“Byddwn yn cofio Phil fel dyn eithriadol ac ysgolhaig o safon fyd-eang. Ar ei farwolaeth, derbyniodd yr Ysgol Fusnes nifer anhygoel o negeseuon a oedd yn pwysleisio statws academaidd rhyngwladol Phil a'i gyfraniadau clodwiw a hefyd yn cofio ei gymeriad cynnes a hael a’i synnwyr digrifwch gwych.
Enillodd Phil ei radd gyntaf ym 1980, MA ym 1985 a doethuriaeth ym 1993, i gyd ym Mangor. Dechreuodd ei yrfa academaidd fel swyddog ymchwil (1980-82) yn Sefydliad Cyllid Ewropeaidd (IEF) Bangor, gan gymryd rhan mewn project yn ymchwilio i gystadleuaeth mewn bancio yn y Deyrnas Unedig i’r Swyddfa Masnachu Teg. Dechreuodd fel Darlithydd Bancio ym 1987 a chafodd ei ddyrchafu’n gyflym yn Uwch Ddarlithydd ym 1991 ac yna’n Athro ym 1997. Cafodd hefyd ei benodi’n Athro gwadd ym Mhrifysgol Erasmus Rotterdam a Phrifysgol Bocconi. Datblygodd ei arweinyddiaeth academaidd hefyd, a chafodd ei wneud yn Ddirprwy Bennaeth Ysgol yn 2004 ac yn Bennaeth Ysgol yn 2007. Wedi hynny, cafodd ei wneud yn Ddeon y Coleg Busnes, y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas (2010-17).
Yn ystod ei flynyddoedd academaidd ffurfiannol, dylanwadwyd Phil gan ddau economegydd blaenllaw. Yn gyntaf, gan Jack Revell, sylfaenydd yr IEF. Daeth Jack i Fangor o Gaergrawnt, lle'r oedd yn arbenigwr yn y sector ariannol ar astudiaeth enwog ar benderfynyddion twf economaidd y Deyrnas Unedig. Gweithiodd Phil yn agos gyda Jack ar amrywiaeth eang o brojectau a oedd yn canolbwyntio ar newidiadau sefydliadol yn y farchnad ym maes bancio a chyllid a datblygiad polisïau cysylltiedig. Roedd yr astudiaethau hyn yn rhychwantu materion yn ymwneud â strwythur, ymddygiad a pherfformiad, ac wedi datblygu dealltwriaeth drylwyr Phil o sefydliadau a marchnadoedd, a’i sgiliau ysgrifennu a choladu rhagorol.
Yr ail ddylanwad mawr oedd Alan Winters. Daeth Alan hefyd i Fangor o Gaergrawnt, i fod yn Bennaeth yr Adran Economeg ar y pryd. Anogodd Phil i gyfuno ei wybodaeth am sefydliadau a marchnadoedd â sgiliau dadansoddol ac empirig cyflenwol. Helpodd y cyfuniad hwn o ddylanwadau academaidd i wneud Phil yn ysgolhaig rhagorol a chynhyrchodd nid yn unig adroddiadau polisi hynod berthnasol ac ymarferol a chymhwyso profion empirig uwch yn seiliedig ar economeg prif ffrwd, ac ysgrifennodd, a chyd-awduro a golygu llawer o werslyfrau blaenllaw ym maes bancio a chyllid. .
