Am wasanaeth i adloniant poblogaidd a chyfraniad at ddysgu trwy bob cyfrwng
Mae Tudur Owen yn enw cyfarwydd yng Nghymru ac yn ddigrifwr sydd wedi ennill BAFTA. Mae’n cyfuno agwedd Gymreig gryf gydag arddull hwyliog a siriol. Mae Tudur yn adnabyddus am ei slot penwythnos rheolaidd ar BBC Radio Cymru. Cynhaliodd sioe sgwrsio ar S4C, ac ef yw troslais rhaglen Saesneg BBC Cymru Wales sy’n adolygu hen raglenni a wnaed yng Nghymru. Mae’n aelod o Orsedd y Beirdd.Mae gan Tudur ddawn i ddenu cynulleidfaoedd newydd, yn enwedig y bobl hynny na fyddai fel rheol yn gwylio nac yn gwrando ar raglenni Cymraeg, gan ehangu mynediad i’r Gymraeg.
Dyn camera bywyd gwyllt a aned yn Swdan yw Hamza Yassin, sy’n adnabyddus am ei waith ar Countryfile y BBC. Mae ganddo radd mewn Sŵoleg gyda Chadwraeth o Brifysgol Bangor a gradd Meistr mewn Ffotograffiaeth Fiolegol o Brifysgol Nottingham.Mae Hamza wedi creu gyrfa mewn gwneud ffilmiau bywyd gwyllt, gan gymryd ysbrydoliaeth o Ogledd Cymru a’r Alban. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar y teledu ar Let’s Go for a Walk gan CBeebies, fel Ranger Hamza. Yn 2020 cyflwynodd Scotland: My Life in the Wildac yn 2021 ymunodd â’r gyfres hirsefydlog, Animal Park.
Am Wasanaeth Cyhoeddus (gan gynnwys Iechyd)
Roedd y Gwir Anrhydeddus Robert Buckland QC yn Arglwydd Ganghellor ac yn Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder o 2019-2021. Cyn hynny bu’n Weinidog Gwladol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac yn Gyfreithiwr Cyffredinol. Cafodd ei ethol yn AS Ceidwadol De Swindon yn 2010.Ganed yn Llanelli ym 1968, graddiodd o Brifysgol Durham a mynychodd Ysgol y Gyfraith Ysbytai’r Brawdlys lle enillodd wobr Eiriolaeth. Cafodd ei alw i’r Bar ym 1991. Yn 2009, penodwyd Robert yn Gofiadur Llys y Goron, yn eistedd ar Gylchdaith Canolbarth Lloegr.
Graddiodd Dr Rebecca Heaton gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Coedwigaeth o Brifysgol Bangor yn 1993 ac aeth ymlaen i gwblhau PhD ar dyfu ac economeg cnydau ynni ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2000, cyn mynd ymlaen i wneud ymchwil ôl-ddoethurol. Rhwng 2017 a 2021, bu Rebecca yn aelod o Bwyllgor y Deyrnas Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd. Mae hi'n arweinydd yn ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd. Yn 2021 cafodd ei dewis yn un o gant o 'fenywod i'w gwylio mewn busnes' yn yr arolwg blynyddol gan Brifysgol Cranfield, ac yn gynharach eleni fe'i penodwyd i’r swydd Uwch Gyfarwyddwr Cynaliadwyedd Amgylcheddol Grŵp Bancio Lloyds, gan oruchwylio eu cynllun i gyflawni Sero Net.
Graddiodd Zaha Waheed gyda BSc mewn Bioleg Môr ac Eigioneg o Brifysgol Bangor yn 1996. Mae’n Weinidog yn Swyddfa’r Llywydd yn y Maldives. Mae hi wedi gwneud cyfraniadau amhrisiadwy i’r Maldives mewn pysgodfeydd, gwyddorau môr a rheoli trychinebau, gan gynnwys sefydlu llwyfan cenedlaethol ar gyfer lleihau risg trychineb a gwella rhaglenni rheoli risg trychineb yn y gymuned. Yn dilyn tswnami Gŵyl San Steffan yn 2004, bu Zaha yn gweithio fel Cydlynydd Adferiad yn y Ganolfan Genedlaethol Rheoli Trychinebau a bu’n Ddirprwy Bennaeth yr uned sy’n rheoli pobl wedi’u dadleol.
