Manylion
Yr Athro Nichola Callow
Dirprwy Is-ganghellor a Phennaeth y Coleg Gwyddorau Dynol
+44 (0)1248 388243
Prifysgol Bangor
Derbyniodd Yr Athro Nichola Callow radd BSc mewn Addysg Gorfforol a Seicoleg o Brifysgol Bangor ym 1991, TAR mewn Gweithgareddau Awyr Agored a Gwyddoniaeth ym 1992 a PhD mewn Seicoleg Chwaraeon yn 2000. Derbyniodd ei Chadair Bersonol yn 2012 ac ar hyn o bryd mae'n Ddeon Coleg y Gwyddorau Dynol. Fel rhan o'i swydd, mae'r Athro Callow yn aelod annibynnol (Prifysgol) o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwladr.
Mae'r Athro Callow yn Seicolegydd Siartredig Cymdeithas Seicoleg Prydain ac yn aelod amlwg a chynhyrchiol o Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Cynhyrchodd y Sefydliad oddeutu 50% o gyflwyniad yr Ysgol i REF 2014, a denodd dros £2 filiwn o grantiau, gan gynnwys cysylltiadau ymchwil rhagorol â sefydliadau elît (Bwrdd Criced Lloegr, UKSport, British Gymnastics, England Institute for Sport a Chwaraeon Cymru).
Mae ganddi enw da yn rhyngwladol am ei hymchwil yn ymwneud â delweddaeth a pherfformiad chwaraeon, ac mae hefyd yn gwneud ymchwil ym meysydd arweinyddiaeth, dynameg grŵp a gwytnwch. Mae gwedd drawsfudol i'w hymchwil (theori i ymarfer) ar lefel elît a phroffesiynol ac yn ddiweddar mae wedi sicrhau cyllid ymchwil sylweddol gan City Football Services y mae ei bortffolio'n cynnwys Clwb Pêl-droed Manchester City.