Roedd ymwneud Phil â thri phroject ar raddfa fawr gyda Phrifysgol Caergrawnt yn ystod y 1990au yn arbennig o nodedig: (i) i’r Comisiwn Ewropeaidd (ar effaith Rhaglen y Farchnad Sengl); (ii) i Fanc y Byd; ac (ii) i Drysorlys EM (i’r Ymchwiliad Cruickshank a oedd yn canolbwyntio ar ba mor gystadleuol oedd gwasanaethau benthyca corfforaethol banciau yn y Deyrnas Unedig). Darparodd brojectau fel y rhain rywfaint o'r sylfaen i gyflwyniad Bangor i Ymarfer Asesu Ymchwil 2008 (Ymarfer Asesu Ymchwil Llywodraeth y Deyrnas Unedig) lle'r oedd y brifysgol ar y brig yn y Deyrnas Unedig am ymchwil mewn Cyfrifeg a Chyllid. Dyma'r tro cyntaf erioed i brifysgol yng Nghymru gael ei rhoi yn y lle cyntaf ar banel pwnc yr Ymarfer Asesu Ymchwil. Roedd Phil yn gyfrannwr mawr ac yn gatalydd ar gyfer y canlyniad hwn. Ochr yn ochr ag enw da Phil yn rhyngwladol, roedd y gydnabyddiaeth a gafwyd yn Ymarfer Asesu Ymchwil 2008 yn sbardun i ddenu llawer o ysgolheigion a myfyrwyr rhagorol i Fangor. Bu hefyd yn hwyluso’r gwaith o ddarparu rhaglenni Meistr Bangor mewn lleoliad blaenllaw yn Ninas Llundain am nifer o flynyddoedd, menter y bu Phil yn allweddol ynddi. Chwaraeodd Phil ran allweddol hefyd yn y gwaith o sefydlu a chyflwyno’r MBA Chartered Banker, sy’n parhau fel rhaglen unigryw i swyddogion gweithredol mewn bancio a chyllid ac mae ganddi dros 1000 o raddedigion.
Roedd cynnyrch ymchwil Phil yn syfrdanol, gyda llawer o gydweithwyr yn cofio'r ymadrodd ‘let’s blast this’ pan oedd dyddiad cau yn agosáu. Cynhyrchodd ymhell dros 100 o erthyglau a phapurau, a bydd llawer ohonynt yn parhau i gael eu dyfynnu am flynyddoedd i ddod oherwydd eu dylanwad a'u craffter. Mae gan Phil bron i 30,000 o ddyfyniadau ar Google Scholar.
Cyhoeddodd Phil nifer o werslyfrau a chyfeirir at rai enghreifftiau allweddol yma. Cyhoeddwyd y cyntaf ym 1990 gyda’r teitl Banking: An Introductory Text. Llenwodd y cyhoeddiad hwn fwlch gan nad oedd testun arbenigol o'r natur hon cyn hynny. Dilynwyd hyn gan Changes in Western European Banking (1990, 1993, gyda E.P.M. Gardener). Datblygodd Phil gyrsiau arloesol mewn 'Comparative Banking' a 'Industrial Structure of Banking', ac roedd ei destun 'Efficiency in European Banking' (1996, gyda Y. Altunbas ac E.P.M. Gardener) yn sail i'r modiwlau unigryw hyn yn rhaglenni Bangor. Yn 2005, cyhoeddodd Phil destunau ar Islamic Banking (gyda M.I. Asaria) ac Arab Banking and Financial Systems (gydag M.I. Asaria). Roedd y rhain yn hynod arloesol ac maent yn parhau i fod yn sail i raglenni Meistr arbenigol a gynigir ym Mangor. Yn 2006, cyhoeddwyd argraffiad cyntaf Introduction to Banking (gyda B. Casu a C. Girardone), yr 2ail argraffiad yn 2015 a’r 3ydd yn 2021. Defnyddir y testun hwn yn eang iawn i ddysgu myfyrwyr bancio israddedig mewn llawer o brifysgolion ledled y byd. Cyhoeddwyd wythfed argraffiad An Introduction to Global Financial Markets (gydag S. Valdez) yn 2015. Golygodd Phil yr Oxford Handbook of Banking yn 2010 (2ail argraffiad yn 2015 a 3ydd argraffiad yn 2019, gydag A.N. Berger a J.O.S. Wilson) sydd wedi dod yn destun safonol byd-eang ar gyrsiau lefel Meistr mewn bancio. Golygodd Phil dros 140 o destunau yn y gyfres Palgrave McMillan Studies in Banking and Financial Institutions.