Mae Ruby Wax OBE yn actores Americanaidd-Brydeinig, digrifwraig, awdur, personoliaeth deledu ac ymgyrchydd iechyd meddwl. Mae ganddi gysylltiadau ymchwil ac addysgu ag Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol Prifysgol Bangor ac, yn benodol, gyda Chanolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar y Brifysgol. Bu ar enciliadau Ymwybyddiaeth Ofalgar, gan ddefnyddio ei phrofiadau i ddeall mwy am sut y gall ymwybyddiaeth ofalgar ddarparu cymorth therapiwtig i bobl sy'n byw gydag iselder a phryder. Mae Ruby wedi ysgrifennu sawl testun arall am ymwybyddiaeth ofalgar ac iechyd meddwl, ac wedi casglu byddin o gefnogwyr enwog, gan gynnwys Stephen Fry, Davina McCall, Goldie Hawn a Russell Brand, yn ogystal ag academyddion o fri fel yr Athro Jon Kabat-Zinn, Mark Williams, a Daniel Siegel. Mae hi'n llysgennad i Gymdeithas Niwrowyddoniaeth Prydain ac i'r elusennau iechyd meddwl MIND a SANE. Hi yw llywydd Relate a Changhellor Prifysgol Southampton.
Am lwyddiant mewn chwaraeon
Rachel Taylor is the performance coach for Sale Sharks Rugby Club. She is the only player to have captained both 7’s and 15’s Welsh international sides and played for every region as well in three World Cups. She won her first international cap in the Six Nations against Canada in 2007 and became captain in 2012.Capped 67 times for Wales, Rachel is an inspirational female sports person and excellent ambassador for Wales and for women’s rugby. Educated in Llandudno, she is a trained para-veterinary worker.
Am gyfraniad i ddiwylliant, iaith, cerddoriaeth a’r celfyddydau yng Nghymru
Mae Arfon Jones wedi cyfrannu at ddiwylliant crefyddol Cymru, yn bennaf wrth gynhyrchu testun dealladwy ac academaidd gyfrifol o’r Beibl Cymraeg sy’n gweddu i ddiwylliant cyfoes. Graddiodd Arfon o Brifysgol Bangor, a dechreuodd gyfieithu’r ysgrythur i’r Gymraeg i ddysgwyr ifanc yn y 1990au. Mae ei waith wedi’i gyhoeddi’n electronig gyda 27 o lyfrau’r Testament Newydd a 39 o lyfrau’r Hen Destament.Cyhoeddodd Cymdeithas y Beibl beibl.net ochr yn ochr â’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig ac mae’n ei ystyried yn fersiwn gydnabyddedig ar gyfer yr oes ddigidol.
Mae Sasha, a aned yn Alexander Paul Coe, yn DJ a chynhyrchydd recordiau, a aned ym Mangor. Mae’n adnabyddus am ei ddigwyddiadau byw a’i gerddoriaeth electronig fel artist unigol yn ogystal â chydweithrediadau fel Sasha & John Digweed. Cafodd ei ethol yn DJ Rhif 1 y Byd mewn arolwg barn a gynhaliwyd gan DJ Magazine ac mae wedi ennill Gwobr Cerddoriaeth Ddawns Ryngwladol bedair gwaith, gwobr DJ bedair gwaith ac wedi’i enwebu am wobr Grammy.Fe wnaeth defnydd Sasha o offer peirianneg sain byw helpu i boblogeiddio arloesiadau technolegol ymhlith DJs a oedd yn arfer dibynnu ar recordiau a byrddau tro.
Graddiodd Menai Williams ym Mhrifysgol Bangor a hi yw un o diwtoriaid, cyfansoddwyr a beirniaid cerdd mwyaf blaenllaw Cymru. Bu’n delynores ac yn feirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers dros 40 mlynedd. Mae Menai wedi cyfansoddi nifer o geinciau cerdd dant a ddefnyddir mewn digwyddiadau cenedlaethol ledled Cymru. Bu’n arwain sawl côr meibion gan ddod yn fuddugol ar sawl achlysur. Er bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn llwyddo wrth feithrin doniau arweinyddesau, hi oedd y ferch gyntaf i dderbyn Medal Goffa Ivor E. Simms am ennill prif wobr corau meibion y brifwyl.
