Roedd Andrew Radford yn dipyn o gymeriad mewn llawer o ffyrdd, o'i archwaeth anniwall am waith a'i frwdfrydedd heintus i'w ddewis beiddgar o ddillad.
Mae Andrew, a fu farw ym mis Rhagfyr, yn fwyaf adnabyddus am ei werslyfrau ar theori gystrawennol a chystrawen y Saesneg. Cyhoeddodd ddeg ohonynt rhwng 1981 a 2023, pob un yn rhoi cyflwyniad cyfoes i fodel Chomsky o gystrawen gynhyrchiol. Cyfieithwyd rhai ohonynt i ieithoedd eraill gan gynnwys Japaneeg, Corëeg, Maleieg, Eidaleg a Sbaeneg. Roedd Andrew’n derbyn llif cyson o lythyrau edmygol gan ddarllenwyr ar draws y byd, gyda rhai dim ond eisiau mynegi eu gwerthfawrogiad, tra bod eraill yn gofyn cwestiynau a atebodd yn amyneddgar, gan arwain weithiau at drafodaethau hirfaith trwy e-bost. Daeth yr anrhydedd pennaf mewn llythyr wedi ei ysgrifennu â llaw gan Chomsky ei hun, a oedd nid yn unig yn canmol Andrew am gywirdeb ac ansawdd ei waith, ond hefyd yn nodi ei fod, trwy ei ddarllen, wedi dod i ddealltwriaeth gliriach o'i syniadau ei hun.
Ochr yn ochr â’r gwerslyfrau hyn, cynhyrchodd Andrew gyfoeth o waith ymchwil arloesol gwreiddiol ei hun. Yn gynnar yn ei yrfa sefydlodd ei hun fel arbenigwr blaenllaw ar gystrawen ieithoedd Romáwns trwy erthyglau niferus a llyfr ar gystrawen Eidaleg. Yn ddiweddarach cymerodd ddiddordeb mawr mewn caffael iaith mewn plant, gan ddatblygu model cynhyrchiol a gafodd ei grynhoi yn ei lyfr ‘Syntactic Theory and the Acquisition of English Syntax’ ym 1990, a ystyrir yn eang fel carreg filltir arwyddocaol yn y maes hwn. Yn fwy diweddar, yn dilyn ei ymddeoliad yn 2013, daeth o hyd i ffordd i gyfuno dau o’r prif bethau yr oedd yn angerddol drostynt, sef ieithyddiaeth a phêl-droed, a hynny trwy wneud ymchwil ar gystrawen Saesneg llafar, ansafonol. Ffynhonnell sylweddol o’r data empirig ar gyfer yr ymchwil hwn oedd sylwadau digymell gan sylwebwyr pêl-droed.
I’r rhai hynny oedd yn ei adnabod yn dda, mae’n hawdd dychmygu Andrew yn eistedd o flaen y teledu wedi ymgolli yng nghynnwys y rhaglen, ond ar yr un pryd yn cadw golwg am enghreifftiau ieithyddol diddorol a’u nodi’n ddyfal. Cyflwynir ffrwyth yr ymchwil hwn mewn nifer o erthyglau a dau lyfr a gyhoeddwyd yn 2018 a 2019.
Ac yntau’n meddu ar brofiad ymchwil mor drawiadol, gallai Andrew yn hawdd fod wedi osgoi ymgymryd â thasgau gweinyddol beichus. Fodd bynnag, nid dyna oedd ei agwedd. I'r gwrthwyneb, croesawodd rolau uwch reolwr fel cyfle i ddangos arweiniad wrth gyflwyno addysg ac ymchwil. Bu’n Bennaeth Adran drwy gydol ei benodiad ym Mhrifysgol Bangor (1980-89) ac wedi hynny, ym Mhrifysgol Essex, treuliodd dri chyfnod fel Pennaeth Adran ac un fel Deon yr Ysgol Astudiaethau Cymharol fel y’i gelwid bryd hynny. Ym mhob un o'r swyddi hynny, cyflwynodd ambell i newid eithaf radical i amrywiaeth a chynnwys y cyrsiau gradd, yn ogystal â'r dulliau asesu a’r gofynion ar gyfer symud ymlaen, yn aml yn wyneb agweddau hirsefydlog.
Yn dilyn y newyddion am ei farwolaeth, mae nifer o gydweithwyr a chyn-fyfyrwyr wedi rhannu negeseuon yn diolch iddo am y gefnogaeth a roddodd iddynt yn eu gyrfaoedd. Er gwaethaf ei amserlen brysur, roedd bob amser yn dod o hyd i amser i wrando ar eu pryderon, i gynnig arweiniad, a lle bo'n briodol, i hyrwyddo eu hachos o fewn system y brifysgol. Roedd hyn yn arbennig o wir mewn perthynas â staff yr oedd eu cyfraniad yn aml yn cael ei danbrisio, e.e. staff ar gontractau dros dro, contractau rhan amser neu gontractau addysgu'n unig. I lawer o'r rhai yn y sefyllfa hon, bu cefnogaeth Andrew yn fodd iddynt symud ymlaen yn eu gyrfa a gwireddu eu llawn botensial.
Mae’r byd yn dlotach o lawer yn dilyn ei farwolaeth, ond mae’n gadael gwaddol cyfoethog a pharhaol ym maes ieithyddiaeth ac yng nghalonnau’r rhai a gafodd y fraint o’i adnabod.
Ysgrifennwyd y deyrnged hon gan ffrind a chydweithiwr yr Athro Radford ym Mhrifysgol Essex, Dr Mike Jones.