Fel arloeswr a ffigwr amlwg ym maes ymchwil bancio, gwasanaethodd Phil y byd academaidd fel uwch olygydd, gan gynnwys bod yn brif olygydd materion arbennig mewn cyfnodolion academaidd rhyngwladol o bwys. Rhwng 1995 a 2017, Phil oedd golygydd gweithredol World Banking Abstracts. Oherwydd cyfraniadau rhagorol Phil at gyfrifeg fyd-eang ac addysg ariannol, ymchwil ac arweinyddiaeth, yn enwedig ym myd bancio, dyfarnodd y British Accounting & Finance Association wobr BAFA ‘Distinguished Academic’ iddo yn 2012. Roedd Phil hefyd yn uchel ei barch mewn cymdeithasau academaidd eraill, gan gynnwys y 'Wolpertinger Club', cymdeithas ryngwladol o academyddion prifysgol sydd â diddordeb cyffredin mewn economeg systemau a sefydliadau ariannol ac addysg brifysgol yn y meysydd hyn.
Roedd Phil bob amser yn un o’r athrawon gorau yn yr Ysgol Busnes ac roedd ei fyfyrwyr yn ei garu a’i barchu, fel ei gydweithwyr academaidd. Goruchwyliodd Phil dros 30 o brojectau doethurol llwyddiannus ac mae ei raddedigion wedi symud ymlaen i yrfaoedd disglair yn y byd academaidd, sefydliadau polisi a’r diwydiant ariannol. Ar achlysur hanner can mlwyddiant yr IEF, cynhaliwyd gweithdy yn yr hydref yn 2023 a daeth casgliad go arbennig o gyn-fyfyrwyr a chydweithwyr Phil ynghyd. Roedd hyn yn gynrychiolaeth wych o etifeddiaeth academaidd Phil.
Roedd Phil yn llawn hwyl, hiwmor a charedigrwydd. Byddwn yn adrodd am un digwyddiad yma (o blith llawer iawn) i ddangos y nodweddion annwyl hyn. Un noson, roedd mab Ted Gardener yn gwneud ei waith cartref yn swyddfa Ted, tra roedd Ted mewn cyfarfod. Roedd cnoc ar ddrws y swyddfa a rhuthrodd Phil i mewn gan ebychu: “You look young again, Ted, and you have got your hair back. I have come to see you about negotiating a pay rise”.
Ond yn sicr roedd Phil yn gallu bod yn ddifrifol pan oedd angen. Fel Deon neu Bennaeth Ysgol, roedd ei gydweithwyr bob amser yn parchu cod moesol Phil a'i flaenoriaethau strategol. Os oedd rhaid gwneud penderfyniad anodd a oedd yn cynnwys cydbwyso nodau neu adnoddau oedd yn gwrthdaro, yn enwedig os oedd yn ymwneud â phobl, roedd Phil yn llwyddo i ddod o hyd i'r ateb cywir bob amser. Ni chyfaddawdodd erioed ar yr hyn oedd yn iawn i unrhyw un o'n myfyrwyr, staff neu eu perthnasau.
Ar ôl 40 mlynedd ym Mangor fel myfyriwr ac academydd, dechreuodd Phil ar bennod newydd yn ei yrfa a threuliodd bedair blynedd fel Deon y College of Business Administration ym Mhrifysgol Sharjah o 2017-21. Cyfeiriodd ei gydweithwyr yno at ei rinweddau fel gwir arweinydd oedd bob amser ag agwedd gadarnhaol ac yn ffynhonnell o gefnogaeth ddiwyro; roedd ei wên yn arwydd cyson o obaith yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol.
Roedd Phil mor falch o Delyth, ei wraig gefnogol, a'i deulu. Eu cariad a’u cefnogaeth oedd sylfaen yr yrfa ddisglair yr ydym i gyd mor ddiolchgar iddo ei chael. Rydym hefyd yn cofio am gefnogaeth ffyddlon Phil i Burnley FC, a choffawyd hynny gan y lliwiau clared a glas yn ei angladd.
I bawb a oedd yn adnabod Phil, roedd yn un o’r goreuon.”
Yr Athro Owain Ap Gwilym, Dirprwy Pennaeth Ysgol Busnes Bangor