Am ysgolheictod ac arloesedd rhagorol
Mae’r Arglwydd John Krebs FRS yn swolegydd o fri. Graddiodd o Goleg Penfro, Rhydychen, cyn dal swyddi ym Mhrifysgol British Columbia a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor. Etholwyd ef yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ym 1984.Bu’n Brif Weithredwr Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol o 1994-1999 ac fe’i gwnaed yn farchog ym 1999. Ef oedd cadeirydd cyntaf yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac yn 2007 daeth yn arglwydd am oes y meinciau croes yn Nhŷ’r Arglwyddi. Bu’r Arglwydd Krebs yn Bennaeth Coleg yr Iesu, Rhydychen, am ddegawd tan 2015. Roedd yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd ac yn gadeirydd yr Is-bwyllgor Ymaddasu rhwng 2009 a 2017.
Am wasanaeth i fusnes ac entrepreneuriaeth
Simon Gibson CBE yw cadeirydd Sefydliad Entrepreneuriaeth Graddedig Alacrity a Phrif Weithredwr cwmni daliannol a rheolwyr buddsoddi, Wesley Clover Wales. Mae Simon yn gadeirydd sawl cwmni technoleg ac mae’n Gyfarwyddwr anweithredol y Celtic Manor Resort. Ef yw Dirprwy Lywodraethwr Coleg Harris Manchester, Rhydychen, ac mae’n Athro yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe. Mae ganddo hanes hir mewn cynghori cyrff cyhoeddus ac mae’n gadeirydd Panel Cynghori 5G Cymru ac yn ymddiriedolwr Sefydliad Elusennol Trecelyn. Derbyniodd CBE am wasanaethau i economi Cymru yn 2018, ac mae’n Ddirprwy Arglwydd Raglaw Gwent.
Mae Nigel Short yn gyfarwyddwr Wisgi Penderyn ac wedi gwasanaethu mewn sawl rôl gan gynnwys Cadeirydd Gweithredol ers y lansiad swyddogol yn 2004.Wedi’i eni a’i fagu yng Nghwm Cynon, dim ond ychydig filltiroedd o’r ddistyllfa, treuliodd Nigel 25 mlynedd yn gweithio yn y diwydiant dur gan gyflogi 1,500 o bobl mewn chwe gwlad, gan ymgymryd â logisteg soffistigedig ar y safle.Mae Nigel hefyd yn rhedeg fferm 400 erw gig oen ac eidion organig yn Sir Gaerfyrddin. Mae wedi hyfforddi rygbi iau ers sawl blwyddyn ac mae’n ddyfarnwr rygbi cymwys.
Mae Dr Debra Williams yn gyd-sylfaenydd y wefan cymharu prisiau, confused.com. Mae ganddi brofiad masnachol eang yn cynnwys arweinyddiaeth, e-fasnach a mentora, ar ôl dal swyddi gweithredol ac anweithredol mewn cwmnïau gan gynnwys Grŵp Admiral, Banc Tesco a Rygbi’r Gweilch. Mae Debra yn dal swyddi lefel bwrdd gyda Gyrfa Cymru, Cymdeithas Adeiladu Principality a Chomisiwn Democratiaeth Cymru. Mae hi’n ymddiriedolwr i Sefydliad Alacrity a Chymorth i Ddioddefwyr Cymru ochr yn ochr â’i gwaith fel llysgennad busnes ar gyfer Tŷ Hafan. Hi oedd Cymraes y Flwyddyn ar gyfer Arloesedd a chafodd ei chydnabod yn un o 200 o fenywod busnes gorau’r Deyrnas Unedig yn 2007.
Am wasanaeth i addysg
Simon Thompson yw Prif Weithredwr Sefydliad y Bancwyr Siartredig sy’n gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor i ddarparu ein MBA Banciwr Siartredig, yr unig gymhwyster bancio yn y byd sy’n cyfuno MBA a statws Banciwr Siartredig. Lansiodd Simon gronfa ysgoloriaeth gwerth £1m (Sefydliad 2025) i gefnogi pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig sy’n ymuno â’r proffesiwn bancio. Yn 2019, gofynnwyd i Simon arwain â datblygu Siarter Addysg Cyllid Gwyrdd y Deyrnas Unedig sy’n cynnwys 12 o gyrff cyllid y Deyrnas Unedig a’r Green Finance Institute, ac mae wedi dod yn awdurdod cydnabyddedig ar gyllid cynaliadwy.