio gyda gradd dosbarth cyntaf yn 2014. Ochr yn ochr â’i gradd, cafodd Yingying amser hefyd i astudio cymhwyster Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor.
Ar ôl graddio o Fangor, mynychodd Yingying Brifysgol Surrey lle derbyniodd MA mewn Dehongli Busnes mewn Tsieinëeg a Saesneg. Dechreuodd ei gyrfa fel cyfieithydd ar y pryd yn y Deyrnas Unedig, yn y sectorau preifat a gwasanaethau cyhoeddus, gan gyfieithu ar gyfer amrywiaeth o gleientiaid fel teulu brenhinol Prydain, CBBC, Davos Swistir, Trysorlys Ei Mawrhydi, a'r Academi Wyddoniaeth Tsieineaidd. Gweithiodd hefyd fel cyfieithydd ar y pryd gyda KL Communications lle'r oedd hi'n un o'r cyfieithwyr ar gyfer ymweliad gwladol yr Arlywydd Xi Jinping, ac roedd yn gyfrifol am nifer o aelodau o'r teulu brenhinol a Gweinidog Materion Tramor Tsieina.
Caniataodd ei sgiliau cyfieithu a'i chryfderau cyfathrebu iddi weithio ar draws diwydiannau, a arweiniodd at ei gyrfa ym maes rheoli cysylltiadau buddsoddwyr. Dechreuodd Yingying ei swydd gyda Sunlands Online Education Group yn 2017 lle mae'n ymwneud â holl broses IPO yr Unol Daleithiau, gan helpu i reoli drafftio prosbectws, prisio a modelu ariannol, trefnu a chymryd rhan mewn sioeau teithiol a rhestru gweithgareddau dydd a chyfweliadau â'r cyfryngau.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Yingying: “Rydw i mor hapus i gael yr anrhydedd hon. Fe gafodd Bangor effaith fawr arnaf, yn bersonol ac yn broffesiynol. Ehangodd y cyfle i astudio dramor fy ngorwelion, gan roi profiad o arddull addysg wahanol i mi a chael llawer o brofiadau amrywiol. Rwy'n falch o fod yn gyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor!”